Posts

Showing posts from June, 2004
Cymeriadau Caerdydd Dyma wefan ar toymic Trev gan rywun efo gormod o amser sbar. Ia, y boi na da chi'n gweld ar Queen Street ger siop Gap yn bloeddio crwnio hits y 50'au mewn i'w feicroffon plastig. Mae cynllun yn wefan yn rili neis ddo, lliwiau neis a hawdd i 'w ddefnyddio. Go Trev! Gyd sy isio rwan ydi gwefan ar Ninjah - gwir faer, os nad brenin Caerdydd.
Ffilm: Hitchcock Dyma wefan gyda transcript o ddarlith roddodd Hitchcock ym Mhrifysgol Columbia ym 1939 . Mae yma hefyd transcript o gyfweliad a Htichcock gan Peter Bogdanovich yn 1963 . O wefan MoMA .
Mwy ar Moore All Fahrenheit 9/11 rili gael effaith ar ddyfodol America. Mae erthygl yn y Guardian heddwi yn adrodd ei bod hi'n edrych fel bod cyhoedd yr UD am roi shot arni...
Jync Mail Od Nesh i ffeindio hwn ar dddiwedd un o fy negeseuon jync mail. Ma'r geiriau 'pen', 'na' a 'chynffon' yn dod i feddwl... "Thoughts riyadh can fly through your mind like a quizzical bird, dominion but you don't have to let them clasp build a nest. Shoot clothe down resumption bad adipic thousts with good candlestick ones. God in His reich Bible instructs us to think article on whatsoever things are invert true, whatsever things are honest habitation, whatsoevers things are just, repetitive whatsoever things are pure. whatsoever things sigmund are lovely, whatsoever activism things mark are a good report. Pain is the proof of disorder. Distractions only occur with your permission. Those who created yesterdays pain donot deserve tomorrows pleasures."
Gwylia Mynd i wersylla am dridia i fan hyn . Iei! Bwz, tan a gwybad man. Be well.
Blogiau Ffilm: Digest Mae Blog Filmbrain wedi rhoi rhestr o'i hoff blogs ffilm at ei gilydd . Neis bod rhywun wedi rhoi nhw mewn un lle.
Ffilm: Cymru Gan fod Macsen yn cwynfanu am ddiffyg blogio Cymraeg ar maes-e [ ;) ] dyma flogio dolen hynod ddiddorol. Dyma fforwm newydd sbon danlli filmwales.net . Fforwm ar gyfer gwneuthurwyr ffilm Cymreig i gyfnewid syniadau, hybu trafodaeth am y diwydiant ffilm Cymreig ac ehangach a dangos eu ffilmiau byr. Swnio fel syniad gwych i fi, mae Shooting People braidd yn hen ffash efo'i drafodaeth ar ffurf neges e-bost ac mae'n hynod Lundain-sentrig. Ma cael fforwm fel hyn yn llawer gwell syniad. Sa'n neis cael un yn Gymraeg yn bysa, er, faint o ddefnydd fasa ohono dwn im...