Posts

Showing posts from November, 2003
Ffilm Senses of Cinema - an online film journal Llwythi o erthyglau a thraethodau ar ffilm yn hwn. Lot gormod i ddarllen rwan am bo fi'n mynd allan am aduniad coleg.
Gwefan Newydd Gymraeg Unarddeg.com Gwefan ar gyfer adolygu gigs a cherddoriaeth yng Nghymru drwy'r Gymraeg, Sothach ar-lein megis fel petai (er, gobeithio ei bod am fod chydig gwell na hwnna). Sbneb wedi rhoi adolygiad yn y deuddydd dwetha ond gawn ni weld sut aiff o. Pob lwc iddyn nhw dduda i.
Teledu (DVD) "Riget" (1994) (mini) / The Kingdom Cyf: Lars Con Trier Newydd neud sesiwn 5 awr o hwn. Bron cystal a Twin Peaks.
Snowblood Apple - Adolygiadau a fforwm am Sinema Asiaidd "Extreme" Gwaith Hideo Nakata, Takashi Miike, Takeshi Kitano a llawer mwy...hwyl a sbri
Ffilm Repulsion (1965) Eto rhan o'r box set Polanski cynnar. Ffilm sy'n dangos dirywiad Carole Ledoux (Catherine Deneuve) i salwch meddyliol dinistriol mewn ffordd hollol weledol a thrawiadol. Mae'r fflat yn dechrau dod yn fyw tra ma hi'n colli ei hun gyda goblygiadau trasig.
Ffilm Nóz w wodzie (1962) Cyf: Knife In The Water Rhan o box set ffilmiau cynnar Polanski (hefyd Repulsion, Cul De Sac ag wyth ffilm fer) a'i ffilm hyd llawn gyntaf, oll wedi ei osod ar gwch hwylio. Mae'r llyn yn dawel a stormus fel y berthynas rhwng y gwr a'r wraig a'r hitcher enigmatig ma nhw wedi ei wahodd i ddod gyda nhw. Campwaith a ddechreuodd yrfa wych. Ma Polanski fyny na efo'r goreuon, Kubrick a Hitchcock.
Ffilm Ringu (1998) Dal yr un mor ddychrynllyd a'r tro cynta i mi ei weld o. Yrrrr! Er mod i'n gwybod be oedd am ddigwydd nath y nghalon i stopio a nghorff i rewi. Hideo Nakata, hideous Nakata.
Ffilmiau Tales from the Crapper (2002) (V) Cyf: India Allen / Lloyd Kaufman Fel mae'r teitl yn awgrymu - peil o gachu - ond peil o gachu doniol ar adegau. Ffilm o stabal Troma (wel pit seilej Troma) a'r ddiweddara yn repertoire Lloyd Kaufman, sydd wedi bod yn "creu ffilmiau anibynnol ers 30 mlynedd". Roedd hwn yn rhan o Wyl Sgrin Caerdydd a bu Q & A efo'r dyn ei hun wedi'r ffilm. Mae'r boi yn hynod ddeallus ag yn cyfeirio atgyfarwyddwyr sinema anibynnol fel John Cassavetes ag ati fel tasan nhw'n ffrindia gora. Doniol ei fod yn genud y ffilmiau mwya ffiaidd a llawn brestia silicon ynde. Roedd hi'n gret cwrdd a fo a fasa wedi bod yn neis cael llun ond nesh i agnhofio fy nghamera. C'est la vie ynde wassss.
Ffilmiau Dreamers, The (2003) Cyf: Bernardo Bertolucci Mae Bertolucci yn adnabyddus am ei ffilmiau pryfocllyd a dyw hwen ddim gwahanol. Mae'n dilyn perthynas hogyn Americanaidd a brawd a chwaer (llosgachaidd!) bourgois ym Mharis 68 tra roedd y streics a'r protestiadau yn mynd mlaen. Mae'n nhw'n trafod ffilm yn ddi-bendraw ac mae'n gret i buff efo llawer o rhyng-dorri rhnwg ffilmiau Truffaut a Godard ac ati. Mae'n mynd chydig yn decadent ar gyfer fy nhast i ddo efo'r triawd yn cloi eu hunain yn fflat rhieni cyfoethog y plant Ffrengig yn quaffio gwin drud a ffwcio eu gilydd tra bod y gwrthryfel yn digwydd yn y stryd tu allan. Mae nhw'n geg i gyd ond gneud dim byd...ella pwyntio rwbath allan i genhedlaeth newydd ma Bernardo'n trio gneud?
Ffilmiau Wondrous Oblivion (2003) Cyf: Paul Morrisson Ffilm bach ddigon del am hogyn Iddewig sy'n boncyrs am griced yn cael gwersi am griced a bywyd gan ei gymdogion Jamaican newydd er mawr ddirmyg gweddill y stryd. Wrth gwrs mae'r ddau deulu'n goroesi yr hiliaeth a chael gem fawr o griced efo Gary Sobners yn y diwadd, sori am y spoiler.(!) Mind candy, ond fatha pinapple cubes, blasus.
Ffilmiau Returner (2002) / Ritanaa Cyf: Takashi Yamazaki Meddyliwch am gymysgedd o Terminator/Matrix/Back To The Future/Close Encounters/Appleseed/Metal Gear Solid a bron pob ffilm Yakuza o'r nawdegau a gewch chi hon. Mi gysgis i am tua chwartar ohoni, ond nes i fwynhau y bits o'n i'n effro amdanynt...jest. Ma na lawar gwell ffilm Siapanaeg i wario'ch bucks arni...fel Zatoichi sy'n dod allan flwyddyn nesa....Waaahooo
Ffilmiau Katakuri-ke no kôfuku (2001) / The Happiness Of The Katakuris Cyf: Miike Takashi Oce.... Musical/Horror/Slasher/Melodrama/Comedi efo chydig o Zombies a Animeiddio clai wedi ei dafly mewn. Deall? Na fi, baffld llwyr. Eitha doniol ar adega ond ddim hyd at safon arferol Miike.
Ffilmiau Ringu 2 (1999) Cyf: Hideo Nakata Hollol conffiwsing os da chi heb weld y gynta neu, fel fi, heb weld y gynta ers hir. Dal yn class ddo dan oruchwyliaeth Nakata. Sadaaaaako! *ias oer*
Ffacin hel, dwi'n starfio! Ffacin Fakir heb fwyta am sawl degawd a dal i fynd! Rarrrrgoledig. Allai ddim mynd am fora heb fwyta, mmm, Gorge With George
Be Sgen y Cymry a'r Tsieiniaid yn gyffredin? - Barddoniaeth... Hmmm....
Llenyddiaeth: Robin Llywelyn dwr mawr llwyd Dyma gasgliad o straeon byr Robin Llywelyn a sgwennodd yr arbennig "Seren Wen Ar Gefndir Gwyn".
Blog Gwyl Sgrin Caerdydd- Noson Agoriadol Danny Deckchair (2003) Felly, mae cychwyn yr wyl wedi dod, a finna di gorfod mynd i dre yn y gwynt a'r glaw amsar cinio ddoe i brynu crys newydd ar gyfar dilieitio'r leidis ar y carpad coch! I gychwyn be am y ffilm? Wel, formulaic rom com oedd o a dim byd newydd, ond fel'na ma nhw fod siwr gen i. Oedd o'n reit ddoniol i gychwyn gyda Danny (Rhys Ifans) ond mi aeth y ffilm mor ara deg erbyn y drydedd act fel bod unrhyw adega doniol yn cael eu mygu gan y pace. Oedd y portread o Aussies yn eitha teg yn fy marn i er fod na neb yn rhegi unwaith(!) ag acen Rhys Ifans yn doj ar adega. Roedd yr actio'n dda efo Rhys Ifans yn well na Once Upon A Time In The Midlands a Mirando Otto yn gneud y gora o sgript go arferol. Deu gwir oedd hi'n ffilm saff i agor yr wyl, ma na le i betha mwy challenging yn ystod yr wythnos. Mi fasa'n neis cael ffilm Gymraeg newydd, whahanol i agor yr wyl ond na fo sgennon ni ddim digon
Adolygiad Ffilm Pedwar Gair The four word film review Dwi dal yn rhif 40 a dwi heb neud un ers yr ha. Woo hoo!
Gem Fach Lyfli Samorost Diolch i Mansh am hwn. Mae o mor wreiddiol a braf i edrych arno a chwara, dwisio chwara gem hirach o hon. Peidiwch digalonni os da chi'n sdyc, sdiciwch iddi. Tip: "Put that in yer pipe and smoke it!"
Sbecs Peledr Ecs Bydd angen i bawb wisgo trons a nics plwm o hyn ymlaen, mae gwyddonwyr America yn datblygu peiriant i stripio dillad oddi ar bobol a dangos y llun yn 3D . Mae hyn oll yn ymadwaith i 9/11 ag ymgais i dynhau seciwriti yn y maesydd awyr. Ma nhw'n deud y gna'n nhw ychwanegu "modesty filter"(!) efo virtual figleaf ddo, chwara teg. Meddyliwch job fasa honno, proffesional pyrf.
Rwdls Cwningaidd: aaaaah naa neeeeeis Yuebing yr Oolong newydd. Dim crempogau ar ei ben eto ddo.
Ffilm:...eto...sori...animeiddio Cymraeg tro ma welcome to griffilms Dwi'n methu rhoi lind uniongyrchol i'r ffilm ei hun am bod y wefan yn Flash (gyda llaw oes rhywun yn gwybod sut i neud hyn efo ffenstri Flash?) ond cerwch i ffilm, a streamio "Yr Eira", ma'n un o'n hoff fywddarluniau byr a mae o gan gwmni Cymraeg gret o Gaernarfon. Mae'r fersiwn 56k braidd yn sbwylio fo ond os oes gennych fand eang ma'n werth ei weld.
Ffilm: Cymru Rêl Institiwt - Real Institute Dangosiadau o ffilmiau amgen 'di hwn fyny yn Betws dwi'n meddwl. Chwara teg ma, nhw'n cael ffilmia rili diddorol yna, llawer gwell na'r lol mae'n nhw'n dangos yn Harlech ne Port. Ddim bod gen y sinemau yna lawer o ddewis, ma'n nhw'n gorfod trio tynnu'r pyntars mewn, ond mae hwn yn llenwi niche bach yn y Gog o ddangos ffilmiau sy'n challenging , damia be di hynna'n Gymraeg? Linc bach arall, newydd fod i weld gwaith celf Bedwyr Williams, sef un o drefnwyr Rel Institiwt, fel rhan o arddangosfa "Apropos Of Nothing" yng ngaleri G39 lawr ar Mill Lane. Da iawn raid deud, ma ganddo fo wit a thafod finiog yn ei waith (ydi gwaith yn gallu cael tafod finiog? Ydi rwan). Roedd y gair "Schadenfreude" yn rhan o'r gwaith ond do'n i ddim yn gwbod be oedd o'n feddwl. Dwi yn rwan: "Pleasure derived from the misfortunes of others" ...dydi'r gwaith dal
metacritic: Film Casgliad o lwythi o adolygiadau ffilm (er fod y rhan dwyaf o'r UDA) a hafaliad o'u marciau nhw i gyd.
Botwm Glas sy'n gneud swn. Æ’gÆ’Å Æ’rÆ’A‚ÃŒ?ò Æ’Å Æ’AÆ’‹‚Ö‚¥?`Æ’{Æ’^Æ’“----–l‚ÌŒ©‚½’??˜?B
Ffilm: Gwneud un! Ma'r hyfryd a ffraeth Suw yn cyd-gynhyrchu ffilm fer efo boi o'r enw Vince a ma nhw'n mynd i blogio'r holl beth fan hyn . Ddylsa fod yn ddiddorol iawn cael cofnod fel hyn o'r broses. Pob lwc Suw!!!! Gweithia fel bajar bach prysur iawn a dwi'n siwr newch chi rwbath da. Ydw i'n mwydro gormod am ffilm? Ydw i'n boooooooooooooooooooooooooooooorio pawb (hy!) sy'n darllan y blog...comments plis. Dyna'i gyd sydd ar fy meddwl ar y foment raid deud. Hynny a lladd y cont nath ddwyn y meic i.
Ffilm: sdwfffff Noson Ffilmiau Byr BAFTA Fuesh i i'r noson yma heno...i siarad...yn gyhoeddus am gynlluniau ffilmiau byr... Whoa, o'n i ddim yn disgwyl cymainbt o bobol yno ma'n raid i fi ddeud. Duwcs, noson infformal efo ambell i wneuthurwr ffilm newydd sy isio gwybodaeth. Oedd na dros gant o bobol yna. Waaaaaaaaaaaaaaaaaaah! Gynta gwylio'r ffilms, oedd na ddwy dda, oedd "Down" gan Anthony Smith yn wych yn arbennig gan feddwl fod yr actorion ifanc oll rioed wedi gneud hyn o'r blaen. Roedd y ffilm yn stylish yn broffesiynol ac yn ddarn genre ffantastig. A hynny oll ar ddim llawer o bres. Gwych gweld pobol yn gneud petha fel'na. Sinema go iawn. Beth bynnagh, ddoth y ffilms mlaen, a'r siaradwr cynta. Fe gafodd o'i heclo gan ryw ddynas! Wel, os o'n i'n glyma i gyd cyn hynny o'n i'n ffwcd wedyn, yr ail siaradwr mlaen a siarad yn ddigon taclus ond hithau'n cael cwestiynau annodd. A dyna ni, mlaen a fi. O'n
Road to Perdition (2002) Road to Spar to get my tw ffifti back more like. Cach llwyr, a chach sy'n sefyll ar dir doji iawn. Mae'r ffaith fod cymeriad Hanks yn gallu lladd pawb mor ddi ffwdan a wedyn dangos ochor emosiynol tuag at ei fab yn troi arnai braidd. Ma lladd mewn horror's yn ddderbyniol gen i am ei fod wedi fframio felly, ond ma hwn wedi ei fframio fel ffilm am dda a drwg a ma'r boi 'da' yn ddi-drugaredd yn be ma'n neud. Does dim dyfnder ysbrydol i'r ffilm a ma na rannau o'r plot sy'n synnu fi eu bod nhw mor ddi-feddwl o ddi-logic (felly ma'r pobol ma ar ochor y ffordd yn cymryd nhw mewn am wythnosa efo Hanks yn gwaedu a'r cops ar ei ol, neu nehs i fethu rwbath?). Jude Law yn eitha da fatha rhyw greadur spindli, ma'n edrych weithia fel bo ganddo fwy nag un braich. Creepy go iawn (gyda llaw, lle mae o arni rwan?). Oscar material? Pah. Ddylsa nhw'm cael lle fel ecstra pobol y cwm efo perfformaidau fel'na.
Funeral, The (1996) Eitha da, dim byd gwych ddo. Walken = r'un peth a'i type arferol, fel cerflun rhew, ond un efo amball sdic o TNT wedi pacio tu mewn. Chris Penn yn hynod sceri fel arfar. Ma'r boi na'n gallu gwylltio! Diddorol gweld Vincent Gallo mewn ffilm arall ar ol ei antics Brown Bunny, sydd, yn cael adolygiadau da rwan idd o fo gael ei dorri chydig. Dwi dal yn meddwl taw gweld hwnna mewn sinema yn Cannes oedd y profiad sinema i fi ei gael erioed. Hannar yn sinema'n bwio a cherdded allan a'r hannar arall yn calpio a twt twtio. A hyn oll efo'r cyfarwyddwr a'r Chloe Sevigny yn gwylio! Gwychder.
Thing, The (1982) Mae'r effects yn eitha da rwan hyd yn oed, ella bod o'n wir be ddudodd John Caprenter mai am fod nhw ddim yn CGI eu bod nhw'n gweithio. Ma pob dim yn animatronics ynddo sy'n dipyn o beth. Kurt Russell yn actio am chenj, a pawb yn marw ar y diwadd. Gret. Un peth nath groesi fy meddwl oedd y cheest bursters ma eto, nath rywun ddeud ar ryw raglen y diwrnod o'r blaen ei fod i gyd yn deillio o ofn dynion o fod yn feichiog...rhaid deud nad ydi'r darnau yna'n dychryn fi, ma'n nhw'n gneud i fi chwerthin. Ydi hyn yn golygu mod i ddim yn ofn bod yn feichiog? *gulp*
Coesa Disgo South Wales Mountaineering Club UK Climbing.com Wedi ailgychwyn ar y dringo neithiwr, ffycin brilliant. Aeth fi a J fyny i Ganolfan Ddringo Ryngwladol Cymru yn Nhreharis. Ma'n un math o ymarfer corfff dwi'n ei fwynhau, mae'n blino chi ac yn sialens ond gallwqh chi neud o ar eich pace chi eich hun. Trio rhai annodd, neu jest fwynhau dringo un haws. Dwi'n mynd nol i orffan ail hannar y cwrs dechreuol nos Wenar wedyn gai neud o fy hun. Gobeithio wedyn gallai ymuno a'r cwb dringo lawr ma a mynd am benwythnosa a chael allan o Gaerdydd bob yn hyn a hyn. Ma meddwl am fynd fyny efo nhw i'r goledd a theimlo fatha twrist monbg yn gneud fi deimlo braidd yn anghysurus ond na ni, raid i rywun addysgu nhw does!
Gwe-grwydro: Hyfrydol Od 60X1.COM: Freedom Is Not Free When Freedom Fries Are Not Free! Sa rywun isio deud wrtha fi be sy mynd mlaen? Hm?
Beirf Gallery of Contestants and Champions O! Am farf fel Willi Chevalier (cyf: coc fel stalwyn)
Ffilm: Horror: Mario Bava Mario Bava Web Page Dwi heb weld r'un o ffilms y boi yma ond ma'n swnio fel ei fod wedi dylanwadu ar lwythi o gyfarwyddwyr o Burton i Tarantino a mwy.
Chillllll Newydd gael penwythnos o neud dim byd. Dim yfed (llawar), dim symud (llawar), dim atab ffon o gwbwl, dim ffonio neb, jest ymlacio adra yn Nolgellau. Cael pleser mewn petha bach. Stiw cig oen slow cooked cartra, cacs bach di ri, Cymru'n codi dychryn mwya diawledig ar Aotearoa a chwarae'r gem yn brydferth, dim llawar o yfed am chenj, siarad efo teulu, gorffan llyfr, gwylio ffilm ne ddau (yn cynnwys Dymbo efo mrawd bach!), mynd i gysgu'n glud efo glaw yn curo fel mwrthwl gof ar y skylight, cysgu ar y soffa efo tan glo yn rhuo o mlaen i, darllan papurau newydd a cael cyfla i ddal fyny efo'r byd. Jest y job. Aaaaaaah.... Gwaith fory, prysur iawn, pwy sy'n boddyrd? Dim fi, dim tan bora fory eniwe.