Posts

Showing posts from October, 2004
Portreadu Bywyd yn America Life in America -- Captured memories of everyday life Llwythi o luniau gwych o'r UDA. Faswn i'n gallu pori ar rhain am oriau, fel hen fuwch lesg!
Problemau cyfieithu sdwff technegol llywodraethol? Wrth gwrs ma pob siaradwr Cymraeg sy'n gweithio mewn swydd weinyddol yn gorfod bod a'r gallu i gyfieithu y dyddiau yma er fod cyfieithwyr yn cymryd blynyddoedd o hyfforddaint (fel arfer!)...felly drychwch ddim pellach na - TermCymru - cronfa derminoleg a'i chynhelir a'i cedwir gan adran gyfieithu y Cynulliad.
Peel yn Marw John Peel dies aged 65 Sioc fawr a thrist iawn clywad y newyddion. Pwy arall sydd am chwara bopeth o happy hardcore i sdwff Cymraeg ar y radio a bod mor agored i gerddoriaeth newydd. Efo popeth ma di gneud ar gyfer cerddoriaeth tanddaearol, mae'n teimlo fel na all unrhyw un gymryd ei le. Cradur druan.
Dau Flog o Gaerdydd Dirty Dio Bach's Web Fun - Trapped In The Belly Of This Horrible Machine - A Cardiff Blog By David Lloyd - Lot o luniau neis o Gaerdydd. Neith Mr Castle joio hon. Badly Dubbed Boy - Mae'n edrych fel ei ffod yn gwweithio i'r bib gan y buodd o ym mharti penblwydd Pobol y Cwm wythnos dwetha.
Uwd! Rydwyf gaeth i'r stwnsh ceirch beunydd foreuol. Dim llwgu am 11 rhagor, dim teimlo'n oer yn bora. Jest tanwydd ar gyfer y dydd. Rhagorol. In Praise of Porridge - The Times
Welaist ti ffasiwn gontiaid? london cunt fashion Ang-ffycing-hygoel. Ydwi wedi mynd mor hen a chwerw a hynny, mod i'n gorfod dilorni rheiny sydd ar flaen y gad gyda ffasiwn? Na - mae'n nhw'n llond lle o bobol sydd angan sylw, a sydd mond yn llwyddo i roi cyfle gwych i bobol wneud hwyl am eu pennau. Da iawn chi!
Dwi'n Caru Ffilm Newydd seinio fyny i wasanaeth DVD drwy'r post LOVEFiLM , ar ol i mi ffeindio cynnig gwych drwy fy aelodaeth o Shooting People oedd yn gadael i fi gael treial am ddim am 6 wythnos a wedyn cael £1 oddi ar y gost fisol o hynny 'mlaen. Bargian! Gobeithio fydd eu gwasanaeth nhw'n well na Movietrack, oedd yn waeth na chachu mochyn mewn tepot. Mae na dri DVD ar y ffordd: The Castle of Dr Caglisotro - un o ffilmiau cynnar (1980) yr anfarwol Hayao Myiazaki, creawdwr Spirited Away Rebecca - gan Hitch - dwi dal yn ceisio gweld ei holl ffilmiau a Sunset Boulevard - clasur arall dwi'n edrych mlaen amdani Penwsnos braf o ffilmiau felly...aaaa, nefoedd....
Hen Erthygl Guardian am Nofelau Graffeg ar y We Working the web: Graphic novels Rwbath i ddarllan drwyddo wedyn...pan gai gyfla
Ongl Newydd ar Watchmen Newydd ddarllen y llyfr/comic hwn am y tro cynta ac ro'n i wrth fy ffecin bodd efo fo. Un o'r petha gorau i fi ddarllen ers oes pys ac ylwch, ma'n geek credentials i'n mynd fyny 100%! Beth bynnag, tra'n chwilio am yr annotations ar y we ddes i ar draws y gystadleuaeth yma ar Something Awful i wneud comic strips doniol wedi ei seilio ar Watchmen , gyda chanlyniadau nath neud i fi chwerthin dros y lle a gneud swn fel asyn efo chilli ar ei gwd.
Croeso i Cool Cymru *cringe* The Guardian | Welcome to Cool Cymru Erthygl od a deud y gwir sy'n swnio fel tipyn o "so what" i Gymro, ond mae'n debyg ei fod yn dod a llawer o bethau i sylw darllenwyr yn Lloegr fuasai a dim clem am y Welsh Not, Tryweryn a Cymuned.
Cwrw! Heno! Hwre! Great Welsh Beer and Cider Festival 2004 Edrych mlaen yn arw am fymryn o'r Hen Darw (Du...och) Yr arlwy... Y man lle'r yfwn yn llon...
Crwydro a Mwydro Wel mae Gary wedi bod yn creu (rhywun arall sy'n deud fod diffyg maes-e wedi gneud iddyn nhw neud pethau eraill...) ac felly dyma eni Mwydro.com . Does dim ar y dudalen flaen eto ond mae fatha portal i bob peth mae'n ymddiddori ynddo: teithio (heb ei orffen eto), pel-droed (blog prysur sefydledig), a mwydro ar y we (blog newydd iddo roi sdwff sydd ddim yn bel-droed). Allai ddim deud mod i'n darllen ei blog-droed, gan mai nad dyna yw'n thing, ond fyddai'n cadw golwg ar blog mwydro 'de, gan fod hwnna'n amlwg yn thing dwi'n thing amdano.
O Lannau'r Fenai daw... blogMenai Un o'r notorious Larseniaid o'r maes sy'n gyfrifol yn ol y son.
Cartref Cynlluniau Cartrefi Hunllefus Omodern Lle mae Bandiau Swedeg gyda synnwyr ffasiwn gwael a gwallt gwaelach yn cwrdd a ffasiynau addurno mewnol mwya echrydus Ewrop y 70'au. [ Rhybudd iechyd! Cyfuniadau lliwiau peryglus: gwsigwch sbectol haul i edrych ar bob tudalen ]
Ychwanegflog arall i'r rhithfro blog heb enw Da chi'n gweld, mae na bethau da'n dod o gau maes-e. Mae'n edrych fel bob pobol yn dilyn cyngor yr hen raglen plant yna a mynd allan a gwneud rhywbeth llai diflas yn lle (oce, di'r maes ddim yn ddiflas ond da chi'n dallt be dwi'n feddwl.) Felly dyma blog heb enw, cofnod o lyfrau a ffilmiau gan y blogiwr heb enw ag i gychwyn mae'n trafod y llyfr Fear and Loathing In Las Vegas gan Hunter S. Thompson. Gwd thing achan.
Cynaladwyedd Canolfannau Galwadau? Newyddion BBC: 300 o swyddi i Gaerdydd (mewn canolfan alwadau newydd...) Dwi'm yn meddwl, jeez, be di'r pwynt buddsoddi mewn rhagor o fusnes sy'n gadael ei staff efo dim sgiliau cyfnewidiol wedi i'r behemoth di-werth godi pac ymhen 2-3 mlynedd i fynd i'r lle nesaf lle mae pobol yn despret am waith ac yn fodlon gweithio am geinioga mewn swydd sy'n chwalu unrhyw hunan-werth sydd ganddyn nhw. Gwnewch rhywbeth defnyddiol efo'r arian, buddsoddwch mewn busnesau bach Cymreig. "Rhoi gwasanaeth arbennig i'r cwsmeriaid ydi'r nod ac rydym yn credu fod pobol Caerdydd yn gyfathrebwyr heb eu hail." Glywsoch chi'r fath bolycs yn eich dydd erioed? Mwy fel: "Gwneud cachlwyth o arian ydi'r nod ac rydym yn credu fod pobol Caerdydd yn fwy parod na phobol ardaloed eraill Prydain i dderbyn cyflog gwarthus o isel i'n galluogi ni i wneud hyn." [diolch i flog What's wrong with Wal