Blogosffer Cymraeg

Ma na ryw rwgnach ar maes-e fod blogiwrs Cymraeg mond yn blogio am eu gilydd, wel dyma brofi a gwrthbrofi pwynt y person dan sylw:

Mae blog Chris Castle - Bratiaithflog - wedi cael ail-wampiad (a chywiro treiglad!) ac nawr yn canolbwyntio ar luniau o gamera digidol Chris. Neis iawn ydyn nhw hefyd.

Mae na blog pel droed gan Gary. Dwi'n siwr ei fod o'n ddifyr i bobl sy'n lecio ffwtbol.

Blog newydd englyn y dydd gan Nic (dwi'n meddwl). Lliwiau hyfryd gan y blog ma'n rhaid deud. Pleserus iawn i'r pipars.

Ac efalla'n fwya cyffrous:

- blog "Gwleidydd" gan Y Pyndit. Blog bach sy'n edrych fel ei fod am frathu sodla a chodi crachan neu ddwy. Hehe! Hen bryd.

a

- blog Siocled a Fodca yn Gymraeg ar ffurf recordiadau sain gan Suw. Awdioblog. Waw, y posibliadau...

Ac un arall bach difyr i ychwanegu - moblog o Sblot gan Gary (arall)

Mae hi wedi prysuro rhywfaint yn y rhithfro ar unwaith, dowch a mwy i ni. Ymboblogwn! (hei dwi'n lecio hwnna!)

Comments

Nic said…
Ymboblogwn, wir! Adfer y rhithfro nawr!

Popular posts from this blog