Posts

Showing posts from September, 2003
Iesu Grist o'r Nefoedd (first person shooter!) Dyma'r gem nesaf i ddod allan ar y farchnad. "Jesus Freakin" . First person shooter lle ma Iesu'n dod lawr o'r nefoedd i neud gwaith Duw. Lladd oll sydd wedi pechu. Blam! "Jesus Freakin gives gamers the opportunity to deliver divine justice as they control Jesus Himself through multiple levels of inspired mayhem. Jesus battles all traditional Christian enemies, such as liberals, homosexuals and of course, the Jews. His arsenal includes weapons such as swords, assault rifles, assorted explosives and the all-powerful, Hand of God. " Hehehe! ffyni (pwy sy'n mynd i uffern? Fi ar ol be ddudish i yn yr eglwys Pilar de Nuestra rwbathnegilydd yn Zaragoza a darllen gwefan Jesus Freakin). Llosgwch fiiiiii. Dwi'm isio mynd i'r nefoedd eniwe, ma'n swnio'n ddiflas iiiawn.
Spirited Away Un o'r ffilms plant gorau i mi ei weld erioed . Heb os. Mae'r byd sydd o'i fewn mor hudol, swynol, dychmygus, direidus, drwg, dychrynllyd, digri. Mae'n berffaith i blant ond mae'n wych i oedolyn, mae o jest yn cario chi ar siwrne mewn i ben draw dychymyg Hayao Myiazaki a gneud i chi deimlo mor ddiniwed a phlentyn eto. Mae gen i Princess Mononoke hefyd sydd am gael fiwing bach arall dydd Sul ond mae na un arall ganddo ar y ffordd wedi si-on ei fod ddim am wneud rhagor. Enw'r un nesaf fydd Howl's Moving Castle. Quote am Spirited Away gan Myiazaki: "For the people who used to be 10 years old, and the people who are going to be 10 years old." Mae'n crynhoi y profiad i fi. Fydd raid i fi brynu copi i LPL sy'n cael ei benblwydd yn dri wsnons nesa. Ella fydd ganddo chydig i fynd ond mi fydd o wrth ei fod dpan ddaw i'r oedran iawn.
John Pilger - Dyn Sy'n Trio Deud Y Gwir Wedi gwylio rhaglen gan y newyddiadurwr yma'r noson o'r blaen, o'n i di gwylltio'n gacwn erbyn y diwedd. Maee'r Americans a Tony Bler yn warth. Ffilth llwyr. Dyma linc i rai o erthyglau John Pilger neu dwi'n awgrymu'n gry darllen The New Rulers Of The World . Ma'n rhoi goleuni newydd ar faterion y byd.
"Y Byd" - Papur Dyddiol yn y Gymraeg Haleliwia, ma na obaith i ni gael papur dyddiol sydd a rywfaint o aeddfedrwydd drwy gyfrwng y Gymraeg! Gweler erthygl yma am fanylion.
Small Grins am bizzare
GPS i Ewrop a China Erthgyl yn y New Scinetist fod China ag ewrop wedi datblygu GPS gwell na US a'u bod am allu ei lawnsio yn commercial o fewn chydig o flynyddoedd. Fel sa chi'n meddwl, dyw'r US ddim y nhapus iawn am hyn. Bydd eu monopoli ar ysbio ar ben. Hen bryd dduda i. Ma angen i Ewrop ddechra ffurfio lincs efo gwledydd eraill i leihau dominyddiaeth America.
MA ORIG WILLIAMS YN ARWWWWR!!! El Bandito, wariar a dyn sydd ddim yn ofn mynd o flaen torf o ffarmwrs gwallgo yn ei drons mawr coch! Dwi''n mwynhau eu golofn siarad plaen o yn Y Cymro. Ma'n mynd off ar tangents weithia ond ma hynna'n ychwanegu at cgymeriad y swennu. Hir oes i Orig, arwr Cymru fodern!
Orig Williams - Arwr Wedi darllan cychwyn ei lyfr heno. Ma'r boi'n
Doniolwch Dogfenaeth Technegol Lluniau o ddogfennaeth dechnegol swreal wedi sbachu o Metafilter .
Petha Random Oedd na hogan nath symud i Dolgella wedi bod i ysgol breifat Ranelagh ag pan oedd y tim hoci'n chwara, oeddan nhw'n chantio. "Ra, Ra, Ranelagh" Enw mhysgodyn aur cynta oedd Rocky Oedd gen i gasgliad o diwedd pacedi polo mints pan o'n i'n iau...weirdo. Dwi di ysgwyd llaw Bootsy Collins. Dwi ar fin bwyta chow mein beef efo black bean sauce a dwy bancec rol o Evergreen Chinese. Ma'r blog yma yr un mwya diflas eto....tata rwan.. Dwi'n mynd i siarad ar msn efo boi o Rachub.
HAIAAAA!!! Shwdi Betsan!...hapus 'wan? Iasu ma'r pobol Dinas ma'n dimanding. Welai di cyn hir. Ribi-di-reu.
Ffilm: Picnic At Hanging Rock Ffycin spooky, hollol engrossing, subtle social commentary, son am repression a rhyddid yn oes fictorianaidd. Slating o'r sustem ysgol breifat ac agwweddau Saeson a ymfudodd i Awstralia. Waw. Ma di gwella yr ail waith rownd. Hollol styning. Ddim i bawb de ond mi wnes i ffeindio fo'n un o'r ffilmiau mwya llawn o syniadau a delweddau ers cryn dipyn. Soundtrack spwci ac actio afreal. Ma Peter Weir yn lej, sut ddiawl nath o neud Green Card! Ond ma nol ar fform rwan..gobeithio gawn ni fwy ganddo. Dyma chi lle mae o go iawn... Dyma'r IMDB o'r ffilm...
Larry 'Di Nwdls ...am y noson. Larry Shittzenheimer broadscasting for G-FAB FM...............sori dwi di Larry heno. Rydy fi Laru, rydw.
Nwdls 'Di Laru Ey up arkwright what be fookin' going on. yer ain't done a blog since fookin ages. Naddo dwi heb neud ffac ol ar hwn ers oes ond dwi wedi bod yn hofran o gwmpas ambell i le fel cachgi bwm rownd cenin pedr. Jest dipio mewn am bach o nectar bob yn hyn a hyn. Felly dwi'n dal methu bod yn arsd i sgwennu llawar felly dwi am restru lle dwi di bod os ma ryw un efo diddordab de... Hwdwch! Herculoids Neu yn fwy adnabyddedig i ni Gymru dros 23 fel Sandooor!!! Al Bym Newydd gan Paper Records - Best Of Iym Iym Canolfan Y Dechnoleg Amgen Mechynlleth am bod met i fi o Stoke isio mynd mewn i'r busnas ma. Yn ol bob son ma na broffit i'w wneud a pham lai na gneud o mewn ffordd sy'n lan. NesaAAA! All Tomorrows Parties! Dwi off na eto flwyddyn yma, methu gwitsiad i fod nol yn Camber Sands efo'r bois o-bach-y-barf. Statesman or Skatesman? Gwefan yn cofnodi pa mp's sydd wedi reidio skateboards, balwns, scooters ayyb Ffyni...am chyd