Posts

Showing posts from December, 2003
Ffilm: Sinema Cavale (2002) / Trilogy: One - On The Run (Cyf: Lucas Belvaux) Newydd sylwi mod i heb blogio'r cyntaf yn y drindod yma o ffilmiau. Roedd hon yn un dda iawn, ond roedd hi'n teimlo ei bod yn cloi braidd yn fler. Roedd actio Belvaux o safon dda iawn (tipyn o beth actio/cyfarwyddo/sgwennu), a roedd na wir deimlad o pace i'r ffilm. Mae hi hefyd yn ymdrin a brwydrau gwrthryfelgar mewn ffordd ddiddorol iawn, gyda'r boi sydd newydd adael y carchar yn dal i ramantu a bofd yn idealist a'i gyfoedion sydd erbyn hyn wedi gadael y frwydr honno yn y gorffennol, ac eisiau meddwl am bethau eraill fel eu teulu. Mae hi'n bwynt teg, ydi chwyldro ddim ond yn dod gyda'r ifanc a'r rhai sydd heb ddim i'w colli. Pam felly nad yw ifanc a dispossessed Prydain yn ymladd dros rywbeth gwell. Addysg? Sut nad oes na deimlad o allu gwneud rhywbeth yn erbyn y wladwriaeth ar hyn o bryd. Sut mae datrys y teimlad yma o anobaith a galluogi pobol i feddwl y gallan
Blogs Moblogs - Blogs Lluniau Mobile Phone Hmmm... Dyma un fan hyn
Ffilm: Sinema Un couple épatant (2002) / Trilogy: Two - An Amazing Couple (Cyf: Lucas Belvaux) Disgyn i gysgu hanner ffordd drwodd, dim adlewyrchiad ar y ffilm, jest allan yn hwyr ar y piss neithiwr. Oedd o'n edrych yn olreit, o'n i'n pissed off wedi i fi ddeffro ddo. Damia. Fy gyd gyfarwyddodd Belvaux ffilm fer Pas de C4 pour Daniel Daniel (1987) efo Andre Bonzel a Benoît Poelvoorde, yr actorion/cyfarwyddwyr/cynhyrchwyr yr anfarwol C'est arrivé près de chez vous (1992) / Man Bites Dog . Dwi'n credu taw brawd Lucas Belvaux oedd yn actio yn MBD. Beth bynnag, mi oedd Daniel, Daniel yn arfar dod efo fideo Man Bites Dog... diddorol ynte? Na? A wel.
Ffotograffau Lluniau o sinemau Cymreig Dwi'n lecio'r Odeon Casnewydd...
Nadolig Llawen! CYDd Cymru: E-gardiau E-gardiau neis gan Cyfeillion Y Ddaear...laaarvely.
Ffilm: Gwefan Gynhwysfawr Masters Of Cinema Mae hon yn trafod dyddiadau rhyddhau DVD's rhai o'r meistri ac mae'r adran ddolenni yn unig yn gneud hi'n werth mynd am dro yno.
Ffilm: DVD Todo sobre mi madre (1999) / All About My Mother (cyf: Pedro Almodóvar) Ail waith i fi weld hon. Mae hi'n weledol wych, yn lliwiau primary cryf, ac efo ambell i shot lle ma rywun yn mynd - "sut nath o feddwl am hynna?". Mae'r melodrama yn mynd yn drech weithia efo pobol yn blybio ar amrantiad (a'r actio'n diodde oherwydd hyn braidd) ac, am hogan sy'n sgint ac yn gweithio'r stryd, mae Agrado'n byw mewn uffar o fflat neis. Ond na fo dyw realiti cymdeithasol ddim yn rhan o palette Almodovar nacdi. Un peth wnaeth ddod fy nharo i oedd sut yr oedd Barcelona yn gymeriad ychwanegol yn y ffilm yma a'i bod hithau hefyd yn drag queen arall, efo'i phensaerniaeth gaudy (Gaudi?), lliwgar, weithiau'n vulgar ond wastad yn drawiadol. Dinas wedi gwisgo fyny, dynas wedi gwisgo fyny. Oce, tangent bach rwan a croeso i rywun ddeud mod i'n siarad wanc, ond ydi'r Segrada Familia'n cynrychioli mam Manuela pan mae hi'n dyc
Ffilm Kopps (2003) Ffycin hilariys. Nesh i chwerthin bron trwy'r holl ffilm. Methu bod yn arsed sgwennu llawar mwy amdano ar y foment ond falla nai fory. Anamal iawn mae comedi'n dod heibio lle da chi'n piso chwerthin gymaint. trrrrrrrrraAAAA~~~~~~
Gwefan Gylchgrawn Ffilm Midnight Eye - The latest and best in Japanese cinema Adolygiad yma o Vibrator , ffilm nesh i weld yn gynharach yn y flwyddyn.
BBC Arlein | Newyddion | Gardd: Llygedyn o obaith? Nesh i ddarllan hwn fel "Llygodan o obaith" - well gen i fy fersiwn i.
Aaaaaargh! Weirdrwydd... Nesh i gamsillafu linc i fan hyn fel'ma http://www.rwdlsnwdls.blogpsot.com (sylwer: blog psot )ag aeth o a fi i... Aaron's Bible - Mega site of Bible studies and information Pam bo nhw'n iwsio rwdlsnwdls? Dwi'n ffricd awt hollol. waaah.
Newyddion Anibynnol yn UDA Democracy Now!: radio and TV news Esboniad o be ydyn nhw fan hyn Da gweld fod yno safbwyntiau llai adain dded yn cael eu lledu yn UDA
Ffilm: Sinema Kill Bill: Vol. 1 (2003)...eto Cyf: QT Ffantastic yr eilwaith. Ddim di blino arni eto, a ddim yn gweld fi'n blino wrth ei gweld am y fddrydedd chwaith.Bystio i weld yr ail rwan fyd. Ma Michael Madsen am fod yn wych, dwi'n gallu ei weld o'n dod. Un peth i gloi - dwi isio Uma. Am ddynas. Rrrar.
Ffilm: DVD Dinner Rush (2000) Cyf: Bob Giraldi Un o fy hoff ffilmiau o 2002 os nad y gorau. Noson mewn restaurant Eidalaidd poblogaidd yn ardal Tribeca, Efrog Newydd. Mae Danny Aiello yn chwarae rhan perchennog y bwyty sydd ar fin rhoi'r gorau i;r gem ond ma rhai o'i deulu mafioso'n ceisio muscle in ar ei fusnes. Stori dynn llawn cymeriadau diddorol, dyfn, cyfoethog, gwahanol...fel y bwyd sy'n cael ei weini yn y gegin. Omaigod, mae o'n gneud i chi lafoeri. Mae'r holl beth wedi ei osod yn y bwyty heb fawr o ddianc i'r byd tu allan ond yn lle teimlo'n golstroffobig, mae'n teimlo'n glyd a mor agos a hyn i'ch gilydd allwch chi ddim helpu dod i nabod pobol. Clasur gudd. Dwi'n argymell pawb i'w gwylio.
Austin Powers in Goldmember (2002) *gan fynd ar ei liniau yn y glaw yn ganol stryd ac ymestyn ei freichiau i'r nen ddu* "Pam Dduw, PAM?" Mor ddoniol a Ifan Gruffydd.
Nodyn Blogyn American-Buddha.com - Buddhist philosophy Isio darllan rhai o'r traethodau sydd o fewn y wefan hon. Tn arbennig sdwff Noam Chomsky.
Iesu, y dyn nath ddwyn y dolig (wel, trwy Saul...). Saul of Tarsus and Christ's Blood - Mithraism Theori fod y tradodiadau nadoligaidd wedi tarddu o Mithraism yn Nhwrci. Mae'n ceisio profi fod Saul wedi gosod credo Cristionogaeth ar ben credo Mithraism er mwyn ei wneud yn fwy palatable i'r bobol yn Nhwrci. O Metafilter
Y Ffwrwm Fforwm i drafo y diwylliannau creadigol ydi hwn, chydig yn uchel ael yn fy marn i. Os mae nhw am drafod sut mae celf am gael effaith ar gymunedau Cymreig yna rhaid pobblogeiddio. Wedi sgwennu mwy ar eu fforwm ...
Ffilm: DVD Brazil (1985) (Cyf: Terry Gilliam) Genius. Llwyr. Rhaid deud fy mod i'n sycar am ffilmiau sy'n gryf iawn yn weledol a delweddol. Dyna pam dwi'n lecio sci-fi gymaint siwr, a ddim mor hoff o astudiaethau dwys araf o berthynas pobol. Sweeping statement braidd...hmm. Wel ma Brazil yn gampwaith. Hon ydi'r ail waith i mi ei gweld ag oedd y stori yn hynod fitting neithiwr tra'r o'n i'n dreadio mynd nol i fy swydd weinyddol. (O'n i'n oce wedi mynd nol mewn, dwi di cael wsnos off!). Mae'r cymeriadau yn wallgo, a'r ddau Bob yn sgleinio (Bob Hoskins a Bob de Niro) fel y peirianyddion ducts swydddogol(BH) a guerrilla(BDN). Un cwyn sgen i ella, ydi fod y sequence chase a breuddwyd ar y diwedd yn mynd ychydig yn hir. Mae'r holl ddelweddau yn atogffa rywun o weithgarwech ol-ail ryfel byd Prydeinig am ryw reswm. Mae pawb sy'n weinyddydd neu wedi bod yn un yn gallu uniaethu a breuddwydion Sam Lowry i fflio ffwr' a dian
Y Ffwrwm - Croeso - Welcome Er mwyn fy atgoffa i fynd nol at hwn. Oeddwn i fod i fynd i'r gynhadledd.
Ffilm Koroshiya 1 / Ichi The Killer (2001) (Cyf: Takashi Miike) Ffilm arall Siapaneaidd i'r rhestr ddiweddar. Yr un mwya ffycd yp hyd yn hyn! Os da chi isio gwybod lle gafodd tarantino ei ysbrydoli i neud sioe waed yn Kill bill, wel fan hyn mae ei ffeindio. Mae na doreth o waed ynddo, dramatic, doniol, jest gwirion ar adega. Mae'r ddau brif gymeriad y petha mwya anghygoel i mi eu gweld mewn ffilm ers y Royal Tenenbaums. Y prif gymeriad: nerd ifanc nerfus sydd wedi cael ei gyflyru i feddwl fod raid iddo ladd bwlis y byd i gyd ac felly's gwisgo fyny fel swper hiro a'u lladd mewn ffyrdd dreisgar ddyfeisgar tra'n beichio crio/chwerthin yr holl ffordd drwodd. Ei wrthwynebydd: masochist tal slendar efo gwallt blond a chelsea smile lled ei ben sydd wedi ei uno a dwy piercing mawr. Pan gawn ein cyflwyno iddo y tro cynta mae'n smocio ffag a chwythu'r mwg allan o'i fochau! Brilliant! Yr unig ffilm ers oes i neud i fi deimlo chydig yn sal ar ol
Blogs Cymraeg, yn Saesneg! the echoist Newydd ddod ar draws hwn tra'n edrych ar pwy sy wedi dod i ngwefan. Boi sydd am gyfieithu blogs Cymraeg i'r Saesneg er mwyn i bobol eraill gael eu darllen. Go dda rwan...un person ecstra i ddarllen y mlog i!
Ffilm 11'09''01 - September 11 (2002) Gwyliwch y ffilm yma. Plis. Unrhywun a gafodd ei effeithio gan y diwrnod hyn mewn hanes a'i sgil effeithiau. Os da chi'n teimlo bod chi angen perspectif gwahanol ar y byd da chi'n byw ynddo a'i ymatebion i'r digwyddiadau o'i fewn yna rhentiwch hon. Ma'r ffilmiau 11 munud a 9 eiliad o hyd yn hit and miss (yn arbennig un Sean Penn, yr Americanwr sydd fwya heddychlon(? a mwya self-obsessed)). Mae ffilmiau Samira Makhmalbaf, Ken Loach, Alejandro González Iñárritu, a Idrissa Ouedraogo a bron pob un arall heblaw am yr un Siapaneiadd(am chenj) yn effeithio arnoch mewn yn hynod. Sdim ots o ba safbwynt y dewch chi i'r ddadl am y sefyllfa newydd yma yn ein byd troedig ni wedi'r hunllef yma yn Efrog Newydd, bydd y ffilm yma'n cadarnhau ein bod ni'n byw mewn BYD! ac nid mewn gwlad neu deyrnas sy'n cael ei rheoli gan sateleit a newyddion 4 awr ar 20. Ma pethau'n digwydd rownd y ril. Mae pe
Ffilm Spun (2002) Cyf: Jonas Akerlund Ma'n rhaid deud nad oedd y ffilm hon yn swnio'n ddeniadol iawn (dragio "name stars" teen mwfis i neud ffilm cyffuria er mwyn bod yn controfyrsial) nes i fi ddarllen fod perfformiad Mickey Rourke yn sefyll allan o'r lot. A mae o, mae'r boi yn hilarious fel y Cogydd methamphetamine, sydd yn hoolol Zen ac yn canolbwyntio ar ei waith tra ma chaos y speedfreaks yn digwydd o'i amgylch o: rhyw, busts, ayyb. Mae'r ffordd mae cyffuriau'n cael eu portreadu yn eitha hen erbyn hyn efo cuts cyflym a la requiem for a dream ag oedd o'n mynd ar fy nerfau braidd, ond mae o'n llwyddo i neud y ffilm yn frantic fel fasa bywyd speed freak. Mae'r byd yma o addicts yn hyll ar y diawl, ond mae na ddigon o ddarnau doniol ynddo (y cops sy'n gneud y byst yn arbennig yn eu dillad undercover cachlyd a'u ymdrech wael ar fod down with the kids ac yn 'street') i stopio fo rhag bod yn ffiaidd er mwyn bod