Ffilm: Sinema
Ichiban utsukushii natsu (2001) / Firefly Dreams cyf: John Williams

Ffilm Siapaneaidd gan Sais yw hon sy'n son am ymdrechion rebel o hogan ifanc i ddygymod a'r oll sydd o'i chwmpas. Wrth iw rhieni wahanu mae hi'n mynd i fyw i gefn gwlad at ei theulu a dod i nabod ei nain, sydd yn devycach iddi nag oedd hi'n disgwyl.

Miwsig gwael wythdegaidd synthaidd, melodrama a phlot aniddorol, shotiau diangen yn lingero o goed...a mynyddoedd...a choed...a dwr, dim llawer o gymeriadau diddorol, dim ymestyn nac eglurhad ar rai o brif elfennau'r sdori. Rhai o'r pethau sy'n bod efo hon. Roedd actio'r brif ferch ynddi yn weddol dda, ond ddim hanner digon da i achub y ffilm. Peidiwch boddran.

Comments

Popular posts from this blog