Posts

Showing posts from April, 2004
Blog am Wleidyddiaeth yng Nghymru (efo slant adain dde) The Liberty Dragon: On freedom and devolved government in Wales Edrych fatha fod y boi wedi sdopio blogio ers Hydref 2003.
Rhagor o newyddion amgen Cymreig Wrth fynd drwy rhestr aelodau IndyCymru ddesh i ar draws gwefan Cardiff Alternative News , newyddion ar ffurf ebost ydi hwn gyda llaw.
Cenedlaetholwyr eithafol ar y we Gwefan arall gan genedlaetholwyr yn mynnu Cymru Rydd. Lllwyth o ddolenni FWA-aidd hefyd, mae na gachlwyth o wefannau yn paldaruo am hyn.
Ffilm: Doc Tintin!! Newydd ddarllan yn Screen International fod y ffilm ddogfen "Tintin and I / Tintin og mig" yn dangos ma y tro cyntaf yng ngwyl ffilmiau dogfen Hot Docs yn Toronto. Methu gwitsiad nes bod hwn yn taro'n glannau, os fyth y daw: mae mewn Daneg. Er, dwi'n meddwl fod digon o ffans Tintin i'w gyfiawnhau.
oniolwch ar y we: Graham Rawle Gwefan y dyn sy'n cyhoeddi'r cartwn Lost Consonants yn wythnosol yn y Guardian. Wedi ffeindio hwn drwy gyfweliad doniol iawn a fo yma ar B3TA. Mae'n gneud i fi chwerthin bob to. Da chi'n gallu meddwl am unrhyw rai da Cymraeg? Rhagor o stwff mae o'n ymwneud a fo yn hysbysebion dwl Niffactuals .
Newyddion ar y we IndyCymru :: independent news for Wales Wyddwn i ddim fod hwn yn bodoli. Diolch i'r Gwahanglwyf ar y maes am yr hysbysiad. W, mae o ar gael yn Gymraeg 'fyd, gwychach fyth!
Ffilm: Rhestr Obaith (Wish List megis fel petai) Sun Also Rises, The (1957) Sylwi fod Bob Evans (gweler blog isod) wedi actio;r brif ran yn hon. Fasw ni wrth y modd yn ei gweld hi. Ddarllenais i'r llyfr tra ym Mhamplona yng ngwyl y teirw a'i mwynhau i ryw radda. I ryw radda am mod i'n ei chasau hefyd mewn ffordd od. Mae'r cymeriadau mor atgas o upper class ond eto mae'r ysgrifennu mor dda. Mi wyliais To Have And Have Not unwaith ac mae hi'n ffanfycintastic (sut allai hi ddim fod efo Howard Hawks ar y llyw a Bogey a Bacall yn smowldro). Slim: "You know you don't have to act with me, Steve. You don't have to say anything, and you don't have to do anything. Not a thing. Oh, maybe just whistle. You know how to whistle, don't you, Steve? You just put your lips together and... blow." Mae'r rhen Bacall yn y nghael i bob tro. Sdyning.
Ffilm: DVD Kid Stays In the Picture, The (2002) Ffilm ddogfen arall dda iawn, yn son am high life a chwymp Bob Evans y cynhyrchydd Hollywood. Dim ond stills a hen footage gyda troslais ydi o, ond mae'n gweithio'n wych ac yn dal y dychymyg. Am amser, bois bach. A fynta, y cwd, wedi gneud seren o Polanski a darganfod Chinatown. Mae cenfigen yn hen beth afiach tydi.
Ffilm: Gwefan Images: A Journal of Film and Popular Culture Tarddle cyfoethog arall o erthyglau ac adolygiadau am ffilm a'r ddelwedd symudol. Adolygiad Kill Bill Vol.2 - cytuno mewn sawl agwedd, faswn i mond wedi rhoi 2 seren allan o bedwar. Traethawd ar foderniaeth a mise-en-scene yn "Brazil" gan Terry Gilliam. Ma newydd atgoffa fi hefyd fod raid i fi wylio "Midnight Cowboy" eto'n fuan...
Ffilm: sinema Kill Bill: Vol. 2 (2004) Cyf: Quentin Tarantino Mi gesh i'n siomi. Roedd y ffeits yn reit dda yn arbennig darn Pai Mei, ond roedd y darnau yn y canol yn eitha tedious, yn arbennig y briodas yn y cychwyn a'r malu cachu rhwng the Bride a Bill. Doedd yna jest ddim digon gwahanol yn weledol i allu cyfiawnhau ail ffilm. Fe fwynheuaids y cynta'n fawr ond roedd Uma fach yn fy niflasu. Uchafbwyntiau: Michael Madsen, Pai Mei a'r Perchennog Hwrdy Mecsicanaidd. Dyna fo. Oedd y miwsig ddim cystal a'r llall tro ma chwaith. QT Deffo wedi rhedeg allan o syniadau.
Woohoo! Mwy o features anime Adolygiad ffilm Appleseed
Ffilm: DVD Withnail and I (1987) - Anchor Bay Cyf: Bruce Robinson Jest y peth ar nos Sul o benwythnos meddwol. Symud mlaen fel "I", dechrau diwrnod newydd yn glir fy mhen! Mae'r rhaglen ddogfen "Withnail and Us" ar y DVD yn gret hefyd. Gwefan gyda lluniau a chlipiau sain. Gwefan am Bruce Robinson : dio heb neud llawar o ffilmiau da erill naddo? Still Crazy??
Rwdlan am hir iawn... Newydd sylwi mod i wedi bod yn blogio am dros flwyddyn rwan! Dyma'r postiad cyntaf (27 Mawrth 2003) am y ffilm "Yojimbo"
Gweeeeeefiaduro Daryl Cagle's Web Log! Gwefiadur efo llwyth o gartwnau gwelidyddol da iawn. Diolch i Chris yn Cartwnflog .
Blogosffer Blog Mixolydian Mode Ffyc nows be ma'r boi ma'n son amdan ond mae o di blogio llwyth o ganeuon gwerin Cymreig a di neud midi ffeils yn eu canu nhw...(a chamsillafu'n dda: Y gan draddoiadol enwog "Bler Ei Di" !!). Jest rwbath arall dibwynt neshi ffeindio ar fy nhrafals...
Ffilm: Clasur 80'au Lluniau o'r Skateboard Chase o Back To The Future. o wefan BTTF.com . O'n i rili, RILI isio neud hyn pan o'n i'n iau...dim ond gafael mlaen i spoilers yn dre gesh i neud.
Ffilm: Teli Newydd wylio golygfa gawod Psycho (1960) - mae o'n un o;r treats sinematig na da chi jest yn anghofio amdanyn nhw weithia. Mae Hitch mor calculating efo pob symudiad y camera, a mae'r fframio o Janet Leigh (reit ar yr ohcr chwith) pan mae hi wedi cael ei thrywanu ac yn llithro lawr ochr y wal yn sybleim. Dwi awydd prynu'r fffilm rwan hyn. Gwylio mymryn o ffilm Bill Murray - Stripes hefyd. Eitha doniol mewn ffordd croes-rhwng-animal-house-a-police-academy. Ac roedd Warren Oates ynddo fo, dio ddim wedi bod mewn ffilmiau classy drwy ei yrfa ta, na Nic? :winc:
Cartwn Dwi'n caru'r cartwn bach hyfryd ma a robotiaid . O B3TA
Pensaerniaeth Capel: Cymdeithas Treftadaeth y Capeli Ffeindio'r wefan uchod ar Miri Mawr , a chytuno faint mor bwysig ydi cofnodi ein capeli cyn iddynt ddiflannu. Dwi'm yn grediniwr o bell ffordd ond mae nhw'n rhan o'n hanes ni a mae dyletswydd arnon ni i o leia gadw cofnodion manwl o'r adeiladau os nad oes arian ar ol i'w cadw'n sefyll. Mae'n anghygoel meddwl fod cymaint ohonynt wedi eu hadeiladu a fod cymaint o bobol yn mynychu a'u llenwi nhw ar un adeg. Dwi'n gwybod fod rhai capelwyr yn disgwyl y bydd resurgence o fath yn dod i'w achub ond welai mo hynny'n digwydd yn y dyfodol agos.
Odrwydd y we Subservient Chicken Mae'r cyw iar yn deud be da chi'n deu'tha fo. wir yr. Na, wir WIR yr. Dwn im os ma'n gneu yn gymraeg chwaith.
Technolust go drapia Design - K700 - Products - Sony Ericsson Dwisio'r ffon uchod. Dwisio dwisio dwisio. Dwi'n gneud y'n hun yn sal. *ralph* (ydi ralph yn swn piwc Saesneg, ddyla fo fod yn *hwwwd* ne rwbath yn Gymraeg?)
Sdwff ar y we Casgliad o luniau a promos o S4C yr 80'au. Edrych fel ei fod wedi sganio llond bag Daily Post sdeddfod o geriach gafodd am ddim ym 1985. Ddylswn i neud trip nol i'r giarifan.
Teledu: HTV The Harlech House of Graphics Gwefan gyda llwythi o stills o hen raglenni HTV yn cynnwys sdwff Cymraeg ( Ffalabalam ac ati...). Lot o luniau da yno...
Gwefiaduro (blogio) "Blog all about it" - Erthygl yn y Grauniad Diolch i Dwisio'r Llinell am hyn. Ma'n od, be sy'n genud i fi blogio. Ffyni edrach nol i'r rhai cynta, jest esgus i siarad rwtsh llwyr oedd o, ond mae o rwan wedi dod yn dri peth cyfun: cofnod o wefannau dwi'n ffeindio'n ddifyr (a dwi'n meddwl falla fasa pobol eraill yn), cofnod o'r ffilmiau dwi di wylio a pwtyn amdanyn nhw (sy'n helpu fi sortio;r ffilm allan yn fy mhen yn lle jest anghofio amdano, osma rywun arall yn darllan y bits yma, dyna fo), ac ychydig o ddarnau o marn i a petha felly yn gymysg ynddynt rywsut. Yn wir, mae o'n rhywbeth eitha vain i neud, ond dydi o'n cymryd llawar o'n amsar i i neud o felly pam lai. Faswn i mond yn clytro fyny maes-e efo'n mhetha aniddorol! Waeth i fi gadw nhw'n rhywle ar wahan fel hyn ynte. Mae yn biti nad oes na wefiaduron sydd yn llenyddol ac yn bleser i'w darllen os yn ddoniol neu ddifrifol. Mae&
Ffilm: Dod cyn hir The Hitchhikers' Movie: An Interview with Garth Jennings and Nick Goldsmith Cyfweliad gwych a'r cyfarwyddwr a chynhyrchydd y ffilm newyddd sydd am ddo allan yn 2005 gobeithio. Mae na lwyth o sylwadau am y ffilm a'r cymeriadau ac r'on i'n meddwl fod hwn (isod) yn ddyfyniad gwych: "JL: What do you think is so special about Hitchhiker's? Why do so many people care about it? Garth: We had the pleasure of meeting Mr Stephen Fry the other day, and he summed it up better than I've ever been able to do. He said that it was a bit like when you go to see an Eddie Izzard concert, and you're there with thousands of people, there you are cracking up laughing, but you always get the feeling like you're the one who gets it just a bit better than everybody else and everyone's laughing but they don't really quite understand the subtlety of what you're all listening to. That was his comparison to the way we all feel ab
Y We The Hitchhiker's Guide to the Galaxy - Ar Lein Mae project Douglas Adams yn dal i fynd yn ei flaen wedi ei farwolaeth ynghyd a'i ffilm hir ddisgwyliedig. Gobeithio gwnawn nhw degwch iddo yn yr hyn a gynhyrchant. Mi sgwennodd o'r rhan fwyaf o;r sgript ond hawdd iawn yw gwneud cachu hwch o'r holl beth yn ystod cynhyrchu. Fasa hynna'n siomedig iawn. Dwi'n darllan "The Salmon of Doubt" ar y foment a dwi jest yn meddwl fod Douglas Adams yn un o'r awduron hynny sy'n gwneud i bethau cymleth ddod yn rhywbeth dydd i ddydd ond fod popeth hefyd a doniolwch a swrealaeth ynghlwm ynddo. Dyn gwych yn wir.
Ffilm: Sinema Lost Boys, The (1987) Cyf: Joel Schumacher Be all rywun ddeud? Class.Chwara teg, nath Joel Schumacher ddim llawar o ddim gwerth chweil ar ei ol, er ei fod wedi cael y sianws i gyfarwyddo llwyth o sdwff. Batman and Robin? A Time To Kill? Phone Booth? 8MM? Oedd Flatliners yn iawn decini.
Ffilm: Sgrin Fawr Zulu (1964) Cyf: Cy Endfield Gwylio hon fel rhan o gynhadledd Cyfrwng , oedd, gyda llaw, yn hynod ddiddorol ac wedi codi sawl cnonyn yn fy mhen ond sdori arall di honno. Roedd yna ddangosiad o'r ffilm a thrafodaeth wedyn gyda Lady Elen Baker (gweddw Stanley Baker , y prif actor, yn enedigol o'r Rhondda), hanesyddion ffilm, hanesyddion y Zulu, a critics ffilm. Roedden nhw'n trafod y ffilm yn ei gyd-destun Cymreig a faint roedd Stanley Baker fel cynllunydd y project eisiau iddi roi lle i Gymry ar y sgrin fawr. Mae'r cymeriadau a'r portread erbyn hyn yn llawn stereoteips ond mae dal yn wych clywed cymeriad yn crybwyll ei dir ffrwythlon nol yn y Bala ym Meirionnydd. Mae'r holl Imperialaeth a diffyg sylw i'r Zulu yn mynd yn ormod ond, roedd y critics yma'n ceisio dweud fod y ffilm yn wahanol i epigau colonial eraill yn y ffaith ei fod yn cwestiynu rhyfel a phwynt yr holl beth yn gyson drwy'r ffilm. Yn wir, mae na lawer o be
Ffilm: Teli Leaving Las Vegas (1995) Cyf: Mike Figgis Ffilm wych. Eilwaith i fi ei gweld. Cage a Shue yn actio'n wych a mae'n cyfleu anobaith y cymeriadau a'r sefyllfa heb ei wneud i chi estyn y tishws rhy gyflym. Shue: "How do you feel?" Cage: "I'm the kling klang king of the rim ram room!"
Ffilm~: Teli Office Space (1999) Cyf: Mike Judge (y boi nath King of The Hill a Beavis a Butthead) Nesh i mond gweld yr hannar cynta cyn disgyn i gysgu gan ei fod mlaen am tua 2am bora Sad, ond roedd o'n edrych yn gret. "The Office" yn America.
Tai Guardian Unlimited Money | Special_reports | Is it time to fasten our seatbelts? "According to Halifax, the total value of property in the UK has nearly doubled during the past five years; in a separate report, the lender said West Glamorgan and Gwynedd in Wales had seen prices increase by more than 55% over the last 12 months alone."
Ar y we, lle deche'n de Lle i ffeindio petha ffycd yp fel Lyrics y Beatles yn Gymraeg Gan Rhyw Berson o Brifysgol Cornell Yn America... "Go figure" fel 'sa rhywun arall yn deud. Wele esiampl: Tripiwr Dydd Gen i rheswm da Am gymryd y ffordd allan hawdd Yr oedd hi'n dripiwr dydd Tocyn un-ffordd, ie Yr oedd hi'n mor hir O hyd dod, a nes i ddod Mae hi'n 'smaliwr fawr 'Nghymryd i hanner y ffordd Ceisies ei boddhau 'Mond chwarae naeth hi un nos" . . . Fuodd Cefin cariad i Cornell?
Ffilm Mor Wael Ro'n I yn fy Nwble, Drosodd a Throsodd Rock 'n' Roll Nightmare Plis gwyliwch hwn, dydi Airplane ddim patsh am laffs, ac roedd hwn yn ymdrech o ddifri. Hollol wych. ( Imdb )
Jackq, Jackq yer body! bluejackQ - homepage ...wel, ffon rhywun arall beth bynnag. Swnio fatha hwyl, anfon negeseuon i ffons pobol diarth. Hehehe!
Ar y we, mae pethau deche Obsesd efo Eluned Morgan?? Be ffwc? Ma rhywun yn obsesd efo Eluned Morgan ac wedi gwneud gwefan i'w haddoli , nath y dudalen luniau uchod roi laff i fi, parhewch drwy'r lluniau a gewch chi syrpreis. Wedi darllen tameidiau a gwir, mae ei sgwennu'n hyfryd a nwydus. Od iawn ddo.
Celf y stryd Wooster Collective : Stickers / Posters / Graf / Culture Jamming Gwefan lawn dop o luniau o'r sdwff ma. Ma rhai o'r pethau'n wych. Ma na lwythi o ddolenni i luniau gymaint o artistiaid gwahanol. Ma hi'n rhy hwyr i gychwyn traul rwan. Mae'n dod a dwr i ddannadd ddo.
TEW yn yr UDA Anti War Street Art Gallery - Fat Power ??Pwy sydd di plagiarisio pwy?? :P
Lluniau o gelf hynod ddiddorol yn Efrog Newy GammaBlaBlog - Photos - NYC STREET ART
Ydach chi.... ...rioed wedi meddwl am Patagonia fel hyn o'r blaen? O wefan lawn dop ulw o waith Jan Svankmajer yr artist, animeiddiwr a gwneuthurwr ffilm enwog o wlad Czech. Mae gen i un o'i ffilmiau ar VHS "Little Otik" di enw fo. Mae o amdan ddau riant sydd efo log fel plentyn. Aye, sdwff od ar y diawl.
Omaigod... The Tool Page: Stinkfist Video Newydd weld y fideo uchod gan y band Tool (gellir islwytho o'r wefan hon), mae o'n ffycin brilliant. Pobol wedi neud allan o dywod yn gneud petha rili ffrici. Boi o'r enw Adam Jones ( Imdb ) sydd wedi ei gyfarwyddo, aparyntli mae o'n gitarydd i'r band hefyd. Grwfi. Ma holl fideos Tool ar gael i'w islwytho fan hyn. Ma'r miwsig bach yn lame ddo, chydig rhy American nu-metal shit.
Ar y we Matchstick Rockets O'n i'n arfar gneud rhain pan o'n i'n iengach. Mae nhw'n brilliant! Ma rhain chydig mwy advanced na'n rhai i serch hynny. Mae na egsost arnyn nhw.
Ar y we Can fach hapus o stablau B3TA. Ma'n nhw'n jiniys! (peidiwch a'i chwara yn gwaith, wel gwnewch jest i weld ymateb y bobol o gwmpas chi)
Ffilm: Nawdd Santes Ffilmiau The Sayings of St. Tula, the Patron Saint of Film Dwi'n hoffi'r ffaith taw dynes ydi hi. Dyma rai o'i hysgrifau a dyma engraifft: “Dream twenty-four dreams per second.” Gwir bob gair a ddwedwyd.
Seintiau Cwrw Beer Saints Rhagor o hanes seintiau cwrw... Ma Sant Awgwstin o Hippo'n swnio fel uffar o foi. Wele ddyfyniad... "His most famous quote is “God, grant me chastity and temperance, but just not yet.” His day is August 28th and he was martyred by the Vandals." Godidog.
Cynffonau Ceiliog Guinness Cocktails Ych a pych. Er faswn i'm yn menidio trio Black Velvet efo Champagne.
Animeiddiadau Mantlepies A Strange Ghost Fatha "The Others" ond efo graffiti.
Trin a thrafod yn ddwys...ahem Seiat y Cynganeddwyr: Rhegi Dyfyniad: "Trwy gabledd a phlwyfoldeb mae Cymro yn rhegi, nid trwy ffugio geiriau am weithredoedd y corff. Does dim angen i laslanciau Cymru gwario chwaneg o oriau yn onanu tra'n fathu lol ar gyfer yr erthyl safle y cyfeirir ato, dim ond er mwyn cael y ffug bleser o gael dweud bod geiriau drwg ni cyn ddryced â rhai y Sais - twt lol botas maip!" *piso nglos a bron disgyn oddiar y stol* hahahahiiii! "Erthyl safle"! Dwi'n lecio honna, ella fydd raid i fi roi honna ar dudalen flaen y Rhegiadur. Rhyw fath o destimonial. Bytheiriwch fois a pheidiwch gadael i'r erthylwr "anhysbys" eich dargyfeirio! Nid llwyrymwrthodi ac osgoi trythyllwch yw ein Cymru ni. Rhegwch, diawliwch, a chymerwch bleser ynddo. Os gwneud, gneud yn Gymraeg ynte!
Dachi'n rhegi? Da chi'n rhegi? Ffycin jaco's! Abersoch.co.uk Webcams Sori am y floedd uchod, ond ma gweld gwefan am Abersoch yn gyfangwbl yn Saesneg yn gneud fy stumog i droi. "Oh, look at those beautiful photos on the webcam, let's buy a house there. Mmhm, one of those chalets on the beach thery're only £50k. We'll just have to skip decorating this year. What do you say Frances?" Ma na un gyfa am Ddolgellau sydd heb gyfieithaid, sa chi'n meddwl fasa rhywun o fewn y dre efo amser i wneud, neu well fyth tasa'r cyngor tre'n talu i rywun wneud. Ma'n swnio fel fod y boi'n ddigon agored i hyn ddigwydd chwara teg. Hwn ydi be ma'r byd tu allan yn ei weld, os dydyn nhw ddim yn gweld Cymraeg ar y wefan pa ddisgwyl iddyn nhw feddwl fod angan dysgu Cymraeg os symudant yno?
Twll... ...o le
Hawliau cynnwys creadigol ar y we weblog | Creative Commons Mae'r wefan Creative Commons yn anelu at alluogi dosbarthiad cynnwys gyda rhai hawliau wedi'w cadw gan yr awdur ond rhai eraill yn rhydd. Dwi heb edrych yn union ar sut mae hyn yn gweithio , ond mae'n edrych yn ddiddorol. Nesh i ffeindio fo drwy sylwi fod rhai ffonlonluniau yn cadw rhai hawliau drwy'r leisans yma.
Erthyglon a straeon o bedwar ban byd Four Corners Grwpflog newydd lle mae pobol o wahanol rannau o'r byd yn gallu postio straeon ac myfyriadau. Mae yno sawl awdur (yn cyfri yr hyfryd Suw Charman. Dyma ei erthygl .)...dyma eu disgrifiad hwy eu hunain o'r wefan: Four Corners is life and its many facets. Food, technology, music, politics, culture, games, language: interrelated and intertwined. What we want to create is a place to provoke thinking, spawn creation, inspire adventure. Much time is spent in modern media discussing how separate and different everything is -- we want to fuse it all back together into the greater whole. Location doesn't matter: it's all about vectors. Fluid vs Static Production vs Consumption Globalizing vs Globalized Creation vs Recreation Inspiration vs Desperation Living, creating, adventuring. Four Corners. Mae'n swnio'n lle eitha difyr i fynd am gip weithia.
Moblog Joi Ito Joi Ito's Moblog Un o'r arloeswyr yn ol bob son...
Yr obsesiwn newydd... Gwefan gartref Lightning Bolt Mae lluniau a fideos (un fan hyn a un fan hyn )i chi gael gweld eu gwallgofrwydd dros eich hunain...
Adolygiad Y Guardian o benwythnos 2 ATP Guardian Unlimited | Arts reviews | All Tomorrow's Parties Chydig yn fyr rili...yn amlwg yn anghytuno a fi am Dizzee Rascal.
Adolygiad o ATP: penwythnos 1 o'r Independent Fan hyn...
Lluniau ATP Fan hyn.
Cofnod All Tomorrow's Parties 2004 - penwythnos 2 Pobol dwi isio cofio o ATP (cofnod i fi di hwn mwy na dim felly anwybyddwch os da chisio): Valentina Italiana, Swedish Rob (oedd arfar drymio i Placebo), pouty Toni - ffrindia newydd nos Wenar aeth a fi ar gyfeiliorn gan beri i fi fod yn sal iawn dydd Sad, ond doedd dim ots - roedd hi'n gret o noson/fore Paul Nectar o Hull a'i ffrind Elana - partneri dawnsio caws nos Sul a barhaodd tan reit yn y diwedd teutonic Tomas o Norwy Paul Flaherty y cerddor freeform jazz a phaentiwr drwy broffesiwn ei farf hynod o wyn a llaes a'i ymagwedd hawddgar, Claire wenog ar grwydr Colin y perchenog siop recordiau yn Southampton - obsesd efo siwmper Barfog am ryw reswm Y bands nesh i weld dydd Gwener (curators: Stephen Malkmus and the Jinks): Fiery Furnaces - ddim yn cofio rhain o gwbl ond dwi wedi ticio nhw am ryw reswm! Nina Nastasia - llais hyfryd ond oedd y violin ag accordian yn redundant am ryw reswm Enon - gen
Llwythi o sdwff newydd! Mae mynd trwy wefannau diweddar Miri Mawr wedi dod fyny a sawl man diddorol - wele... Gwefan dairieithog Iesu Grist... - Y? Lluniau neis o'r Veedubs ar wyliau. edrych fel fod mwy o waith am ddod arno. Llechwefan - Hanes Llechi Cymru - wyddoch y gelwid llechi yn ysglatus ar un adeg? Na? Na fi chwaith. Lluniau gret yn eu oriel , dangos faint mor nyts oedd gweithio yn y cloddfeydd. Gwefan ffan i fand Y Cyrff Islwytho caneuon Y Cyrff Gwefan Y Barnwr - synfyfyriadau gan foi sy'n byw ger Brymbo. Ddim ar Miri Mawr ond drwy Maes-e: Recordiau Slacyr - Gwefan neis gan label Texas Radio Band a Pep Le Pew
Blogiau Cymraeg CartwnFlog Mi adawodd Chris Castle y ddolen ar un o'r sylwadau isod ond r'on i'n meddwl baswn i'n ei flogio go iawn. Ychwanegiad diddorol i'r blogosffer Cymraeg ganddo. Go dda rwan Chris.
Tata, nol cyn hir... Fel dwi'n deud isod, mynd i ATP felly dim blog tan ddydd Llun. Fydd gennai adroddiad llawn bryd hynny...
Moblog difyr... Light & Dark Mae gen y person yma syniad ac yn gweithredu fo yn lle jest neud random lluniau. Dwi'n lecio'r syniad o dynnu lluniau am i fyny a gweld petha ti byth yn sbio arnyn nhw fel arfer. Neis. Diolch i bobols y maes am y geiria caredig am fy moblog. Nais won chaps! Fyddai'n ypdetio o wyl gerddoriaeth All Tomorrows Parties o prynhawn yma mlaen... Nai drio cael llun o Barfog a Moelog ar y go karts!
Gan ei bod hi'n Ebrill y 1af... The Museum of Hoaxes Eitha lecio'r mwnc yma. Nath fy hawsmet (be di housemate yn Gymraeg? "boi dwi'n byw efo"?) anfon ebost yn deud fod rhywun wedi torri mewn i;r ty a'i fod ar y ffordd lawr...ia, da rwan. Er mi naeth fy stumog ddisgyn cyn i fi feddwl am y peth.
Fyddan ni'n anfon nhw i Mars i weithio yn y cloddfeydd nesa... Mae'r robotiaid wedi cyrraedd Ydy hyn yn wir? Ma'n amazing os mae o.
Treth ar dai haf: Os mae Lloegr yn gneud pam na wnawn ni? BBC NEWS | Politics | Second home council tax rise Mae hwn yn rywbeth y dylem neidio arni fel cam positif hawdd tuag at gyfrannu at y gost leol. Dydyn nhw'n cyfrannu fawr ddim i siopau a busnesau lleol felly trethwch nhw. Efallai fod modd sicrhau fod y dreth yma ddim yn taro pobol o'r ardal sy'n prynu ail dy er mwyn rhentu, ddylsa hyn gael ei groesawu a chan fod y twristiaiad am ddod, ddim ots be fydd pobol yn gneud, waeth i bobol leol fod yn gneud yr arian ohonynt. Efallai y dylai yno hefyd fod treth arbennig tuag at greu sysytemau i alluogi pobol sydd yn symud i fyw yma i ddysgu Cymraeg ag ymwneud a'r gymdethas leol yn lle bod ar wahan. Mae'n rhaid genud hi mor hawdd a phosib i bobol ddysgu Cymraeg a chael eu integreiddio mewn i'n cymdeithas neu cyn hir fydd ein cymdeithas ddim yn ddigon cryf i allu gwneud hynny.