Deg Ucha Ffilmiau 2004 (yn fy marn pitw i wrth gwrs...)

1. The Return (Andrei Zvyagintsev)
2. Eternal Sunshine Of The Spotless Mind (Michel Gondry)
3. Switchblade Romance (Alexandre Aja)
4. Shaun Of The Dead (Edgar Wright)
5. My Summer Of Love (Pawel Pawlikowski)
6. Hellboy (Guillermo Del Toro)
7. Zatoichi (Takeshi Kitano)
8. Dead Man's Shoes (Shane Meadows)
9. American Splendor (Shari Springer Bergman a Robert Pulcini)
10. Oldboy (Park Chan-Wook)

Gweler deg ucha Pictiwrs fan hyn (er fod cryn rwgnach amdano gan fod sawl aelod heb gyfrannu!)

Comments

Nic said…
Cytunaf ar y ddau ucha, ond dim ond hanner o'r rhain dw i wedi eu gweld, sy'n esbonio pam na wnes i gyfrannu at "10 Ucha Pictiwrs". Dim ond yr wythnos 'ma dw i wedi gweld The Return yn y sinema, ac mae honna ar gael ar DVD erbyn hyn.

Dw i'n gweld eisiau Caerdydd.



/edrych ma's o'r ffenstr

Nadw, ddim yn wir, sori.
Anonymous said…
Paid bod yn sili Nic.

Dwi'm yn cael deffro i weld glaswellt, gwlith y bore a llenwi llond y'n 'sgyfaint gyda aer pur oer.

Dim ond gwynebu brwydr dafydd a goleiath gyda'r ceir a'r bysus ar Newport Road, anadlu llond sgyfaint o carbon monocseid a chaell llond ffroen o arogl hopys afiach y bragdy wrth droi am stryd Bute. Neis.

Sdim cymhariaeth, ond yma rhosai am y tro beth bynnag...
cridlyn said…
Dyna'r tro ola' wy'n neud unrhyw beth i unrhyw un. Wir nawr.
Nwdls said…
Aa, paid bod yn flin Geraint! O leia nes ti rwbath, yn lle gadael i'r hen bictiwrs fynd yn adfail - ac ame 'di cael pawb ii ymgymryd mewn dadl.

Llwyddiant faswn i'n ddeud!

Popular posts from this blog