Posts

Rwdls Yn Symud Ty! O hyn ymlaen fydda i ddim yn parhau i flogio fan hyn gyda 'rhen Blogger, ond byddai'n parhau i rwdlan yn defnyddio Wordpress (diolch i mr Slebog ) ar fy ngwefan newydd: http://www.nwdls.net . Mi roedd hi'n amsar cael sbrin clin go-iawn a symud mewn i digs neisiach. Cofiwch newid eich dolenni i'r blog os oes ganddoch chi rai, a hefyd plis newidiwch y ddolen ar eich cyfrifon bloglines ayyb fel bo chi'n parhau i dderbyn diweddariadau. Felly, dyna ni, tata Blog*Spot, a helo Nwdls.net !
Ffwl Ebrill? Ddim yn siwr am hon... Phobile
Nid ffwl Ebrill mo rhain... Necrophilia among ducks ruffles research feathers Randy rock doves join party with the dead ac un am lwc... Farting fish fingered Argol, beth sy'n digwydd i'r byd ma 'dwch?
Chwarae teg, neshi joio hon! icWales - The real Doctor Who is a Welshman
Image
Pwy Sgen Ffon-Gamera newydd? La-la-la la la...Dym di dym...Fi! Camera 1.3 MegaPixel (gyda chlawr lens ac aperture priority - pwysig 'chwel), chwaraeydd Mp3's, fideo, radio FM - ffacin'el dwi'n edrych mlaen i ddefnyddio fo. Mae 'na bleser mawr iawn o gael gajets newydd yndoes, ne jest fi dio? Wele yr holl spec ffantastwych ar gyfer y Sony Ericsson S700i fan hyn . Ma'r holl beth o agor y bocs a darllen y cyfarwyddiadau yn fanwl fel bo fi'n gwybod sut ma pob darn yn gweithio ru'n gymaint o hwyl a'i ddefnyddio 'fyd. Argol dwi'n foi trist. Trist ond oblifiys, canys rwyf llon fy myd. Aaa. Dyma ambell lun o'r teclyn tlws:
Cadeirydd Crav Wel y jiw jiw, Steffan Cravos fydd Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith wedi i Huw Lewis orffen ei derm. Dwi'n siwr y bydd ganddo ddigon o egni i roi wmff go dda i'r Gymdeithas. Pob hwyl arni!
25 mlynedd o luniau teulu Mae'r teulu Goldberg yn Buenos Aires, Ariannin wedi tynnu llun o'u hunain yn unigol bob Mehefin y 17eg, bob blwyddyn ers 1976 ac mae'r canlyniadau yn hynod ddifyr i edrych arnyn nhw .