Wps...

Heb flogio ers blydi oesoedd, wedi bod yn brysur iawn efo sdwff eraill megis gwaith, trio trefnu pictiwrs, dosbarthiada sgriptio (plys gwaith cartra sgriptio. GWAITH CARTRA myn uffar' i!!), paratoi ar gyfer cynhyrchu ffilm fer - sdori ysbryd fydd yn brofiad gwych gobeithio, gwersi dreifio, (reciwpyretio wedi i mi gael tolc ar fy mhen...ond dduda i ddim mwy am hynny), gemau rygbi - meddwi - dathlu, gwylio dim ffilmiau yn y sinema (bwww), gwylio ffilmiau hir adra (bww i rheina 'fyd er eu bod nhw'n dda - ma rwbath dros ddwy awr a hannar siriysli angen toriad ne dddwy) ac wel, bod yn llai o fwnci gwe nag y bum dros y flwyddyn dwetha.

Ta waeth, dwi heb fod yn mynd ar y we rhyw lawar blaw am jecio maes-e - sydd wedi mynd chydig yn ddiflas rhaid cyfadda. Ma'n debyg taw cyfuniad o weld pethau'n ail-adrodd, postiadau anniddorol yn codi braidd yn amal (a phan ma na rai diddorol does dim parhad iddyn nhw), a dim wmff i bostio fy hun ydi'r matar. Sdim pwynt cwyno os nad wyt ti'n cyfrannu chwaith, dwi'n gwybod, rhaid cael cyfrannwyr aml i greu cymuned fyw ddifyr. Ond rhaid cael cyfrannwyr sydd a rwbath difyr i'w ddeud, a debyg nad oes gen i ar y foment, ac dwi jest yn laru braidd. Ella fod o fel pan ti'n symud mewn efo ffrind coleg, a dod i arfar efo byw efo person newydd: cael y sgyrsia mawr i gyd, meddwi'n gach, dathlu bob math o rwtsh, ffraeo, cwffio, contio pobol drws nesa mewn undod, wedyn ar ol chydig da chi'n troi mewn i ddarn arall o'r dodrafn a ddim yn deud bw na be ond cael cystadleuaeth "Countdown" i weld pwy sy'n gorod golchi llestri nesa...

Ta waeth, dyna di'r hanas

Nos da

Comments

Popular posts from this blog