Posts

Showing posts from March, 2005
Image
Pwy Sgen Ffon-Gamera newydd? La-la-la la la...Dym di dym...Fi! Camera 1.3 MegaPixel (gyda chlawr lens ac aperture priority - pwysig 'chwel), chwaraeydd Mp3's, fideo, radio FM - ffacin'el dwi'n edrych mlaen i ddefnyddio fo. Mae 'na bleser mawr iawn o gael gajets newydd yndoes, ne jest fi dio? Wele yr holl spec ffantastwych ar gyfer y Sony Ericsson S700i fan hyn . Ma'r holl beth o agor y bocs a darllen y cyfarwyddiadau yn fanwl fel bo fi'n gwybod sut ma pob darn yn gweithio ru'n gymaint o hwyl a'i ddefnyddio 'fyd. Argol dwi'n foi trist. Trist ond oblifiys, canys rwyf llon fy myd. Aaa. Dyma ambell lun o'r teclyn tlws:
Cadeirydd Crav Wel y jiw jiw, Steffan Cravos fydd Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith wedi i Huw Lewis orffen ei derm. Dwi'n siwr y bydd ganddo ddigon o egni i roi wmff go dda i'r Gymdeithas. Pob hwyl arni!
25 mlynedd o luniau teulu Mae'r teulu Goldberg yn Buenos Aires, Ariannin wedi tynnu llun o'u hunain yn unigol bob Mehefin y 17eg, bob blwyddyn ers 1976 ac mae'r canlyniadau yn hynod ddifyr i edrych arnyn nhw .
Tiwns am ddim chafi's... ...ar wefan newydd Complete Control Music .
Wps... Heb flogio ers blydi oesoedd, wedi bod yn brysur iawn efo sdwff eraill megis gwaith, trio trefnu pictiwrs, dosbarthiada sgriptio (plys gwaith cartra sgriptio. GWAITH CARTRA myn uffar' i!!), paratoi ar gyfer cynhyrchu ffilm fer - sdori ysbryd fydd yn brofiad gwych gobeithio, gwersi dreifio, (reciwpyretio wedi i mi gael tolc ar fy mhen...ond dduda i ddim mwy am hynny), gemau rygbi - meddwi - dathlu, gwylio dim ffilmiau yn y sinema (bwww), gwylio ffilmiau hir adra (bww i rheina 'fyd er eu bod nhw'n dda - ma rwbath dros ddwy awr a hannar siriysli angen toriad ne dddwy) ac wel, bod yn llai o fwnci gwe nag y bum dros y flwyddyn dwetha. Ta waeth, dwi heb fod yn mynd ar y we rhyw lawar blaw am jecio maes-e - sydd wedi mynd chydig yn ddiflas rhaid cyfadda. Ma'n debyg taw cyfuniad o weld pethau'n ail-adrodd, postiadau anniddorol yn codi braidd yn amal (a phan ma na rai diddorol does dim parhad iddyn nhw), a dim wmff i bostio fy hun ydi'r matar. Sdim pwynt cwyno os
Fforwm Wastraff Caerdydd Tra'n edrych am bobol i gychwyn cylch Freecycle yng Nghaerdydd fe ddes i ar draws Cardiff Waste Forum sy'n rhoi map (aneglur) o ble mae'r holl wasanaethau ail-gylchu yn y ddinas ynghyd a, wel, ddim lot arall a deud y gwir. Fasech chi'n meddwl fase gen 'fforwm' rywfaint o drafod a chyngor ar ail-gylchu yn gyffredinol ond does dim llawer o hynny yno... O ia, a drwy gyfieithu'r teitl uchod dwi di llwyddo i gyfieithu mwy na sydd yn yr holl wefan...
Rhad-ac-am-ddim-gylchu Diolch i Rhys Wynne am bwyntio fi at wefan Freecycle . Gwefan lle gallwch gael gwared ar bethau nad oes eu hangen arnoch mwyach mewn ffordd wyrdd yn hytrach nau rhoi yn y bin i fynd lawr y tip a chael set o golff clybs, cloc larwm snoopy neu VHS's crap yn llygru'r ddaear am y dwn im faint o flynyddoedd nesa. Y rhesymeg ydi fod wastad defnydd i bob math o sdwff, ac fod jync un person yn hollol dderbyniol gan bobol eraill. Dim ond tri grwp sydd yng Nghymru ar y foment, ac yn sicr mae angen un yng Nghaerdydd gyda'r holl sgipiau llawn dwi'n weld o gwmpas Sblot - heb son am y telis, gwlau a dodrefn sy'n ymboblogi'r sdrydoedd. Mai fel bod yn MFI ar Sanquahar Street weithia!
Gair Y Dydd bibacious (by-BAY-shuhs) adjective Overly fond of drinking. [From Latin bibere (to drink).] "Seriously though folks, there are certain caveats that I have learned from standing before both overly sober and overly bibacious audiences." Ed Harvey; Media musings; Advertising/Communications Times (Philadelphia, Pennsylvania); Nov 2001. "Banfield's bibacious drongo was not so much flushed as drunk, having gorged itself on the nectar of a native melaleuca or paperbark tree." Mark Chipperfield; Drunken Drongos And Suntanned Soap Stars; The Daily Telegraph (London, UK): Mar 27, 2004. Dwi wedi bod yn derbyn gair y dydd drwy ebost gan Wordmsith ers tua dwy flynedd rwan ac mae rhai o'r geiriau jest yn ffantastic. Bob wythnos mae'n nhw'n dod ar thema gwahanol, ac wel, mae jest yn braf dysgu o leia un peth bach newydd y dydd fel'na. Nesh i joio bibacious heddiw. Dwi'n mynd i fod yn
Blog Hyfryd Un newydd i chi... Byd Hyfryd
Moblogio Caerdydd yn 50-rwbath O dystiolaeth y lluniau , mae'n edrych fel bod y gwr hwn a'i gameraffon yn gweithio yn y cynulliad. Mae'n hoffi coffi, ceir a hard rock cafe!
Dydd Gwyl Dewi Hapus? Not blydi leicli. Ddylwn i fod yn gorfeddian yn gwely yn pendwmpian, gan godi mewn rhyw awr neu ddwy gyda brecwast o sosejus Gorno a chig moch mygedig o fwtsiar Heol Clifton wedi'w ddilyn gan ddwy gac fach ffres. Dylwn i fod yn gneud hyn achos dylen ni gael diwrnod o wyliau heddiw (sori am y ddolen Saesneg, methu ffeindio un Cymraeg...tsk)... *harumph* Dwi'n gorod mynd i gwaith yn lle i ddelio efo cachbeth baclog wythnos o ebyst lle roedd yr "out of office reply" yn bownsio nol a mlaen efo rhyw "out of office" arall gan fy moddi mewn ebyst diwerth. Caca pw. (Ond , joiwch os ma gynnoch chi ddiwrnod o wylia de!)
Rhagor o regi... 37 rheg newydd wedi'u hychwanegu i'r Rhegiadur Cymraeg ... Ffefrynnau: Cachannogwyr Gwynab Cachu Chipins Cachu Llonti Chwarae yn yr adlen eitha licio " dos i chwalu peipan gachu dy daid " 'fyd...