Posts

Showing posts from May, 2004
Nol at y b-mwfis, sori, dyma'r obsesiwn newydd... Wedi bod yn meddwl am y rhaglen Mystery Science Theatre 3000 o'n i'n arfar gwylio pan yn iau. Roedd na ddyn a dau byped (robot a rwbath arall) mewn sinema yn gwylio ffilmiau shit a gneud sylwadau sarky a voiceovers eu hunain. Dyma restr o'r holl ffilmiau gwael y gwylion nhw drwy'r 6 cyfres ddarlledwyd rhwng 90-96. Oeddan nhw'n hileriys os dwi'n cofio'n iawn. Ma angan i rywun neud r'un peth efo hen raglenni Cymraeg. Mynd i archifau S4C a HTV a chael criw Y Rhaglen Wirion 'Na i neud y voiceovers...
Mwy am Star Crystal... O'n i'n gwybod fasa gen Badmovies.org y lowdown efo lluniau a MPEGs. Yeah! Rhaid i chi wrando ar y theme tune - clasur.
Z-mwfis: Ddy Syrch Continiws Newydd wylio Star Crystal (Lance Lindsay, 1986) . A roedd o'n braf cael mynd nol i territory Rock N roll Nightmare. Ffilm shit efo digon o laffs, actio sdiff, leins gwallgo, setiau cardbord a pypedau crap i barhau yr 90 munud. Scifi horror yn (trio) dilyn sdori Alien ydi o, sy'n diweddu fyny efo'r Alien yn troi'n ffrindia efo'r criw a chael troedigaeth i Gristionogaeth! Faswn i ddim wedi gallu dyfalu honna! Mae'r gan ar y diwedd hefyd yn werth yr aros. Os da chi'n gwled hi mewn bwt car, prynwch hi yn syth. Dyw gemau fel hon ddim yn dod rownd yn amal. Adolygiad o Bad Movie Planet Gwefan BadMovies.net, dim byd ar Star Crystal ond mae o fath blog b-mwfis. Mwy o sdwff B-mwfis ar Bad Movie Planet
Ffilmiau anime newydd Ma na dwr o rhain am ddod allan flwyddyn yma a mae na ddeud eu bod am dorri tir newydd o ran defnydd CG gyda animeiddio cell a drama byw. Dyma'r prif rai: Innocence: Ghost In The Shell 2 gan Mamoru Oshii - 2D mwy traddodiadol Cashhern gan ???? - cymysgu CG efo actorion ar sgrin las ond efo effaith wahanol i;r arfer Appleseed gan ???? - hwn ydi'r un sydd yn codi stwr, gan ei fod wedi costio llawer llai na ffilmiau cell arferol ond yn edrych yr un mor dda: mae tro ar fyd... Howl's Moving Castle - Miyazaki - sut ar y ddaear wyt ti'n dilyn Spirited Away ? Gwledd yn wir...
Gwyl Ffilm Cannes 2004 Mae gen i luniau o'r pedwar diwrnod gesh i yno ar fy moblog . Roedd hi'n hyfryd yno ond geshi ddim gweld llawar o ffilmia - brysur ar y stondin a dim pass marchnad. Dim ond Mondovino gan Jonathan Nossiter , a Oldboy gan Chanwook Park (a wnaeth "Sympathy For Mr Vengeance" ). Adolygiadau 'mhen chydig...
Ffilmiau Penwythnos hyn... Shaun of the Dead (Edgar Wright, 2004) - ffantastwych yr ail waith Paperhouse (Bernard Rose, 1988) - Productuion design anghygoel a syniad gwych ond mae'r actio'n sdopio hon rhag bod yn ffilm arswyd lwyddianus. Dinner Rush (Bob Giraldi, 2000) - Gret eto The Odd Couple (Gene Saks, 1968) - Doniol iawn, mae Lemmon yn comedi genius. Yn arbennig y darn lle mae'n trio dad-blocio'i glustau yn y bwyty.
Disney yn rhoi taw ar Moore Er cymaint mae Michael Moore yn gallu codi gwrychyn rhwyun gyda'i ffyrdd gegog mae'n warth fod cwmni Disney wedi blocio dosbarthiad ei ffilm newydd Fahrenheit 9/11 sy'n ymosod ar gysylltiadau Bush a'r teuluoed pwerus Arabaidd sy'n rheoli'r olew - Y Bush/Cheney Oil Junta fel y galwodd Vidal nhw . Mae yna sylwadau fod Moore yn gwybod hyn ers tipyn a'i fod wedi neidio ar hyn rwan er mwyn cael gymaint o gyhoeddusrwydd a phosib cyn dangosiad y fffilm yng nghystadleuaeth Palme D'Or Cannes - wel, os ti'n coelio'n gryf yn rhywbeth a dydi o ddim am gael ei weld adref yna ti am wneud yn dam siwr ei fod yn cael ei weld ym marchnad ffilm fwya'r byd.
Ffilm: Spielberg yn gneud Tintin Oce, faswn i wedi gallu handlo Steven Spielberg yn gneud Tintin, ond mae'r ffaith fod y cwdyn clai cawsiog ceiniog a dima 'na Tom Hanks (o wefan Ffrangeg Objectif Tintin gyda llaw)wedi ei castio i chwarae rhan ein anturiaethwr o fri yn gneud i fi deimlo'n dipresd. Sut galla fo? Mae Hanks yn amlwg yn rhy hen, rhy Americanaidd, a rhy, wel sut roddai o... SHIT!! Trafesti i gofiant Herge os fu na un erioed, be ddoth dros ei ystad yn gadale i'r ffasiwn beth ddigwydd? A nhwytha wedi bod mor ofalus efo'r cartwnau, yn edrych yn fanwl ar bob agwedd i sicrhau ei fod yn aros yn driw i gelfyddyd Herge. Sna'm siawns o hynna rwan nagoes. Pa, dwi'n mynd i bwdu yn gongol am ennyd.
Lluniau Tintin prin ar y we!! Mae gan wefan The Unknown TINTIN lwythi o stills wedi sganio o strips comic prin Tintin yn cynnwys rhai du a gwyn yn uniongyrchol o'r Petit Vingtieme, y papur oedd Herge yn cyhoeddi ei straeon ynddo gan fwyaf ac o rai o'r llyfrau cynharaf sydd wedi newid erbyn heddiw gan fod y sefyllfaoedd gwleidyddol yn rhai o'r gwledydd lle roedd y stori'n digwydd wedi newid. Mae rhai o'r rhain yn amazing i edrych arnyn nhw, fel y sgetsus Indian ink gwreiddiol o lyfr y Lotws Glas . Supplement Ffrengig am laniad go iawn y lleuad yn 1969 Ac yr un gorau: un tudalen a dorrwyd allan o "Prisoneurs du Soleil" gan Herge am nad oedd yn ychwanegu at y naratif, ond a gyhoeddwyd yn Tintin Magazine yn hwyrach mlaen am fod rhagor o le yno. Mae'n wych: Capten Hadog yn cael yn high ar Coca i gael gwared o'i salwch uchder.
Cachu yn rhyfela a Cymru Edrych fel bod y Pooclub wedi cael rhyfel a Cymru. Chwara teg, am bynsh o twats. Dwi'n ffan o falu cachu gymint ag unrhywun, ond mae hyn jest yn Anglo-centricity o'r radd flaenaf; cymryd yn ganiataol fod pob un o'r pobol sydd am fod ar eu gwefan yn byw yn Lloegr. Cunts is what i say to thee.
Barddoniaeth Malu Cachu o'r radd flaenaf Dod ar draws y gerdd hon o'r enw "Trout" ar y wefan Shite.org . O'n i'n arfar gneud sdwff fel hyn yn amal iawn yn sgwrsio efo fy met Hyw. Sna'm byd fel tangent i godi calon rhywun. Y gan acapella harmoni pedwar llais: "Dwmbo Penpanc, Pen Ffridd Creision" a ganwyd am y tro cyntaf ar fainc ar y Marian, Dolgellau yw'r un sy'n dod i feddwl gyntaf (ail-ganwyd a recordiwyd yn stiwdio Topaz St, Splott 2002).
Gemau Porno Siapaneiadd Gwael Iawn Ffycin hel! Ma na Japs ffycd yp allan na, mae na ffasiwbn beth a Hentai, sef porno wedi ei animeddio. Mae na ffasiwn beth a gemau Hentia, sef gemau i'r pc efo genod wedi animeiddio, ac mae Something Awful wedi tracio lawr y gwaethaf o'r genre - "Water Closrt Part Two" - darllenwch a byddwch barod i ddisgyn oddiar eich stol. Dwi'm yn gwybod os dwi fod i chwerthin neu grio. Beyond. Go iawn.
Ffilmiau Crap Tra bo fi ar y pwnc dyma'r messij bord ar ddarn Plan 9 From Outer Space o IMDb, mae na lwythi o agrymiadau fan'na. Wele hefyd a adran adolygiadau SomethingAwful.com . Ylwch, mae Edge Of Hell aka Rock'N'Roll Nightmare yno ! Ac mae yna downloads o clipiau o'r ffilm i chi bobol lwcus gael gweld a chwerthin efo fi, mae'r clipiau i gyd yn olgfeydd gwych gyda llaw. Fucking ace.
Ffilm: Bois yn mynd amdani a chynhyrchu ar eu pennau eu hunain ic Wales - Film brothers think small, but dream big Chwara teg, mae nhw di mynd allan a gneud ffilm. Mae angen tipyn o dreif ag ymdrech i wneud hyn a dwi'n rhoi pob clod iddyn nhw am neud o. Sdim rili its os fydd y ffilm yn gachu rwtsh, mae'r ffaith eu bod wedi cyflawni'r gamp yn dangos eu ymroddiad i'r gelf a gall sdwff gwell ddod wedyn pan mae mwy o arian ar gael iddynt. Dwi di gweld rywfaint o'u sdwff o'r blaen ag oedd o'n ddigon gwael deud y gwir, rwbath am witchfinders ag ati efo ffeits cleddyfau lame, ond gobeithio y gwneith hwn daro nodyn gwell. Pob lwc iddyn nhw dduda i. Gwefan y ffilm "War Crimes"
Ffilm: Y gwaetha o'r gwaetha IMDb bottom 100 films A mae'n gelf yn ei hun i ffwcio fyny ffilm mor wael a rhai o'r rhain. Fu bron i fi brynu Plan 9 From Outer Space gan Ed Wood ar fy b-mwfi spree heddiw ond ro'n i'n teimlo ei fod braidd yn rhy adnabyddus fel ffilm wael i fod yn y casgliad.
Ffilm: B-Fids Overkill (1986) Cyf: Ulli Lommel Ar ol gweld Edege Of Hell, y z-movie horror gorau erioed, bum ar helfa drysor heddiw o amgylch siopau ail-law ac elusennol i chwilio am y fideos gwaetha posib oedd ar gael. Roedd y penderfyniadau ar ba rai i'w pwrcasu yn cael eu seilio yn bennaf ar faint mor wael oedd y darluniau ar y clawr, ar y teitl ac ar ei bris (dim llai na thair punt). Roedd hon yn un o'r cyntaf a brynasom: yn bell o fod yn glasur o gomedi hap a damweiniol, roedd hi'n dragio. Roedd y teimlad gwrth-Siapaneaidd yn anghrediniol ynddo a'r deialog yn wych o wael. Pob cliche yn y llyfr yn cynnwys y bent politician, y ballbreaker bos yn y copshop. Dim patsh ar Edge of Hell ond gwerth gweld gwyneb y boi yn y siop fideo yn chwerthin ar ein dewis doeth. Hir oes i'r B-mwfi!