Rwdls Yn Symud Ty! O hyn ymlaen fydda i ddim yn parhau i flogio fan hyn gyda 'rhen Blogger, ond byddai'n parhau i rwdlan yn defnyddio Wordpress (diolch i mr Slebog ) ar fy ngwefan newydd: http://www.nwdls.net . Mi roedd hi'n amsar cael sbrin clin go-iawn a symud mewn i digs neisiach. Cofiwch newid eich dolenni i'r blog os oes ganddoch chi rai, a hefyd plis newidiwch y ddolen ar eich cyfrifon bloglines ayyb fel bo chi'n parhau i dderbyn diweddariadau. Felly, dyna ni, tata Blog*Spot, a helo Nwdls.net !
Popular posts from this blog
Bandiau All Tomorrow's Parties
Dydd 1
Wolf Eyes - pwy gychwynna fel hyn, a wel, deifio mewn i wal o sain distorted arbrofol y band gwych yma
Lightning Bolt - a mlaen i uchafbwynt y penwythnos, rocio fel na rocasant erioed
LFO - synnau gwych electronic dipyn o ganeuon cyfarwydd
Peaches - siomedig. Oedd y sioe yn ol reit i gychwyn wedyn nesh i ddiflasu chydig arni
Shellac - oedd lawr staer, nesh i'm rili talu sylw...pwy a wyr, yn y pyb yn malu cachu
Dydd 2
Destroy All Monsters - hen fois o 'Merica yn chwara rhyw jazz-rock ffiwsion reit neis. Am ryw reswm roedd y canwr yn sbio ar ei watsh drwy'r holl sioe. Od.
Bird Blobs - band o Melbourne, wnaeth gryn argraff arnai ar y pryd. Angan llwytho albym gan y rhain
The Liars - ddim rili'n talu sylw o hynny welis i
Miss Kittin - o'n i'n dechra joio ei ffwnc electro ond ges i nragio lawr staer i weld...
A Silver Mount Zion - oedd yn rhyw fand 7-darn gwerin arbrofol. Siawns fach i g...
Comments