Posts

Showing posts from July, 2003
Swingin' Hepcats Yn ystod parti haf gwaith nos wenar ble roedd lot o fiwsig Big Band 30'au yn cael ei chwarae, fe benderfynnodd Spanner a AJ a minnau ddechrau gwersi dawnsio Swing. Felly ar ol deffro bore Sadwrn dal yn gynhyrfus am y peth dwi di bod yn defnyddio amser prin gwaith i ffendio llefydd i ddysgu'r dawnsio bywiog yma yng Nghaerdydd. Ma Jivemagic yn cynnal nosweithia bob yn hyn a hyn a wedyn drwy linc darganfod fod Jackie a Mark (pobol eitha sceri!!) yn rhoi gwersi bob wythnos ond yn Modern jive a LeRoc a Ceroc - be ffwcsyn medda chi di rheina?? Dawns foder nsy'n amalgam o Jitterbug a Jive . Ond ar ol cryn syrffio, ffendish i allan mai Swing a Lindy Hop ydy'r dawnsio dwisio neud, y stwff classy na sy ar ddiwedd y ffilm Swingers . Betrh bynnag i bwy bynnag sydd heb ddisgyn i gysgu erbyn hyn dyma'r gwahaniaeth rhwng Jive a Swing . Ma na bobol o Bryste yn ei ddysgu , a ma'n nhw'n deud bo nhw'n dod i Gaerdydd ond dwn i ddim. Dwi di g
Nice Tits Mmmm, Tits...
Back of the net! Mae Clwb Pel Droed Bethel wedi ennill gwefan bel droed orau'r mis rhyngwladol am fis Mehefin! Gan guro Barcelona a Lerpwl ayyb ar eu ffordd. Gwychder o'r radd wychaf. Dyma'r gampwaith a ddefodir i CPD Bethel . A rhaid deud...mae o'n dda iawn!
Rial Kerdiff Wedi dod ar draws wefan Peter Finch sydd wedi sgwennu llyfr am y 'Real Cardiff', ma na rannau o'r llyfr wedi eu argraffu ar y wefan yma sy'n dod a thipyn o hanes Caerdydd yn fyw i rheiny ohona ni sy di mudo i'r cwr aml-ddiwylliannol hwn o Gymru a sy angen dysgu chydig am lle da ni'n byw, a gwerthfawrogi y ddinas ma sy'n prysur droi yn ddinas blastig a choncrit gwyn heb owns o ysbryd iddi. Nai ddim rantio eto am ddiffyg gweledigaeth pensaerniol Caerdydd...OND ma'n warth. Un peth sy'n codi nghalon i ydi'r sin fach sy'n cychwyn ar Clifton Street rwan efo amball i gaffi fel Journeys yn dod a cherddoriaeth i Sblotwyr. Ges i ebost yn gwaith fyd yn son am glwb newydd o'r enw the "Hawardian Club" sy di aghor dros y ffor' i gaffi Eidaleg-Gymraeg La Gondola. Tecno a house yn ol be ma'r flyer yn deud, fydd raid i fi fynd i;r nesa i weld be sy'n digwydd de.
Sesiwn Fawr FAWR arall yn y glaw! Dyna ni, Sesiwn Fawr Dolgellau arall ar ben a gyd sgen i ydy llond rol o luniau(pwy awyr be ydyn nhw!), ambell i atgof a phen fel rwdan bydredig. Roedd o chydig yn ddistawach nag arfer gyda llawer bradwr wedi gleuo hi at y Saeson yn Wakestock yn Aber-sock . Eichcollad chi oedd hi, nath Anweledig lwyddo i godi pawb i fan heulog yn y glaw gyda'r band yn hynod sobor am chenj (o'n i'n clywad fod Ceri dan ordors gan y band i ymwrthodi a dangosodd hynny yn eu set, er fod dryms Al yn disgyn i ddaran!). Go dda hogia! Ffacin gret! Oedd hi'n bleser gweld Geraint Jarman am y tro cynta fyd, mae ganddo fo gymaint o glasuron a fynta'n dal i gadw ei cool efo shades punt nawdegnaw! A choron ar eu set oedd Tich Gwilym yn gneud Hen Wald Fy Nhadau - Hendrix-style. Mi droth hi'n barti wedyn yn Y Bryn a llymeitian efo criw o straglars tan y bore man yn cynnwys cyd-flogiwr arall - Corach y canolbarth . Oedd Dydd Sul yn draffath ond lw
Amryw betha doniol Ddoth rhain trwydda fi gan ffrind o Lundain, nath o gymryd rywfaint o'r boen o fod nol yn gwaith heddiw yn fy swyddfa yn y nenfwd glos sydd gen i. Chwysu fel lleuan mewn noson Chippendales. 132 o ebyst a phob galwad ffon yn neud i fi wingo wrth ei atab. Fydd hi'n well fory...nath o ddim rili help[u mod i wedi bod yn yfad trwy'r pnawn a fyny tan 1 bora ma..ahem! Dyma nhw ta: Catalog o holl ddeunyddiau ACME - handi! Jedi Master Ffati - ddylswn i ddim, chwerthin...ond HAAAAAAAA HAAAAAA!!! Hehehe! Teimlo'n euog rwan..damia. FFATI!!! hehe Jap Matrix Ping Pong - y groau o'r lot! anghygoel y spesh eF-eX allwch chi neud efo grwp o mets a chefndir du. Joiwch conts!
Sbaen III Wel dwi nol ag yn saff ar ol rhedag...wel, ista ar yr ochr yn edrach ar bobol erill yn rhedeg efo'r teirw gwyllt . Dyma luniau o'r encierro welis i.Oedd o bach yn ail i'r parti drwy'r nos gafon ni yno a deud y gwir. Llwyth o Calimocho (gwin coch a Coke) a Cuba Libres (Rym a Coke) a dawnsio i ffync a bandiau pres sporadic (dawnsio efo band ETA mewn camgymeriad ar un adeg moment MOMG y fiesta) efo pawb di gwisgo mewn gwyn hefo 'neckerchief' goch. Gafodd pawb ffwc o ffrae am 10yb tra'n aros am y bws yn union fel mae nhw'n gneud yn llyfr Hemingway am y Fiesta ( The Sun Also Rises ) spooky - llyfr i godi gwrychyn rhywun braidd efo'r 'rich set yn yr ugeiniau. Genod yn crio, hogia'n pwdu, pawb yn hyngofyr a blin a blinedig. Ond roedd hi'n noson wirioneddol wych a rhaid cael y pwyntia isel er mwyn gwerthfawrogi'r rhai uchel. Roedd gan Hemingway un disgrifiad gwych o'r fiest - "A beautiful nightmare". Deud y c
Sbaen II Felly fyddai'm yma am wsnos a hannar gan fo gen i wbath lot LOT gwell i'w wneud fath yfad, bolaheulo, yfad, a disgyn mewn i wrych pigog gymaint a gallai. Os dwi yn postio wbath da chi (bobol, bwy bynnag da chi sy'n darllan y rwtsh ma) yn gwybod mod i wedi torri nghoes a dwi ar gyfrifadur mewn sbyty am fy mod i'n bord hollol. Hwyl chi gyd,, joiwch eich jobs diflas!!! Yeeeee Haaaaaa!
Sbaen Mynd i Barcelona hyfryd diwrnod r'ol fory i weld pensaerniaeth wych Gaudi ar ol blynyddoedd o drwlio dros raglenni dogfen ar y teli ac edmygu gwaith ysbrydoledig yr athrylith modern hwn. Gweler y Casa Mila a'r Casa Battlo , mae'r boi yn gneud gwaith sydd yn angyliadd yn dduwiol uo hardd. Dyna oedd ei amcan oedd creu pensaerniaeth fuasai'n mynd a fo'n agos at Dduw. Boi crefyddol yn creu gwaith i geisio moli Duw. Diolch i dduw ei fod o wedi. Deud gwir bob dinas dwi yn mynd iddo, yr eglwysi a'r adeiladau sanctaidd ydi'r pethau sydd fwyaf anghygoel ar ol campweithiau byd natur. Ella fod gen Dduw rywbeth i'w ddeud ne fall mai cyfnod gwahanol oedd hi lle roedd pethau'n fwy "clean cut" am be i'w ddilyn a be i ddim. Er, doedd hi ddim yn hir wedi i Gaudi farw a mae ei waith o yn fy ngwneud i deimlo'n fyw iawn. Alla i ddim gwitsiad i'w teimlo, i'w amsugno i'w clodfori. Pam na chawn ni rywun yng Nghymru gyfoes sydd a gwe
Glastonburyyyyyyyy! O am amser. Oam amser gwyllt a gwirion a gwych. Ifis yn meddwl fod o'n wych, siwr fod y crystis ddim yn cytunoi Pum diwrnod o atgofion a nadgofion. Roedd hi'n danbiad ganfwyaf a'r seidr gellyg yn llifo fel mel meddwol lawr ein corn gyddfau sychedig. Dwi'm yn gwybod lle i gychwyn son am y ffasiwn bethy a deud y gwir. Ma na gymaint o rwtsh y gallwn i falu cachu amdano felly nai drio crynhoi o mewn i Four word Glastonbury rifiws... Inspiral Carpets: Organ Felodig, bois hen. Supergrass: Bownsi, roci, pnawn perffaith. Furries: Ietis blewog yn berffaith. Squarepusher: Brrrriiiiiooop[ppppppasfksn$$$$$%$^$£%^$& akakakakaka dawnsio, neidio, gwaeddi. Plaid: Gwir feistri cerddoriaeth electronig Rahzel: Basdad ddim troi fyny Death In Vegas: Sain cachu mot Seidar: Gwin gwyllt gellyg gwasgedig Bogs: Budreddi 'r bobol blastia'r nostrils MAnics: sinagalonga clasur; ond da Krust: Dryms yn drybio 'mennydd Stone Circle: 6:30am