Haf

o na byddai'n haf o hyd chwadal Graham. Mae hi wedi bod yn haf am blydi hir eniwe a di mond yn Gwanwyn. Ddes i nol o gwaith heno ma a rhoi Gilles Peterson - Journeys by Dj ar y stej a ista'n r'ardd efo rolsan yn un llaw a can o gwrw yn llall. Blydi gret, gobeithio barith hi ar gyfer Cader Idris penwythnos ma de. Sgwn i pa shananigyns ddigwyddith yn Nolgellau'r penwythnos hon? Gen i script report i'w wneud ar gyfer cwrs efo Script Factory - blydi Romantic Comedy. Jest y peth, alla fydd raid cychwyn ei ddarllen heno. Hwyl.

O.N. Mae'r archif yn gweithio ar hwn rwan! Yee ha ha ha. O'n i'n dechra poeni am chydig. Gwd thing. Mas o ma gloi.

Comments

Popular posts from this blog