Sbaen

Mynd i Barcelona hyfryd diwrnod r'ol fory i weld pensaerniaeth wych Gaudi ar ol blynyddoedd o drwlio dros raglenni dogfen ar y teli ac edmygu gwaith ysbrydoledig yr athrylith modern hwn. Gweler y Casa Mila a'r Casa Battlo, mae'r boi yn gneud gwaith sydd yn angyliadd yn dduwiol uo hardd. Dyna oedd ei amcan oedd creu pensaerniaeth fuasai'n mynd a fo'n agos at Dduw. Boi crefyddol yn creu gwaith i geisio moli Duw. Diolch i dduw ei fod o wedi. Deud gwir bob dinas dwi yn mynd iddo, yr eglwysi a'r adeiladau sanctaidd ydi'r pethau sydd fwyaf anghygoel ar ol campweithiau byd natur. Ella fod gen Dduw rywbeth i'w ddeud ne fall mai cyfnod gwahanol oedd hi lle roedd pethau'n fwy "clean cut" am be i'w ddilyn a be i ddim. Er, doedd hi ddim yn hir wedi i Gaudi farw a mae ei waith o yn fy ngwneud i deimlo'n fyw iawn. Alla i ddim gwitsiad i'w teimlo, i'w amsugno i'w clodfori. Pam na chawn ni rywun yng Nghymru gyfoes sydd a gweledigaeth i adeiladu allorau i greadigrwydd fel hyn a gneud dinas neu dre yng Nghymru yn fecca pensaerniol...howld on Defi John, ma gynnon ni Clough a Phortmeirion!

La Ramblas wedyn a digon o win a mwg a merched (croen melfed tywyll, gwallt cyrliog du) drwg i godi calon unhryw un sy'n dal i ddiodda blws post-Glasto. Hola, senorita, soy gales, tiene bonitas chiches!

Mynd mlaen wedyn Zaragoza, wedyn at y teirw (gweler postiad isod Mehefin 17) yn Pamplona a mlaen i'r traeth syrffio anghygoel yn San Sebastian yng Ngwlad y Basgwyr balistig. Bi garagardo mezedez! (dau gwrw plis barman ym Masgeg).

Comments

Popular posts from this blog