Posts

Showing posts from February, 2004
Comic Strips... Sinfest Hehehe...aah.
Ffilm: ...estynwch y sach chwd. Losman's Slasher City - Really Disturbing Movies Ma na ffilmiau ffycd yp fan hyn. Ydi o'n adlewyrchu rwbath arna fi bo fi di gweld eu hanner nhw(...o leia). Aaaarghuuuyyystrtrtr! Salo yn gorfod bod y ffilm fwy twisted i fi ei gweld erioed, wedi'w ddilyn yn agos gan Man Bites Dog (mae o'n ddoniol iawn hefyd...).
Ffilm: Be ddigwyddodd i Moviedrome ar BBC2? Mae'n rhaid deud fod Moviedrome wedi dylanwadu'n aruthrol ar y math o ffilmiau dwi'n mwynhau gwylio. Roedd yn gymaint o agoriad llygad, ac yn donic perffaith ar nos Sul. Dyna lle darganfyddais The Conversation, The Demon Seed, Picnic At Hanging Rock a llawer mwy...dowch a fo nol plis BBC! Ambell ddolen gyda chlod iddo a rhestrau o'r ffilmiau a ddangoswyd gyda dolenni IMDb. Dowch a fo nol...dwi'n teimllo llythyr i'r BBC'n dod mlaen... Sizemore: Moviedrome Kurtodrome: Moviedrome : ma na dudalen dolenni ffilmiau cwlt wych fan hyn 'fyd Kaprisky: Introductions to films from UK TV
Ffilm: Stalker ANDREI TARKOVSKY'S CINEMA OF SPIRITUALITY Tarkovsky yn Senses of cinema
Blodau yng Nghymraeg(!) Lluniau Blodau o Warchodfa Natur Cilygroeslwyd Mae na rai enwau ANGHYGOEL o wych fan'ma. Crafanc Yr Arth Ddrewllyd! Pidyn y Gog! Clychlys Dail Danadl! ...mae'r Gymraeg yn rhyfeddu rhywun weithia a'i phrydferthwch...
Y Wê Gymraeg: Odli Wel, wel, yr Yr Odliadur ar lein. Oes rhywbeth yn odli efo "odli" ta? Dwi'm yn meddwl fod 'na. Hy, erironi!
Ffilm: Blogdigedig Milk Plus: a discussion of film Blog Americanaidd am ffilm sydd hefo rhestr hyd braich yr hogan efo breichia hir o gan wych Ffa Coffi Pawb o ddolenni i flogiau ffilm eraill Americanaidd. Edrych fel lle da i hongian fel gibbon gangli breichiog am chydig... Be di Gibbon yn Gymraeg dwch?
Y Wê Gymraeg Wedi dod ar draws safle Wicipedia sef gwyddoniadur Cymraeg ar-lein, tra'n pori drwy gysyllytiadur/ddoleniadur Miri Mawr.com . Do'n i ddim yn gwybod ei fod yn bodoli, nais won Miri Mawr. Bydd dolen i Rwdls Nwdls yno cyn hir hefyd - hwre!
Ffilm: DVD Addiction, The (1995) Cyf: Abel Ferrara Roedd hon yn siom fawr, ar ol mwynhau Kings Of New York ag eitha mwynhau The Funeral roedd gen i ddisgwyliadau am ffilm ddiddorol am Vampires yn Efrog Newydd...ffilm or-ffycin pretentious a knowing i fi. Galwch fi'n thic ond, pan ma'r blydi pobol yn gollwng dyfyniadau Nietszche; Kirkegaard a Heidegger ar hyd y lle bob man mae o chydig yn ormod i'w amsugno. Do'n i ddim yn deall o gwbwl a doedd dim arall ynddo i gadw'n niddordeb i wedi hynny. Doedd Walken mond ynddo fo am 2 funud - ac roedd ei actio yn y darn hwnnw lot dros y top - gneud parodi o'i hun heb drio. Mae'n edrych yn gret yn y du a gwyn sy'n mudlosgi ond o'n i'n teimlo fel bod athronydd wedi sugno'r bywyd i gyd allan ohona i ag erbyn y diwedd o'n i jest isio gwylio Goonies. Ella i rywun mwy deallus, fod hon yn hyfryd - ymdrabaeddwch yn eich gwybodusiaeth (a'ch holl-wybodusiaeth), ond i fi doedd hi'n ddim ond tyr
Ffilm: Sinema Shaun of the Dead - Coming Soon! Wele dreilyr "Shaun Of The Dead" sydd wedi dod o bennau y clyfrod a ddyfeisiodd y gyfres gomedi wych "Spaced" . Mae'n edrych yn ddoniol tu hwnt mewn ffordd amaturaidd iawn ac yn debyg yn ei wybodusrwydd ffilm a "Spaced" - ffilm i ffilm geeks. Anaml iawn dwi'n gwylio trailers ar y we, dwi'n teimlo fod nhw'n gallu sbwylio'r ffilm braidd - ond y tro hwn roedd y gymysgedd o zombies a Simon Pegg yn rhy ddeniadol. Ebrill 4ydd y daw hi at eich sgrin leol.
Gigio: Jazzflasus Fues i weld Courtney Pine neithiwr draw yn yr Engine Rooms ym Mae Caerdydd. Oedd o'n wych fel arfer er chydig yn fwy subdued nag arfer ef osawl can lle nad oedd yn chwarae o gwbl. Mi ddudodd o fod o wedi blino wedi teithio lot...Ond mi gychwynnodd y set yn gret gyda fersiwn o'r glasur "Sunny" gan Bobby Hebb oed yn eitha arferol i gychwyn wedyn fe chwalodd o hi'n racs. Mi aeth drwy sawl steil gwahanol o Affricanaidd i Reggae i Jazz-Funk mwy traddodiadol ond pan oedd o ar ei Sax, roedd yn anghygoel. Mae'r synau sy'n dod allan o'i offeryn weithiau jest yn eich synnu chi, gafon ni ddim y tric "dau sacs r'un pryd" ond hei gafon ni amser da iawn. Mae na tiwns gan Courtney fan hyn .
Ffilm: Teledu Serpico (1973) Wedi darllen y llyfr oes yn ol a'i fwynhau. Roedd gwep Pacino ar glawr hwnnw, felly dyna oedd y boi yn edrach fel i fi beth bynnag. film dda, methu coelio mod i heb weld French Connection 1 a dau. Am wylio nhw'n fuan, ma'r sdwff cops a sdrydoedd aflan Efrog Newydd canol 70'au na'n shit hot. Ma'r ffilm sdoc ma'n nhw'n iwsio yn hyfryd i sbio arno 'fyd. Lliwiau saturates neis, sy'n gweithio'n dda mewn dinas i roi bywyd i'r lle llwm.
Ffilm: Lost In Translation Guardian Unlimited | Special reports | Totally lost in translation Erthygl o berspectif person Siapano-Americanaidd sy'n son am hiliaeth ffilm Sofia Coppolla. Faswn i ddim yn mynd mor bell a be ma hi'n deud yn yr erthygl ond roedd o'n ddiflas a di-angen. Cheap. Sa neb arall di gweld hynna? Mae be ma hi'n deud am y 5 star hotel yn wir, as if basa ganddyn nhw showers mor fach!
Ffilm: Cymru Guardian Unlimited Film | News | Welsh Hollywood goes back to its bardic roots Erthygl am ffilm Marc Evans (yn ogystal a Gruff Davies, Rhodri Glyn Davies, Dave Evans, Chris Forster, Ieuan Morris, Ed Talfan, Ed Thomas, Bedwyr Williams ) Dal: Yma / Nawr yn y Guardian heddiw. Dwi'n gobeithio'i weld o ar y daith ar ol i mi ei fethu yn Sdeddfod a'r Wyl Sgrin yng Nghaerdydd er dwi ddim yn codi ngobeithion, byddai'n ffilmd owt erbyn dydd Gwenar a jest isio vejiteteiddio. DVD fydd hi am wn i, er dwi ar ddeall na fasa fo'n gweithio cystal ar y fformat yna... Mae'r cerddi i gyd yma .
Ffilm: Sinema (Gwyl Pictiwrs Cymru) I'll Sleep When I'm Dead (2003) Cyf: Mike Hodges Mae o wedi gwneud sawl ffilm dda: Get Carter(1971); Flash Gordon(1980) (ydi...mae hi'n dda iawn mewn ffordd pnawn dydd Sadwrn glawiog); Croupier(1998) yn ddiweddarach. Ond, mae hefyd wedi gwneud sawl ffilm sydd heb hyd yn oed hitio'r radar, ac yn anffodus deud, mae hon yn un o'r rheiny. I ddechrau mae Clive Owen yn actor allai fod yn fawr iawn, ond yn hon mae'n ddi-fflach ac yn pwdu o gwmpas y lle fel sach datws fawr farfog. Mae o'n edrych yn bord hollol. Yn ail, mae'r perfformiadau eraill mor bren a phont Penmaenpwl, yn gadael ti'n gwingo (yn arbennig y ddynes gefn gwlad Cymreig "I've been to London, twice. I was scared"...FFFYCOFFFYRHALIWRJIRAFFUFFAR!). Dim posib cael ffordd mewn i unrhyw ddarn o'r ffilm wedyn. Yn drydedd, mae'r deialog yn dod allan o gegau'r actorion fel dribl babi blwydd, deud y gwir does fawr y galla
Ffilm: Michel Gondry Gwefan ei ffilm newydd "The Eternal Beauty of The Spotless Mind" yn serennu Jim Carrey a Kirsten Dunst: Lacuna Inc. Od iawn...
Ffilm: Cymru Gwefan y ffilm "Powerless" , sy'n cael ei saethu yng Ngorllewin Cymru ar hyn o bryd. Pob lwc iddynt. Gobeithio gawn ni gyfle i'w gweldyng Ngwyl Sgrin Caerdydd ym mis Tachwedd. Stori'r BBC amdan y teulu talentog.
Maths a ballu: Fractals Java Applet bach difyr yn gadael i chi wneud snowflake fractals a symud nhw o gwmpas. Neis iawn. Ffeindio hwn o wefan African Fractals Prof Ron Eglash
Miwsig: Tecno A History of Techno by Jon Savage - JahSonic.com Mwy o sdwff o JahSonic...
Hanes Cymru Y Drych Digidol - Trysorau - Hunangofiant Smyglwr Tra'n ychwnaegu sdwff i'r Rhegiadur nesh i chwilio am y gair 'trythyllwch' (sexual indulgence) ar y we a ddes i ar draws yr em yma, sef hanes y dihiryn a sgamp (a llofrudd...), William Owen oedd ei hun yn 'ymdrabaeddu mewn trythyllwch'! Mae ei hanes yn ddifyr iawn ac wedi ei gofnodi yn y Llyfrgell Gendlaethol yn ei hunangofiant. Am fywyd: ar y mor, yn ymladd Sbaenwyr a Lladron eraill a merch ym mhob porthladd. Yarrr! Sdwff da iawn ar y wefan drych digidol ma: mapiau cynnar Lewis Morris a William Morris o Aber y Fawddach a bas data chwiliadwy o luniau Geoff Charles o'r 20fed ganrif . Dyma rai lluniau o Ddolgellau: Agoriad Neuadd Sir Feirionnydd, Dolgellau, Ion 30, 1953. Hen gegin ffarm Dewisbren, Rhydymain 1952. Arwerthiant Da Duon, Mart Dolgellau, Mawrth 26, 1954. (Fan hyn mae nhad yn arwerthu!) Hefyd wedi darganfod hwn ar archif bandiau link2wales.co.uk :
Celf: G39, Caerdydd Man Ymadael Arddangosfa o waith gosod (installation?) yn oriel G39 sy'n cychwyn ddydd Mercher ym tan y 27ain o Fawrth. Nesh i joio gwaith Sara Fletcher yn y Sdeddfod a'r ffilm fer y cyd-sgwennodd hi i gynllun Screen Gems a mae hwn yn swnio'n reit ddiddorol.
Ffilm: DVD Lost In La Mancha (2002) Cyf: Keith Fulton a Louis Pepe Wel, am fasdad anlwcus oedd Gilliam ar set hon. Druan o'r boi, ond nath y curse daro'r set gyda'i holl nerth, dilyw, salwch, iw nem ut ddei had ut. O'n i'n dechra meddwl fod y curse wedi hitio'n ffacin DVD player i, oedd y basdad yn sgipio nol i'r cychwyn drwy'r amsar a mynd ar y nyrfs i. Iesu! (newydd ddarllen y paragraff uchod yn ol, am Gymraeg hyll! Oes na eiria Cymraeg yna dwad?). Beth bynnag, ffilm ddogfen ddigon taclus am y broses o wneud ffilm, ond ma'n rhoi rhywun off bod yn gynhyrchydd ffilm budget $33 miliwn am byth. Oedd y ffilm ei hun yn edrach reit ddifyr 'fyd. Wel, ella daw hi rownd eto, pwy a wyr.
Y We / Ffilm: Gweithredu Drwy Fideo yn Abertawe - Undercurrents Undercurrents.org MAe'r grwp yma wedi bod yn gneud fideos i ddangos y newyddion nad ydi'r "newyddion" yn dangos ers dros 10 mlynedd, ac wedi bod yn Abertawe ers 5. Mae'n nhw'n swnio fel grwp brwdrfydig iawn ac heb fawr o gymorth wedi setio fyny gwyl i ddangos eu ffilmiau a chynhadledd ym mis Ebrill. Mae'n nhw' delio'n bennaf a phynciau cymdeithasol, amgylcheddol, globaleiddio ac ati. Wedi cael copi o un o'u fids nhw felly fyddai'n adrodd nol efo barn cyn hir. Peth diddorol arall sydd ganddyn nhw ar werth ydy'r Activists Media Toolkit, llawn gwybodaeth ar sut i gael sylw yn y wasg am be da chi'n gneud. Ella ddylsa Cymdeithas yr Iaith gael cip ;-)
Ffilm: Newyddion ScreenDaily.com - Blueberry Damia'r adolygiad yma, a fin'na wedi gobeithio cael gwledd gan hon. Edrych fel taw ymdrech wan arall Ffrengig i wneud blocbystyr, a Eddie Izzard druan o bosib am fod mewn fflop arall!
Ffilm: Sinema Invasions barbares, Les (2003) Cyf: Denys Arcand Wedi i hon ennill y gwobrau Sgript Ffilm ac Actores Gorau yn Cannes 2003 r'on i'n edrych mlaen yn arw i weld y ffilm Quebecois hon. Ches i mo'n siomi (am yr ail waith wythnos yma!). Roedd hi'n sdori am ddyn yn marw o ganser ac yn ceisio dod i delerau a hyn a chymodi gyda'i fab alltud sydd wedi dychwelyd o'i waith fel stockbroker yn Llundain. Mae'r ffilm yn trin y mater mewn ffordd ddeallus iawn a byth yn insyltio'r gynulleidfa drwy dwpio'i hun (dumbing down?), mae'r sgript wir yn danbaid o ffraeth a bu i mi chwerthin drwy'r ffilm (a dim jest ar y boi'n chwyrnu o mlaen i!). Mae hi hefyd yn drist wrth gwrs ond mae fel eich bod chi hefyd yn dod i delerau a'r ffaith fod Rémy wyllt, yn gorfod marw, a'i fod wedi newid pethau gyda'i fywyd. Mae yna gymaint o gymeriadau credadwy, difyr ac, yn bwysig, amherffaith ynddo fel na allwch chi help bod yn rhan o'r
Y We: Barddoniaeth Diwedd Blwyddyn Awdur: Tryfanwy (John Richard Williams) (1867-1924) Mae'r bardd uchod yn hen daid neu wncwl neu rwbath i fi. Raid i fi ffeidio allan pa un, dwi wastad yn cowlio rhwng Tryfanog sef brawd fy nhaid a Tryfanwy oedd yn daid neu wncwl iddyn nhw ella. Ma rhai o nheulu i'n dal i fyw yn Rhostryfan hyd heddiw. Nai sgwennu cerdd gan Tryfanog yma ym mhen cwpwl o ddyddiau. Oddi ar Llyfrgell Owen . Llond trol o gerddi Cymreig ar-lein.
Riots yr Aborigine yn Redfern smh.com.au - The Sydney Morning Herald Mae na dueddiad o feddwl fod Aborigine's Awstralia yn feddwyns a bums, ond mae hyn yn dangos na allwch chi wthio pobol i gornel heb ddisgwyl canlyniadau. Mae darnau o Redfern yn ghetto hollol na all bobol fynd iddo a mae'r heddlu yn cadw yr Aborigine's yna a rhoi dim cymorth iddyn nhw. Dyma adroddiad oddi ar deledu Awstralaidd , ddim yn siwr pa sianel. Er nad ydwi'n gefnogol o drais, ma hi'n braf gweld bach o dan ynddyn nhw. Sianelu hwnna mewn ffordd ddefnyddiol yn lle dinistriol fasa'n syniad, ond pan ti'n byw mewn ffasiwn le sdim llawer obarch gen ti i dy amgylchedd nag oes.
Ffilm: Sinema Mean Streets (1973) Cyf: Martin Scorsese Gesh i'r cyfle i weld hwnb yn sinema'r UGC neithiwr ac am dalpyn calad o drais a thestosteron Eidalaidd oedd o. Ffycin hel oedd y trais a'r dicter yn ffrwtian mor agos i'r arwyneb, mod i ar ochor fy set drwy gydol y ffilm. Mae De Niro yn hynod bwerus a Keitel yn ei ddangos bron cymaint ar adegau hefyd. Mae'r cymeriadau eto fel ffilmiau gnagster eraill Scorcese yn cychwyn yn neis iawn, pawb yn ffrindiau a bod yn glen i'w gilydd, sugno'r gwyliwr mewn a wedyn PAW! Da chi'n teimlo'r holl beth yn colli rheolaeth, a da chi'n teimlo fel bo chi'n colli rheolaeth hefyd. Roedd y ffilm yn arloeswr Goodfellas ond efo graen strydoedd Efrog Newydd a ddangoswyd yn Taxi Driver nid ymhell wedi ffilmio hon. Roedd na lawer o ddifrod ar y print neithiwr ond wnaeth hynny mond gneud naws y ffilm yn well. O'n i wedi edrych mlaen at hon a gesh i mo'n siomi! Cyfweliad "The Director
Y We Gymraeg: Straeon Gewefan newydd gan Aran Jones yw Straeon.com i roi man i ddarpar awduron roi prawf ar eu gwaith. Sgwn i os ma'n nhw'n derbyn sgriptiau ffilm? Dwi heb lwyddo i fewngofnodi eto felly dwi heb checkio.
Blogio Cymraeg Un ychwanegiad arall i'r blogosffer Cymreig gan Siffrwd Helyg . Mae'n edrych fel ei bod yn dal ati'n dda am rwan ac yn cynnwys dolenni. Dwi'n eitha lecio;r lliwiau 'fyd, feri Shampoo , ond ma'n siwr fasa hi'n rhy ifanc i gofio nhw!
Cerddoriaeth: Cylchgrawn Ar-lein SOUND NATION Wedi bod yn derbyn hwn drwy'r post a mwynhau o'n fawr, a dyma fo wedi ei lawnsio ar y we. Hwre. Ac o'r rhifyn hwn, mae box-set o albyms Datblygu am gael ei ryddhau ym mis Mawrth . Mmm.
Animeiddio: Corto Maltese corto maltese Gwefan y cyhoeddwyr Casterman, am yr arwr Corto Maltese. Mae na sdwff diddorol am ei greawdwr Hugo Pratt , lot o luniau neis o'r comic a flash animation bach. Esh i chwilio am sdwff hwn ar ol cael poster Corto Maltese wedi ei fframio heddiw...ar ol blwyddyn o feddwl am y peth! Hefyd wedi fframio poster Tintin a'r Dyn eira Dychrynllyd - mae'n nhw'n edrych yn ffantastic. Mae yna hefyd e-gardiau Hugo Pratt yma .
Y We: Blog am bethau tanbddaearol/cwltaidd ayyb JahSonic's Blog Blog diddorol, dolennog tu hwnt. Dwi'n recno fydd na bori beunyddiol o hwn...
Ffilm: Arswyd Rhywiol(!) Erotic Horror Gwefan llawn gwybodaeth ar Erotic Horror sef ffilmiau sy'n cyfuno rhyw a marwolaeth. Pwnc sydd raid bod yn ofalus iawn ag o ond sydd yn rhan annatod o'r rhan fwyaf o ffilmiau arswyd. Mae'n rhan o'r thrills o Hitchcock drwodd i Dario Argento .
Ffilm: Sinema Big Fish (2003) Cyf: Tim Burton Rwan, wedi gweld trailer o hwn ar y teli a stills ohono fo r'on i'n sgeptig iawn o faint mor felys oedd o am fod, ac mi geshi mhrofi'n iawn ac yn anghywir a'n siomi ar yr ochor orau. Mae'r ffilm yn son am fab yn ceisio dod nol o dramor i weld ei dad, sydd ar ei welu angau, ac sy'n ceisio gweld trwy o straeon a raffwyd iddo pan yn blentyn ac y mae ei dad yn taeru i fod yn wir. Mae'n mynd mewn i fyd straeon ei Dad ar sawl achlysur ac y rhain yw'r elfennau yr oeddwn yn eu hofni. Mae na chydig gormod o eisin ar rai darnau a dyw ochor dywyll Burton ddim yn dod trwodd cymaint ag yn Edward Scissorhands (er yr un sefyllfaoedd "white picket fences" sydd yma), ond wrth i'r ffilm fynd mlaen roeddwn yn cael fy nhynnu yn bellach ac yn ddyfnach mewn i'r stori fel bod y tad a'i straeon o'n fy hudo i hefyd. Erbyn y diwedd roedd lwmpyn go hegar yn fy ngwddw a sylwais mod i wedi llyncu&#
Ffilm: Beth sy'n genud ffilm dda? The Screenwriters Store - Article - So, what makes a film great? by Alby James Erthygl o ongl y sgwennwr 'lly.
Ffilm: DVD Carne tremula (1997) / Live Flesh Cyf: Pedro Almodóvar Ffilm drawiadol arall gan y meistr Sbaeneg. Ma pob un ffilm dw di weld ganddo wedi bod o safon mor uchel ym mhob adran, miwsig, stori, cymeriadau, sinematograffiaeth a dydi hon ddim gwahanol. Sdori am enedigaeth a chreu bywyd a sut mae pobol yn dinistrio bywydau hefyd. Mae'r ddinas yn brif gymeriad eto yn hon ond Madrid yw hi tro ma, mae'n cael ei cyflwyno fewn enw o fewn y 5 munud cyntaf, dyna faint mor bwysig ydi'r llefydd yma i straeaon Almodóvar. Yn y ffilm dim ond y ddau berson gonest sydd yn diweddu'n hapus a nhwythau wedi dod o fod yn isel iawn, mae pob un arall yn colli bron popeth sydd yn agos atynt. Mae na ddelweddau ynddo sydd dal yn sownd yn fy mhen, y rhan fwyaf yn symbylu dau yn uno/gwahanu.
Celf/Y We Mae na ddetholiad reit neis E-Gardiau Celfyddydau Cymru ar gael ar wefan y Cyngor Celfyddydau. Taclus.
Ffilm: Sinema Newydd Extreme Ffrengig Erthygl am y tueddiad yn y blynyddoedd diwethaf yn sinema Ffrengig i dorri tabws a bod yn llawer mwy visceral a threisgar. Flesh & Blood - Sex and Violence in French Cinema (www.artforum.com) . Dim amser i ddarllan o rwan ond mae'r dudalen gyntaf yn argoeli'n dda.
Ffilm: Dogfen Welish i Dark Days (2000) gan Marc Singer ar BBC 4 on 2 neithiwr a chael profiad eitha ysgytwol. Ffilm sy'n dilyn bywyd rhai o'r bobol ddi-gartref yn nhwnneli subways Efrog Newydd. Mae storiau rhai o'r bobol yn hunllefus, tra'r oedd un boi yng ngharchar fe gafodd ei blentyn o ei dreisio ac yna'i lladd gyda'i choes a'i braich yn cael eu torri ffwrdd. Roedd y tad yn teimlo euogrwydd dwfn iawn am hyn am ei fod heb allu gwneud dim amdan y peth. Dim rhyfedd fod y boi wedi suddo i'r fath ddyfderoedd. Hollol dorcalonnus. Roedd y soundtrack gan DJ Shadow hefyd yn wych ac yn siwtio'r darn i'r dim. "Midnight In A Perfect World" yn glasur.
Ffilm: Atebion i gwestiynau am y diwydiant Newydd ddod ar draws yr archif anferth yma o q&a amdan sgwennu, cyfarwyddo a sinematograffiaeth mae yna dri arbenigwr yn ateb cwestiwn neu ddau bob wythnos a mae'r archif yn dyddio nol i Fehefin 2000! Digonnedd o gyngor i ddarpar wneuthurwyr ffilm. Ask the Experts @ IMDb.com
Ffilm: Gwyl Berlinale Mae'r bos newydd ddychwelyd o wyl ffilm Berlin sef y Berlinale . Yn ol bob son mae Confidences trop intimes (2004) / Intimate Strangers gan Patrice Leconte a ffilm ddogfen Geschichte vom weinenden Kamel, Die (2003) / The Story Of The Weeping Camel yn creu tipyn o stwr. Mae'r un ddiwethaf yn dilyn treibs yn anilawch y Gobi ym Mongolia a ddylsa fod allan fan hyn cyn y Nadolig. Mongolia...lle arall dwi isio ymweld. Ho hum.
Nwdls Nihongo Felly o'r diwedd dwi di cychwyn dysgu Siapanaeg. Wedi iddo fod ar fy meddwl ers yn 17 dwi di cael rhestr o'r alffabet katakana a hiragana i ddysgu. Byddai hefyd yn defnyddio yr 16 gwers am ddim sydd ar Japanese-Online . Wwww, ecseiting!
Ffilm: Bjollocks Wel, wel, a finna'n meddwl mai dim ond un ffilm oed Bjork annwyl wedi wneud, ond na, mi ddesh i ar draws hwn tra'n busnesa ar Orkut heddiw: Juniper Tree (1990) . Sud uffar ma cael gafal ar hwn dwch?
Arsyllwyr Cymru Gwefan bach ddigon difyr am hanes seryddiaeth yng Nghymru. Mae na fersiwn html o bennod 24 "Seryddiaeth a Seryddwyr" , llyfr Cymraeg o 1923 gan y Parch J Silas Evans. Mae'n fwy diddorol am y lluniau gret o'r seryddwyr yma o'n cyndeidia ni na'r gweddill rili am mai crynodeb ohonynt sydd yno. Pam bo nhw'n gwisgo'r hetia skullcaps na efo tasl bach ar y top! A pam fod eu hanner nhw'n weinidogion y ffydd? Nhw oedd academyddion y dydd siwr gen i. O'n i'n hoff o'r disgrifiad yma, hehe: MR. J. E. JONES, Tybrith, Llanrhaiadr-yn-Mochnant. - Farmer-Astronomer , yn "arsyllwr" craff, ac yn cymryd diddordeb mawr mewn Seryddiaeth. O Cymru Ar Y We
Ffotograffiaeth: Dringo Rock Climbing.com - Photos Ma na luniau anghygoel ar y wefan 'ma. Dwi wedi cael fy ngherdyn aelodaeth ym Merthyr rwan a fyddai'n mynd bob pythefnos i ddringo er mwyn gallu mynd ar y crags yn mis Mai. Golygfa o gopa Mont Blanc
Blog Aggregator Web Blog Directory - Morfablog Dim yn gwybod o'r blaen fod gan Nic aggregator ar gyfer ei flog. Taclus. Aggregator yw gwefan sy'n cronni postings dwetha i gyd o flog rhywun o dan eu penawdau gan ddefnyddio RSS feed dwi'n meddwl...beth bynnag yw hynna! Mae'n dweud arno Language:en ?! Dim opsiwn Cymraeg ma'n rhaid.
Y We: Tits Dy Nain Ar Dost y Crinc Shabwchlyd Y Rhegiadur Cymraeg Y Rhegiadur wedi cyrraedd at y 200fed rheg. Ymlaen at y fil! Ma rhywun wedi awgrymu hefyd y dylsa ni drio gneud adran i regfeydd o ieithoedd Celtaidd eraill. Dwn im sut faswn i'n golygu hwnna ond fasa'n ddiddorol gweld os ma rhywun wedi ei wneud cyn hyn. Cwpwrdd Cont - Y 200fed rheg.
Ffilm: Caerdydd Something Real Gwefan y ffilm fer "Something Real" (sgript yma ) sy'n cael ei wneud yng Nghaerdydd gan gyfaill i mi, Jon Rennie. Mae'n defnyddio cymysgedd o live action a CG. Mae o hefyd yn rhedeg noson ffilmiau byr POV yma yn y ddinas ar ddydd Llun ola'r mis, fel arfer yn sdafell dop O'Neill's (yr un bach dros y ffordd i'r eglwys ar Trinity Street). Ma'r ffilmiau'n hit and miss am bod nhw gan fwyaf gan ddechreuwyr ond da chi'n cael tair awr ohonyn nhw am £2! A sgwrs a pheint dda.
Ffilm: Gaspar Noé a'i ffilm ddiweddaraf Projets de Gaspar Noé Chydig o wybodaeth am be fydd y sadist clyweledol yma'n ei wneud nesa. Gwaith ar y cyd efo Takashi Miike? Rwan dyna chi brosiect i dynnu dwr i ddannadd!
Ffilm Ffrengig Unifrance Safle i hybu ffilmiau Ffrengig dramor. Mae na restr go dda o bob ffilm Ffrengig i ddod allan (yn Ffrainc) ers 1990 gyda disgrifiad byr o'r ffilmiau a'r cyfarwyddwyr. Edrych mlaen i ddarpariaeth nesaf Gaspar Noe a Jean-Pierre Jeunet !
Ffilm Akame 48 Waterfalls (Akame Shijyuyataki Shinjyumisui) Mae hon yn swnio'n ddiddorol, ffilm newydd efo yr un actores a Vibrator, ffilm arall diweddar o Japan wnaeth fy nharo i. Gawn ni weld hi draw fan hyn - mewn sawl blwyddyn ella. Ta waeth.
Blogio Cinebrain Blog diddorol sy'n son am sinema yng nhyd-destun yr ymennydd ac astudiaethau yr ymennydd.
Faux News? foxs_view_of_the_bbc_player.swf Dwn im os gallai goelio hwn! Os yn wir, mae'n anghygoel o beth yn dangos insiwlariaeth rhai Americanwyr, a hydynoed fwy anghygoel fod pethau fel hyn yn cael eu hadrodd ar eu rhwydwaith newyddion.
Ffilmiau Ar y We Channel 4 Film - Fast Film Mpond wedi gallu gwylio munud a hanner o hon cyn iddi crasho ond roedd yn wych hyd at hynny. Boi wedi neud ffilm efo hen ffilmiau a ffotocopiyr! Mae na ragor o rai wedi'w dethol gan Y Guardian fan hyn . Ffilm arall gan yr un boi (Virgil Wildrich) o'r enw Copyshop wedi'w wneud yn yr un steil.
Ffilm: DVD Bande a part (1964) Cyf: Jean Luc Godard AMe'n rhaid cyfadda mod i wedi ffeindio lot o'r ffilm yma'n draffarth i'w gwylio. Mae'r ddau ddyn sy'n brif gymeriadau mor anhoffus mod i'n ffeindio nhw braidd yn ddilfas yn arbennig Arthur. Mae gan Franz rywfaint o ddynoldeb sy'n ei godi uwchben Arthur ond eto mae'n y ngadael i'n oeraidd. Mae Anna Karina, sy'n chwarae Odile, yn rhoi perfformiad disglair ac yn cadw diddordeb rhywun drwy'r ffilm, a mae na rai golygfeydd sydd yn hudol (yr holl olygfa caffi yn cynnwys y ddawns, y symud seddi, y munud o ddistawrwydd; y ras drwy'r louvre; a'r wers Saesneg) ond wedi dweud hynny dydy hi ddim yn cysylltu a fi fel yr oeddwn wedi gobeithio iddi wneud. Mae Tarantino ac eraill yn hawlio hon fel un o'u dylanwadau mwyaf, ond o'm rhan i: antur bach i fyd artsy sinema Ffrainc oedd hi gyda cwpwl o emau yn y canol.
Ffilm: DVD Cul-de-sac (1966) Yr ola o'r box set. Ffilm arall yn edych ar bobol wahanol iawn yn sownd efo'u gilydd a sut mae hynny'n effeithio ar eu perthnasau a'u gilydd. Ddim mor effeithiol a Knife In Thge Water yn fy marn i ond mae Donald Pleasance yn gret a chwaer Deneuve yn edrych yn sdyning, biti bo hi di marw mor ifanc.
Marc Evans yn taro'r nodyn eto? Adolygiad ScreenDaily.com o'i ffilm newydd: Trauma . Swnio fel ffilm ddiddorol iawn.
The Reel Truth Reel Truth 2 - Zooma Zooma Clip Hehe! Clip bach yn cymryd y pys o wancyrs ffilmaidd.
Cyfrwng Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru Ffeindio som am hwn ar y Ffwrwm , er bo fi di clwad amdano drwy gwaith. Dwi'n credu taw fyny ym Mhrifysgol Bangor bydd yn cael ei gyhoeddi. Edrych mlaen i ddarllen y copi cynta. Mae hi'n hen bryd cyhoeddi astudiaeth ffilm drwy gyfrwng y Gymraeg.