Posts

Showing posts from August, 2004
Gwefan Tidy ar Wenglish Talk Tidy. The language of South Wales as an art form. Geiriadur geiriau Wenglish De-Cymru (a fforwm i'w trafod!). Tidy like innit but.
Fflashtastig tokyoplastic v.2 Jest un o'r gwefannau mwya anghygoel i fi eu gweld o ran animeiddio Flash (gan greawdwyr y Japanase Drum Girls). Pleser i grwydro o'i amgylch.
Pwsflog Blog Cymraeg newydd Blemaergath . Enw da, yr awdur yn Llundain, perspectif arall ar bethau drwy'r Gymraeg - iei! Mae hefyd yn ddysgwr gyda crap go dda ar yr iaith rhaid deud. Dwi'n gwbod fod na berig i'r blog droi mewn i rwbath diflas iawn (mwy hyd yn oed nag ydi o rwan - sgersli bilif) drwy flogio rhain ond mae'n reit ecseiting gweld rhein yn dod trwodd fesul un. Dwi'n drist? Berig...
Mallder Mordicai Dwi heb flogio hwn eto, ond dwi wir yn credu dylwn i hybu blog Mordicai cymiant ag y gallai. Nofel-flog ydi hwn o safbwynt unigryw Arglwydd y Tywyllwch - Mordicai! Ewch iddo ac ymgrymwch wrth ei draed, cyn iddo dorri'ch penna ffwr' a thynnu eich calon allan a'i grafangau. Mae'r darllen yn wych ac mae digon o ddos o ddychan a digrifwch yno i gadw'e peth i fynd - ac mae'n sgwennu BOB dydd! Digon o amser yng Ngwlad Y Drwg welwch chi...(damia fyddai 'di pechu rwan...)
Mae'n bwrw blogs *bang* haleliwia... Blog Ymgyrchu gan Rhodri arall.
Blogio Ffilm pullquote gan Cinetrix
Biim Mi Yp Sgotyn! Mae'n edrych fel bod nhw wedi gwneud y teleportation cyntaf yn Awstria. Mae nhw wedi newud stad photons dros 600medr. Dwi'n edrych mlaen at weld y dydd lle gallaf deleportio fy hun i gwely ar ol fi ddisgyn i gysgu ar y soffa ar ol sesh...ond ella na ddaw y dydd .
Band Newydd Cymreig Mae fy ffrind, Ross, mewn band newydd o'r enw: The Jan Watkins Band . Ma nhw'n swnio chydig yn debyg i Gomez ond reit dynn rhaid deud - mp3 fan hyn a fan hyn Ma nhw'n chwara Barfly ar y 18fed Medi - ewch draw!
Bwyta'n a Phrynu'n Foesol Top ffeif cwmniau sy'n cymryd y pys yn: Boycott the bastards Rhestr o Shopper's Guides Moesol: Just Shopper's Guide - chydig yn hen ond dal yn reit berthnasol Dwi'n ffendio hi'n annodd gneud hyn yn iawn gan nad oes gen i amser i wneud fy siopa bwyd yn ystod y dydd, ond mae bob tamed bach yn cyfri dydi.
Blogosffêr...parhad Wel ffyc-a-dwdl-d^w - mae 'na flog barddoniaeth arall yn y ty. Bydd hi'n cael ei diweddaru ddwywaith yr wythnos yn ôl ei sôn - ar ddydd Sul a chanol wythnos. Ac mae Cilmeri yno. Diolch Krusty.
Blogiau Cymraeg a Chymreig o LiveJournal I ddechrau mae na un gan Loo Loo o'r maes, hwre!: lol_lwlw Rhai Cymunedol Cymreig Wales Cymuned Dysgu Cymraeg (gyda 102 aelod !) Caerdydd Swansea Life Addicts Llambed cymrugothic Blogiau Cymraeg o LiveJournal archfalhwyl Cymro1980 (un cofnod yn unig, edrych fel ei fod oherwydd diffyg trafod yn Gymraeg ar LiveJournal) Blog Cymraeg Marnanel pilipala (un arall gychwynnodd ond wnaeth ddim parhau...) Ac yn fwyaf od mae na flog o'r enw Amddiffynfa sydd yn gyfangwbl mewn Rwsieg! W, a sbiwch pwy arall sy'n stelcian yna 'fyd!
Mai'n Madarchu Blogia Hogia! Nodyn bach i hysbysu am fodolaeth blog arall newydd sbon, brin deirdydd oed: Sibrydion Snaks . Cynnwys trafodaeth ar farddonaieth a Chymreictod hyd yn hyn. Un arall i gadw llygad arno.
Mapio Blogs Tra'n darllen blog Kamikaze Cymru ddes i ar draws blog oedd yn rhan o London Bloggers , sef map ar ffurf map y tiwb, o blogiwrs Llundain. Fasa hi ddim yn gret cael un o rhain i flogiwrs Cymru? Yn Saeneg ac yn Gymraeg? Mae'r Rhithfro yn gret ar gyfer blogiau Cymraeg ond be am flogiau Cymreig hefyd?
Blogosffer Cymraeg Ma na ryw rwgnach ar maes-e fod blogiwrs Cymraeg mond yn blogio am eu gilydd , wel dyma brofi a gwrthbrofi pwynt y person dan sylw: Mae blog Chris Castle - Bratiaithflog - wedi cael ail-wampiad (a chywiro treiglad!) ac nawr yn canolbwyntio ar luniau o gamera digidol Chris. Neis iawn ydyn nhw hefyd. Mae na blog pel droed gan Gary. Dwi'n siwr ei fod o'n ddifyr i bobl sy'n lecio ffwtbol. Blog newydd englyn y dydd gan Nic (dwi'n meddwl). Lliwiau hyfryd gan y blog ma'n rhaid deud. Pleserus iawn i'r pipars. Ac efalla'n fwya cyffrous: - blog "Gwleidydd" gan Y Pyndit. Blog bach sy'n edrych fel ei fod am frathu sodla a chodi crachan neu ddwy. Hehe! Hen bryd. a - blog Siocled a Fodca yn Gymraeg ar ffurf recordiadau sain gan Suw. Awdioblog. Waw, y posibliadau... Ac un arall bach difyr i ychwanegu - moblog o Sblot gan Gary (arall) Mae hi wedi prysuro rhywfaint yn y rhithfro ar unwaith, dowch a
Cronfa: Archif Dolgellau Ar-lein Dyma gasgliad o ddogfennau a ffotograffau o archif Dolgellau wedi eu digideiddio yn cynnwys: - lluniau o'r heddlu ar droad y ganrif - cneifio ym 1913 - Gwersyll yr Urdd Glanllyn yn y 50'au - Cwrs golff Dolgellau ym 1922 (gwisgoedd a golygfeydd gwych!) - Sgotwrs y Bermo oddetu 1900 - Syrcas Byffalo Bill yn Nolgellau(!) 19eg ganrif hwyr Sdwff gwych yn wir, dwi wrth y modd yn darganfod yr hen luniau ma a da o beth eu bod yn cael eu digideiddio 'fyd. Mae angen cael mynediad i'r petha ma. (o wefan casgliadau digidol Cymryd Rhan )
Bwcmarc: blog ffilm o Efrog Newydd Cinecultist Crazy For Movies
Red Alert (ella gall Kerry ennill yr etholiad)! Sdori gan y BBC fod yr UD wedi codi lefel yr security i uchel , ac mai nid jest "chatter" sydd gan yr intelijyns ond manylder. Dim byd i neud a'r ffaith fod John Kerry wedi cychwyn ei ymgais (yn weddol hyderus) i ddisodli Bush dwi'n siwr...