Ongl Newydd ar Watchmen

Newydd ddarllen y llyfr/comic hwn am y tro cynta ac ro'n i wrth fy ffecin bodd efo fo. Un o'r petha gorau i fi ddarllen ers oes pys ac ylwch, ma'n geek credentials i'n mynd fyny 100%!

Beth bynnag, tra'n chwilio am yr annotations ar y we ddes i ar draws y gystadleuaeth yma ar Something Awful i wneud comic strips doniol wedi ei seilio ar Watchmen, gyda chanlyniadau nath neud i fi chwerthin dros y lle a gneud swn fel asyn efo chilli ar ei gwd.

Comments

Nic said…
Mae Alan Moore yn gwybod y sgor.

Popular posts from this blog