Posts

Showing posts from April, 2003
Jacob's Ladder a Iesu Hollywood **Spoiler** Nes i wylio un o fy hoff ffilms neithiwr ar y Sci-fi channel - Jacob's Ladder . Ffilm am ddyn post sy'n meddwl ei fod yn colli ei feddwl wedi iddo ddychwelyd o ryfel yn Fietnam. Mae'n credu fod yna demons yn ei ddilyn ac mae'n darganfod fod y llywodraeth wedi gneud profion cyffuriau hallucinogenic arno. Ond dyw hi ddim am y cyffuriau o gwbl er fod diwedd y ffilm yn dweud fod yr Amerig wedi gwneud profion ar GI's. Mae'n cychwyn gyda Jake(Tim Robbins) yn y rgyfel yn cael ei gludo i ffwrdd o faes y rhyfel wedi ei anafu. Mae hwn yn real time ond mae'r ffilm wedyn yn mynd mewn i feddyliau Jake, yn ceisio ffeindio ei ffordd i'w nefoedd ond yn cael ei ddangos i'w i uffern ar y ffordd. Yn yr ochr nefoedd Sarah ei wraig iawn sydd yno, ac ar yr ochr uffern mae'r temptress, Jezebel. Yng nghanol hyn oll mae Jake yn dod ati yn yr hofrennydd ac wedyn yn cael flashbacks i'r jyngl, lle cafodd ei drywannu g
Jimbo! "Iiiiiiiiin One! A crummy teasmaid. Iiiiiiiiiin Two! A pet badger. Iiiiiiiiiiiiiiiiiiin Three! Ten mince pies. And Bully's Special Prize! A Decorated Ostrich Egg from Tanzania (engraved with your name).Torf: "WwwwwwwW"" O, doedd nos Sul ddim r'un peth heb fwlsai . Toasted sandwich scraps cinio dydd Sul efo soy sauce am ei ben a gwylio Jim yn bod yn hollol inept ond hollol ddiddannol. Atgof gorau: Jim: "So Bill I hear that your mates have got a nickname fot you, tell us what it is." Bill: (mewn acen Geordie trwchus)"Supa-sperm"
Bach o Laff Nath y seit yma neud i fi chwerthin nes bod y pei bugail o'n i newydd fwyta bron a dringo allan o nghorn gwddw. Ffacin gret be da chi'n gallu neud efo bach o fanipiwleiddio digididioldodlldoidioodldllollldd.
Newyddion/Rhyfel Wel woopee ffacin doo, ma Greg Dyke wedi sylweddoli fod newyddion America ddim yn objectif, a ma Yahoo yn gneud ffys ohono. Tasa gan rywun hannar bren fasan nhw'n gallu gweld trwy y clwydda ma nhw'n balu mor gyflym a tyllwyr beddi Baghdad. Oes na rywun rili'n coelio unrhyw beth o'r adroddiadau 'front line' oedd y BBC yn eu darlledu. Oce, mi oeddan nhw'n gam ymlaen o'r ffars oedd press confs Schwarzkopf yn y rhyfel Irac (gweler Baudrillard: 'The Gulf War Did Not Happen') cynta ond eto da chi'n meddwl bo nhw am ddeud y gwir wrth y proles? Dwi'm yn ffacin meddwl. Ceisiwch weithio allan beth sy'n mynd mlaen yn y byd yma a gewch chi'ch clymu fyny mewn gwe o hanner-celwydda a smokescreen y cyfryngau. All teledu gyfleu realiti? Na. Mae o'n gyfrwng, ac mae'r neges yn ei hanfod yn cael ei newid yn ystod trosglwyddiaeth y cyfrwng hwnnw. Faint o ddwylo all y 'neges' ddod trwodd? Penderfyniad y dyn camera
Gemau Plant Bach Mawr Ma'r Game cube wedi bod yn sbio arna fi'n ddeniadol o bob siop electronics ers oes rwan a dwi'n dechra gorfod rhoi mewn i'r ysfa hunllefus ma i brynu peiriant sy'n mynd i gadw fi yn y ty hyd yn oed mwy na be dwi'n neud rwan. Mario Kart newydd a Zelda . Fyddai mewn nefoedd os gai'r ddau yma.
Dolgellau Nol adra dros y penwythnos a gormod o ben mawr ar ol nos wenar i allu codi a gwynebu Cadar Idris a'i lethrau serth. Basdad. Yn lle roedd hi'n amser mynd i fecws gora'r byd, Creutirion neu Popty'r Dref i gael Honey Buns (sydd ddim yn cynnwys mel ond sydd yn unigryw i Ifan a Magi, dwi'n gwybod o'n i'n arfar gneud nhw am 6 y bora!) a deunydd ffrai yp o'r bwtsiar. Mmmm! O mai GOD newydd ffeindio y peth mwy doniol, search bach ar Honey Buns a ddes i ar draws y seit yma - marwnad spooky i bob anifail anwes oedd a ganddi! Diolch byt h mai dim y math yma o Honey Buns ma Ifan a Magi'n gwerthu i hen ddynion llwglyd Dolgellau! Oedd y ffacin script report yn hunllef. Dwi'n gwybod pam dwi'm yn gwylio romantic comedies heb son am eu darllan nhw. Dyna pam ma na cyn lleied o 'wegofio' wedi bod yn mynd mlaen ma, oedd y basdad yn cymryd pob awr sbar.
Haf o na byddai'n haf o hyd chwadal Graham. Mae hi wedi bod yn haf am blydi hir eniwe a di mond yn Gwanwyn. Ddes i nol o gwaith heno ma a rhoi Gilles Peterson - Journeys by Dj ar y stej a ista'n r'ardd efo rolsan yn un llaw a can o gwrw yn llall. Blydi gret, gobeithio barith hi ar gyfer Cader Idris penwythnos ma de. Sgwn i pa shananigyns ddigwyddith yn Nolgellau'r penwythnos hon? Gen i script report i'w wneud ar gyfer cwrs efo Script Factory - blydi Romantic Comedy. Jest y peth, alla fydd raid cychwyn ei ddarllen heno. Hwyl. O.N. Mae'r archif yn gweithio ar hwn rwan! Yee ha ha ha. O'n i'n dechra poeni am chydig. Gwd thing. Mas o ma gloi.
Wiwars Disgo a Bwwwzzzz Dwi wastad wedi pendroni am be ma'r wiwars ym Mharc Bute yn gneud ar ol i'r giatau gau...D.I.S.C.O! Sgwn i os ma'r Criw Melltan Gwyn yn cael mynd i'r disgo hefyd? Ella bo nhw'n fwy o rocyrs... Oedd 'na Griw Melltan Gwyn yn arfar cael confensiwn bob haf wrth ymyl y neuaddau lle r'on i'n arfar byw, tua ugain yn dod o bob cwr o'r ddinas i drin a thrafod prisiau seidar a chyflwr gwael bocsys cardfwrdd y dyddiau hyn. Yn sesiwn Haf 2002 etholwyd Alf Gwallt Cynffon Afanc yn lywydd y trwynau cochion am y flwyddyn. Ond mae ei flwyddyn yn dod i ben cyn hir a chyda Ffred Ffestar yn dod yn boblogaidd iawn yn ddiweddar gyda'r ffacsiwn dylanwadol Parc Biwt, mi fydd hi'n agos iawn rhwng y ddau...wotch ddus spes am y build-up etholiadaol. Hefyd y flwyddyn hon: Gwaharddwyd y wiwerod rhag cyfri pleidleisau y flwyddyn hon ar ol y ffiasco llwgrwobrwyo cnau for cwestiyns gan Alf Afanc Snr yn etholiad 2002.
Rhegiadau a Straeon Ysgol "Weji", "taxi red", "rucks", "pidgeon toss", "pile-ons"...ac un dywediad sy'n perthyn yn arbennig i Ddolgellau "Pen, Penelin, Penglin" - ffordd Dai Daps o ddysgu plant i chwara criced, pwy a wyr os oedd o'n gweithio ond mae pob hogyn dros 20 yn Nolgellau yn ei gofio. Aaaa, iaith y maes chwarae . Mae gan y lle yma bopeth o'r iaith i straeon am y boi anffodus na oedd yn eich dosbarth oedd pawb wastad yn tynnu'r mic ohono, a'r athrawon oedda chi'n arfar eu gyrru i ddagrau neu nervous breakdown... sori Mr Newing am daflu mes atoch chi pan oedd eich cefn wedi ei droi a rwbio allan y traethawd sgwennoch chi ar y bwrdd du revolving . Syniad stiwpid pwy oedd o i gael athro hanes uniaith Saesneg mewn ysgol Gymraeg? Gofyn am drwbwl 'swn i'n deud. Nath na foi yfad yr hylif allan o jar neidar wedi piclo am fet yn ein ysgol ni, fu raid i'r ffwl fynd i 'sbyty a
Mini Golf Llun o gwrs mini golff Camber Sands lle roedd ATP... Ges i ddim gem ar y cwrs yma gyda llaw, aethon ni i'r traeth yn lle. Pam fasa gan unrhywun ddiddordeb yn hwnna dwi ddim yn gwybod ond mae'n ddiddorol fod pobol wedi gneud gwefan yn hollol ymroddedig i gyrsiau golff crap. Ag o'n i'n meddwl bo fi'n drist! Mae'r we yn gallu gweithio fel llyfr self help weithia tydi. "Gwellwch eich hunan-barch, ewch ar y we i ffeindio pobol llawer mwy trist na chi!" Neu jest rhowch farciau allan o ddeg i bobol random ar Hot or Not
Cwrw Dwn im pam dwi'n edrych ar wefannau cwrw a minnau wedi gor neud hi ddwy noson mewn rhes ond mae'r disgrifiadau o gwrw Westvleteren Abt 12 (yellow cap) yn gneud i fi lafoeri efo chwant! Mae o'n swnio fel nefoedd, a deud y gwir mae'r rhan fwyaf o gwrw gwlad Belg yn swio'n nefolaidd. Amser am wyliau yno dwi'n credu.
Swpar Mmmmmm Pesto! Hwn yw y bwyd gorau yn y byd gen i ar y foment (jest am fy mod yn sgint). Mae'n golygu gallai gael pryd o fwyd am oddeutu 75 ceiniog. Pasta, Chorizo, Pesto. Garlleg, pupur coch a brocoli yn opsiynol. Os da chi RILI isio gwthio'r bad i'r bae! Dwi yn cael ysfa hiwj am stecsan serch hynny. Swnio fel bod Ifor ap Glyn yn gwybod sut dwi'n teimlo efo'r coginio creadigol ma.
Blah Yn ol y son y Jacksons oedd yn nymbar wan pan ges i ngeni. Dyna pam mae gen i affro?
Mwy o Telifision Pwy sydd efo gwynab mwnci a sy'n fflio dros yr Andes ar eryr aur? Sancho o Cities of Gold wrth gwrs! Oeddan nhw'n amesing a fwy blin bling efo'u eryr aur na unrhyw aelod o'r Criw Mor Crap . Yr unig raglen efo miwsig pan pipes dwi rioed di gall ei diodda. Mae'r wefan i gyd yn Ffrangeg ond mae'n hwyl i edrych arni a cheisio ei datrys efo fy nghrap-grap ar yr iaith. Cofiwch...ma gyd yn refi, oll yn refi. C'est tout du sauce ma petit chou fleur, tout du sauce.
Telifision Da chi'n cofio rhen HTV o'ch plentyndod a'r logo gwych na. Jenny Ogwen a bob math o rwtsh fan hyn. Ar HTV oedd Awr Fawr? Hmm, fy hoff raglen o'm plentyndod, yn arbennig pan ddudodd Slim fy joc bechingalw dyn tan o Rwsia - Ifan Watsialoski.
Gwefan Gallwn i dreulio oriau'n darllen trwy'r chwedlau trefol (urban myths) yma. Mae'r arth anferth yn werth ei gweld, y carw ar ben y polyn teligraff yn anghygoel a'r boi nath blicio ei wynab ffwrdd efo drych ar ol cymryd PCP yn arbennig o afiach, peidiwch a sbio os da chi'm yn licio gwaed. Hehehehe! Mae hefyd yn deud wrthych os ma nhw'n wir, heb eu profi, neu ffug. Sgwn i os ddylswn i ychwanegu rhai Cymreig? Stori boi o Ddolgellau oedd newydd gychwyn gwaith labro efo cwmni adeiladu. Nath y fforman ofyn iddo "Dos i'r siop i nol hannar owns o Golden Virginia i mi, ag os does na ddim yna, tyd a rwbath arall"... Ddoth yr hogyn nol ymhen hannar awr efo porc pei... Ma hon yn gret ond dwn im faint dwi'n ei chredu... Aeth tua pump o fois Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg allan o goleg Aber yn y 70au a mynd yn y car i dorri mewn i'r mast teledu Blaenplwyf jest tu allan i Aber ar y ffordd lawr i Aberaeron. Oeddan nhw yn trio torri
Od-bethau Ddes i ar draws Amgueddfa Dyfeisiau Sydd Ddim Yn Gweithio yn rhwla, eitha diddorol am chydig.
Cerddoriaeth Newydd ddychwelyd o ATP, shattered ar ol tri noson o aros fyny tan 7yb yn gwrando ar gerddoriaeth mental a yfad yn y pyb (oedd hefyd yn gorad tan 6yb!). Hapus serch hynny, wedi darganfod llawer o fandiau newydd a chlywed llawer o rai r'o'n i'n hoffi o'r blaen. Y darganfyddiad gorau oedd Venetian Snares . MC sexy a sgrechgar i fynd gyda'r miwsig hard-cor (steil newydd Cor Godre'r Aran - canu 180 bpm!) oedd yn groes o jungle a stwff diwydiannol. Lot o distortion, es i'n nyts! Coesa a breichia yn brifo rwan a wedi colli llais yn gwaeddi ar Public Enemy (nathon nhw set 2awr a hannar!!) ac Aphex Twin. Mae'r tocynna ar werth ar gyfer y flwyddyn nesa'n barod, a 400 wedi gwerthu, dwi'n prynu un cyflog nesa gai.
Un neges fach arall cyn mynd ar brec penwythnos electrrrrrrrrronic, bzzzt, blip, meeee. Dadl dda Dadl wrthgyferbyniol ond ddim yn edrych ar ein dyfodol ni yng Nghymru, blydi international saviour agenda. Cwtsho lan i'r UDA. Paham, Tony Blair, fod na ffyc ol o'r gwledydd eraill yn y byd (heblaw am lyfwyr tin drewllyd Bush - Sbaen ac Awstralia - son am wlad sydd yn becso ffyc am ei thrigolion!) yn cefnogi y lladd sy'n mynd mlaen ar y foment. Cont an-nemocrataidd wyt ti a dy gyffelyb yn America, sy'n ceisio chwilio am le yn hanes y byd ac yn Ewrop, ond oherwydd hyn fydd Prydain yn alltud o Ewrop a byddi di drwy hyn yn alltudio Cymru o Ewrop i ryw raddau. Mae'r rhyfel yma yn drasiedi yn hanes yr unfed ganrif ar ugain.
ATP ATP ATP ATP Fory o ie! Fory fory fory fory! Dwi isio clywad y Low Frequency Oscillation ! Hip hip hwre hop hop.
Gwylio Manon Des Sources neithiwr ar ol gwario 4 awr yn sgwennu adroddiad sgript i gwrs dwi'n gneud. Fwynheais i neud yr adroddiad ond pwy a wyr sut siap fydd arni o dan archwiliaeth gritigol arbennigwr!Lllllllwwnc!(Gulp haha...). Beth bynnag roedd y ffilm yn drist iawn, trasiedi a deud y gwir. Perffaith yn y ffaith ei fod yn gwneud i chi ymdeimlo a'r cymeriadau cas ynddo bron mor gymaint a'r rhai da. Stori am ddwr a sut mae dau deulu yn ffraeo ac yn lladd am y cyflenwad dwr orau i'w ffarm yn Provence. Llawn barusrwydd(hy?), hunaoldeb, dial a 'difaru. Hwn yn deud y cyfan am y diwedd "The final ten minutes of this film are heartbreaking. A very bad man becomes a human in front of your eyes." -rhywun o'r we, ddoe falla. Dial Dwr Manon Gafr - allwch chi neud adolygiad 4 gair ?? Lloegr vs Twrci ar y teli, 0-0 hannar amsar. Dowch laen Twrcwns! Da chi di dal fyny'n dda yn erbyn y Mericans, newch r'un peth i'r Saeson!
Bob yn hyn a hyn dwi'n cael ysfa mwya diawledig i ganu allan yn uchel ac yn aml iawn mae nhw'n ganeuon sydd wedi bod yn styc yn nghefn fy mhen ers oesoedd. Heddiw gychwynnes i ganu "It rolls down stairs alone or in pairs, runs over your neighbour's dog, it's great for a snack it sits on your back. It's Log! Log! Log! ayyb. Mae'r blydi can yma o Ren and Stimpy wedi bod yn llercian yn fy isymwybod ers tua 10 mlynedd! Oedd raid i fi ei ffeindio hi a gwrando arni! Cael gwared o'r dieflyn amhersain hwn sy'n tarfu ar fy niwrnod. Ren and Stimpy yn hollol wych wedi deud hynny, ddim ond y gyfres gyntaf ddo, cyn i'w creawdwr, John Kricfalusi, gael y sac am geisio neud pethau rhy wirion...ar Ren and Stimpy! Meddyliwch!