Ffilm
Spun (2002) Cyf: Jonas Akerlund

Ma'n rhaid deud nad oedd y ffilm hon yn swnio'n ddeniadol iawn (dragio "name stars" teen mwfis i neud ffilm cyffuria er mwyn bod yn controfyrsial) nes i fi ddarllen fod perfformiad Mickey Rourke yn sefyll allan o'r lot. A mae o, mae'r boi yn hilarious fel y Cogydd methamphetamine, sydd yn hoolol Zen ac yn canolbwyntio ar ei waith tra ma chaos y speedfreaks yn digwydd o'i amgylch o: rhyw, busts, ayyb. Mae'r ffordd mae cyffuriau'n cael eu portreadu yn eitha hen erbyn hyn efo cuts cyflym a la requiem for a dream ag oedd o'n mynd ar fy nerfau braidd, ond mae o'n llwyddo i neud y ffilm yn frantic fel fasa bywyd speed freak.

Mae'r byd yma o addicts yn hyll ar y diawl, ond mae na ddigon o ddarnau doniol ynddo (y cops sy'n gneud y byst yn arbennig yn eu dillad undercover cachlyd a'u ymdrech wael ar fod down with the kids ac yn 'street') i stopio fo rhag bod yn ffiaidd er mwyn bod yn ffiaidd.

Nesh i adael y ffilm yn meddwl, oedd hwn yn LLAWER gwell na "GO!" ond ddim hanner cystal a Requiem for a Dream. Mae RFAD yn dangos gwacter a pheryglon cyffuriau yn llawer cliriach.

Comments

Popular posts from this blog