Ffilm: Cymru
Rêl Institiwt - Real Institute

Dangosiadau o ffilmiau amgen 'di hwn fyny yn Betws dwi'n meddwl. Chwara teg ma, nhw'n cael ffilmia rili diddorol yna, llawer gwell na'r lol mae'n nhw'n dangos yn Harlech ne Port. Ddim bod gen y sinemau yna lawer o ddewis, ma'n nhw'n gorfod trio tynnu'r pyntars mewn, ond mae hwn yn llenwi niche bach yn y Gog o ddangos ffilmiau sy'n challenging, damia be di hynna'n Gymraeg?

Linc bach arall, newydd fod i weld gwaith celf Bedwyr Williams, sef un o drefnwyr Rel Institiwt, fel rhan o arddangosfa "Apropos Of Nothing" yng ngaleri G39 lawr ar Mill Lane. Da iawn raid deud, ma ganddo fo wit a thafod finiog yn ei waith (ydi gwaith yn gallu cael tafod finiog? Ydi rwan).

Roedd y gair "Schadenfreude" yn rhan o'r gwaith ond do'n i ddim yn gwbod be oedd o'n feddwl. Dwi yn rwan:

"Pleasure derived from the misfortunes of others"

...dydi'r gwaith dal ddim yn gneud sens.

Comments

Popular posts from this blog