Posts

Showing posts from January, 2004
Comics ag ati Moebius Gwefan ffan am Jean "Moebius" Giraud. Ma dylunio y boi yn anghygoel. Diolch i Nic am bwyntio fo allan, oesoedd yn ol ( cofnod Ebrill 2003 ).
Ffilm: Vid Legally Blonde (2001) Ymdrech i geisio gweld beth yw enghraifft dda o'r math yma o ffilm ar gyfer fy ngwaith...o'n i ddim yn impressed. Pwy sy isio gweldgenod bach cyfoethog yn enill y dydd - dim fi. Saethwch hi.
Ffilm: Sinema Ichiban utsukushii natsu (2001) / Firefly Dreams cyf: John Williams Ffilm Siapaneaidd gan Sais yw hon sy'n son am ymdrechion rebel o hogan ifanc i ddygymod a'r oll sydd o'i chwmpas. Wrth iw rhieni wahanu mae hi'n mynd i fyw i gefn gwlad at ei theulu a dod i nabod ei nain, sydd yn devycach iddi nag oedd hi'n disgwyl. Miwsig gwael wythdegaidd synthaidd, melodrama a phlot aniddorol, shotiau diangen yn lingero o goed...a mynyddoedd...a choed...a dwr, dim llawer o gymeriadau diddorol, dim ymestyn nac eglurhad ar rai o brif elfennau'r sdori. Rhai o'r pethau sy'n bod efo hon. Roedd actio'r brif ferch ynddi yn weddol dda, ond ddim hanner digon da i achub y ffilm. Peidiwch boddran.
Ffilm: Sinema Fem bensp?nd, De (2003) / The Five Obstructions Cyf: Lars von Trier/Jorg Leth Os da chi isio ffilm i'ch hysbrydoli chi i fynd allan a gneud ffilmiau, cerwch i weld hon. Mae hi'n dissectio a thynnu gwneud ffilmiau yn ddarnau a'i roi nol at ei gilydd o flaen eich llygaid. Mae'r ffilm yn dilyn sialens Trier i Leth i ailwneud ffilm fer a wnaeth Leth yn y chwedegau o'r enw 'The Perfect Human' 5 gwaith hefo sawl 'obstruction' yn ei ffordd. Mae'r gystadleuaeth o'r sadist (Trier) yn erbyn y masocist (Leth), yn un hynod ddiddorol, A mae'r ffilmiau sy'n cael eu creu o fewn y ffilm yn hynaws. Mae gweld beth mae Trier yn ceisio ei dynnu o'i fentor yn dangos y parch sydd rhwng y ddau, a genius y ddau hefyd erbyn y diwedd. Ffilm ar ei orau, hudol.
Falch o weld fod eliffantod yn licio sesh hefyd. Edrach fel bo nhw di gneud mwy o carnage na Mad Friday yn Dolgellau. Sgwn i sut ma eliffant wedi ei electrocutio'n edrych? Lluniau o ddiwylliant Mysore yn India. Mae'r un Ganesh yn hyfryd.
News. UKATP/04 Weekend 2. The Director iei! Tocynnau wedi eu prynu, fffwr a ni am benwythnos o wallgofrwydd yn Pontins Camber Sands. Iym.
Sugarcubes O ma Bjollocks yn wych. jest isio deud...nai gyd...aaah
Y Rhegiadur Cymraeg Wel, o'r diwedd ma'r wefan www.rhegiadur.com ar y we ag yn rhoi at eu gilydd holl regfeydd Cymru. Ma'n neis cael y thing di gorffan (er mai 'henfoi' nath y gwaith rhaglennu i gyd bron iawn), a chael gwel rhai o'r clasuron sydd wedi dod yn barod. Hwre i wastraffu amser yn gneud petha dibwynt! Pa well de bobol?!
Ffilm: DVD Ratcatcher (1999) Ffilm sy'n rhoi prortread tywyll o Govan yn Glasgow, ond hefyd un gyda hiwmor a wastad y teimlad o realiti. Mae perfformaid yr hogyn ifanc, James ynddo, yn ddi-fai a'r cinemtograffi gan Alwin Kuchner yn syfrdanol o dda yn dangos prydferthwch mewn lle mor ddifaith. Dwi dal heb weld Morvern Callar ond ma hwn yn dweud wrthai am ei wylio fory nesa. Hyfryd iawn.
Miwsig: Band Newydd Sherbet Antlers Band newydd yn gynfuniad o Llwybr Llaethog a Mark a Paul gynt o Catatonia a'r Cyrff. Swnio'n ddiddorol, ma nhw'n chwarae yng Nglwb Ifor 12 Chwef. Fyddai lawr 'na garantid.
Ffilm: VHS gan ffrind Ghost World (2000) Cyf: Terry Zwigoff Ffilm ddoniol iawn ond trist iawn. Bittersweet di'r gair ynte. Thora Birch yn gorjys chwara teg iddi. Gwefan offisial y ffilm - sy'n neis iawn. Chydig o'r comic gwreiddiol Ghost World Gwefan am waith comics eraill Dan Clowes - David Boring yn swnio ddim yn boring o gwbl!
Pythonbethau 1948show.mpg (video/mpeg Gwrthrych) Clip o'r 1948 show. Iei!0 Ma'r wefan Graham Chapman Archives yn wych hefyd.
Ffilm: Sdwff Brazil Production Design Sketches Cynlluniau ar gyfer un o'r ffilmiau efo;r setiau gorau erioed, os nad popeth gorau erioed. Biwti.
Llamff - Llanberis Mountain Film Festival - Film / Lecture Details Rhywbeth i gyfuno dau beth dwi'n caru. Fasa'n braf mynd fyny 'na.
Llyfrau: Crancod Ceinewydd! Tintin yn rebelio! Guardian Unlimited Books | News | Forgers send Tintin to sleazy bars of Bangkok
Ffilm: Teli My Beautiful Laundrette (1985) Cyf: Stephen Frears Gwych iawn rhaid dweud.
Ffilm: DVD Pacte des loups, Le (2001) / Brotherhood Of The Wolf Cyf: Christophe Gans Cachu mot..yrr...cachu blaidd. Wedi clywed llawer o son amdano gan fy ffrindiau ond gesh i fy siomi ar ei weld. Plot heb ddim byd gwahanol ynddo, actio rybish (oedd y dybio ddim yn helpu), blaidd gwirion. Gesh i'r un teimlad ar ol gwylio Joan Of Arc - fersiwn Luc Besson. Well i'r Ffrancwyr sdicio i sdwff mwy cerebral na action dwi'n meddwl. Ra.
Ffilm: Sinema American Splendor (2003) Ma na lot gormod o ffilmiau i'w gweld ar y foment, lot o indies y ndod trwodd. Ma hwn yn un dwi bod yn edrych mlaen i;w weld ers Cannes blwyddyn dwetha. A nath o ddim fy siomi. Mae'r plot yn dilyn bywyd Harvey Pekar, clerc ffeilio, cymeriad cartwn, sgwennwr comics, a boi blin. Blin ond hawddgar. Mae'r ffilm wedi ei gosod mewn ffordd od iawn yn torri rhwng y ffilm ffuglen, cyfweliadau a Pekar go iawn, cyfweliadau a rhai o;r cymeriadau eraill yn y ffilm, animeiddio o'r comic amdan Pekar - sydd oll yn dod at ei gilydd i greu ffilm fach hudol iawn wnaeth fy nghyffwrdd a gneud i fi chwerthin llond y mol. Geek love! Aaaah. Sbeshal commendation i James Urbaniak am ei bortread o Robert Crumb ac i Toby Radloff am fod yn Toby Radloff ! Iei! Ffilm gret i gychwyn y flwyddyn. O.N. Mae gan Harvey Pekar Blog ar ei wefan (er fod o wedi sdopio sgwennu yn Hydref...)
Y Japs, Ma nhw'n wallgo! Ond hyfryd hefyd, checiwch allan y cyfieithiadau yma sydd ar bopeth o fagiau siopa i sebon yn Siapan: Welcome to Engrish.com! Rhai o fy ffefrynnau: Wing Today I Touched A Tiny Nature Cheerful Hamster Curry Bread Message
Ffilm: DVD Citizen Kane (1941) (Cyf (a sgwennwr, cynhyrchydd, prif actor (!!!)) : Orson Welles Wel dwi di bod ffwrdd am y dolig fel sylwch chi does na ddim action wedi bod ar y blog ers hydoedd, ond, dwi nol rwan a gobeithio fydd pwy bynnag selogion sydd yna yn darllen y rwtsh ma'n parhau. Dwi di bod isio gweld hon ers mor hir rwan ac o'r diwadd drwy'r hyfryd Movitrak dwi di chael hi, ag...raid i fi ddeud...mod i wedi ei mwynhau hi ond dim hanner cymaint ag y mae'r critics holl-wybodus ma'n feddwl. Dwi'n gwybod pam rywsut hefyd, mae hi'n ffilm mor dynn, mor grefftus, eich bod chi ddim yn sylwi ar ei gwychder tan ail wyliad. Mae pob shot wedi ei wneud yn berffaith o ran goleuo, mise en scene, actio. A ma'r plot yn neidio nol a mlaen mor rhwydd nes i chi beidio sylwi. Mae'n anghredadwy fod Welles wedi llwyddo i gael cymaint o artistic license efo'r ffilm yma, ac yn hyd yn oed fwy anghredadwy ei fod yn ffilm gyntaf iddo! Sa fo byth yn