Y We

The Hitchhiker's Guide to the Galaxy - Ar Lein

Mae project Douglas Adams yn dal i fynd yn ei flaen wedi ei farwolaeth ynghyd a'i ffilm hir ddisgwyliedig. Gobeithio gwnawn nhw degwch iddo yn yr hyn a gynhyrchant. Mi sgwennodd o'r rhan fwyaf o;r sgript ond hawdd iawn yw gwneud cachu hwch o'r holl beth yn ystod cynhyrchu. Fasa hynna'n siomedig iawn.

Dwi'n darllan "The Salmon of Doubt" ar y foment a dwi jest yn meddwl fod Douglas Adams yn un o'r awduron hynny sy'n gwneud i bethau cymleth ddod yn rhywbeth dydd i ddydd ond fod popeth hefyd a doniolwch a swrealaeth ynghlwm ynddo. Dyn gwych yn wir.

Comments

Popular posts from this blog