Posts

Showing posts from February, 2005
Bwtleg Bill Bill Hicks Bootleg Archive [diolch i Di-Angen oddi ar y Maes]
Image
Ar dy feic - am ddim Newydd gyrraedd nol o wythnos ym Mhrag (oedd yn wych gyda llaw) ac yn cychwyn meddwl am ble a'i ar y beic flwyddyn hon (fel mae rhywun yn syth wedi gwylia braf...). Dwi'n meddwl taw'r llwybr Celtaidd o Sir Benfro i Gas-Gwent fydd hi gan nad ydw i wir yn nabod yr ardaoledd ar hyd y llwybr hon heblaw am Benrhyn Gwyr. Dwi dal heb wneud darn deheuol y Lon Las gan i fi fynd ar grwydr drwy Geredigion fis Medi dwetha yn hytrach na dilyn y rhif 8 coch yr holl ffordd. Mae'n debyg y gallen i wneud Aberhonddu i Gaerdydd mewn diwrnod gan ei fod yn mynd am i lawr yr holl ffordd a gellir dal Bws y Bannau yn gynnar o Gaerdydd i fynd a chi a'ch beic (ar dreilar bach) fyny yno i chi gael seiclo nol. Tra'r o'n i'n chwilio am wybodaeth ar hyn oll ddes i ar draws tudalen ar wefan Sustrans , sy'n gyfrifol am y rwydwaith seiclo cenedlaethol, sy'n rhestru'r holl fapiau o deithiau beicio Cymreig gallwch chi gael am ddim (17 ohonynt). Gyd s
Gwallt Gav Wa-hey! Moblog newydd Cymraeg... gwalltgav ...yn darlledu'n uniongyrchol o Estonia!
Pregeth Mis Chwefror Gwych. Gwych fel brych. Wele'r gofnod ddiwethaf: WNCWL DEWI'N CA'L TRI MIS O JAL
I Am Curious Oranj Ers pryd mae Cymuned wedi bod a changen Manhattan?! Traethawd ffotograffiau ar giatiau oren Central Park gan Rob Kutner. Darllenwch y penawdau...doniol. Edrych fel hwyl, ond pa mor wahanol ydi o i jest addurniad nadolig? [gan greg.org ]
Gyrru Pan o'n i'n 17 fe gychwynnes i yrru. Gesh i chwe gwers gan Cyril y crinc a dreifio'n ddyddiol bron i'r ffarm yn y Land Rofar yn ystod y tymor wyna. Ond, fe ges i annwyd, a gorfu i fi ganslo gwers. Big deal, ond y peth ydi dwi heb gario mlaen efo'r gwersi tan dydd Sul dwetha! 10 mlynedd yn ddiweddarach. A dwi'n blydi joio nhw - heddiw ma nes i hyd yn oed gael mynd lawr Albany Road, dros death junction a fyny Newport Road - dair gwaith! A unwaith yn unig wnes i stallio'r car. Dwi ddim wedi bod a diddordeb o gwbl mewn gyrru, ond mae wedi cyrraedd y pwynt lle na allai osgoi'r peth rhagor, er na fyddai'n gallu fforddio prynu car unwaith dwi wedi pasio. Dwi'n mwynhau trafnidiaeth cyhoeddus ac yn erbyn rhoi car arall ar ein ffyrdd pan nad oes angen ond mae'r angen ar gyfer gwaith a bywyd personol yn fy ngwthio i tuag at y modur. A dwi yn edrych mlaen i allu dianc Caerdydd i fynd i gerdded ar bnawniau Sadwrn a Sul ac i allu myn
Dychan yn y bore Chydig bach o ddychan i gychwyn bore dydd Gwener - aaah, dwi'n gallu arogli'r penwythnos rownd y gronal fel brechdan gig moch o gaffi "Gorge With George" Dwi'n arbennig o hoff o'r poster olaf - "The Muslim World: An Average American's view..." [diolch i twmffat am hwn]
Joc Be ti'n galw boi o Japan sy'n gwybod bob dim? . . . Idi Shido

sbecs

Image
sbecs , originally uploaded by nwdls . ...hogan yn ATP , Rhagyr '04

Donato Niro

Image
Donato Niro , originally uploaded by nwdls . Tra'n darllen y Friday Ads tua pum mis nol ddes i ar draws yr hysbyseb yma. O'n i'n meddwl fod o'n ffycin hileriys, felly dwi di penderfynu ei rannu. [Cliciwch ar y llun i'w chwyddo]
Pictiwrs Ar Y Radio Roedd 'na 8 munud (count 'em) o sdori ar raglen Hywel a Nia fore ddoe. Cliciwch fan hyn i'w glywed . Mae'r peth yn cychwyn 21 munud 40 eiliad fewn i'r rhaglen. Ddylia fo aros ar y peth "gwrando nol" tan ddydd Mercher nesa (9fed). Digon o gyfweliadau a phawb yn deud petha neis. Aaww.
Image
O Enau'r Siarc Marw Dwi heb grybwyll hyn eto ond penwythnos diwethaf cyhoeddwyd ffansin celf a diwylliant newydd o'r enw Siarc Marw . Geraint Criddle a Mair Thomas sy'n ei olygu a ddylia fod na gopi yn eich siop recordiau/siop Gymraeg leol rwan hyn. Fel arall gallwch chi archebu copi drwy ebostio siarcmarw@yahoo.co.uk . Mae na erthygla am bob dim o gerddoriaeth a gigs drwodd i deledu a ffilm (efo erthygl fach gennaf fi 'fyd. Iei!). Mynnwch gopi! (Llun o hogyn bach ar ddiwrnod ffair yn Nolgellau, Ebrill 1952 yw'r uchod gyda llaw, yn edrych lawr o ochr Spar heibio Sui Sen a lawr am y bont fawr. Lyfli tydi)
Ac wedi'r Pictiwrs... Wel, dwi ar ben fy nigon heddiw. Bu'r noson yn lwyddiant, gyda dros 60 o bobol yn dod drwy'r drws, ac wrth siarad ac amrywiol bobol rownd y lle roedd i'w weld fel fod pawb wedi mwynhau ac eisiau gwybod pryd mae'r un nesaf. Roedd yr awyrgylch yn dda a phawb yn siarad am y ffilmiau, a dyna sy'n bwysig a deud y gwir - rhoi rhywle i bobol weld a thrafod ffilmiau a gwneuthura ffilmiau Cymraeg eu iaith (a chael peintan ne' ddwy a joio yn y broses). Roedd Gary Slaymaker yn blydi gret fel compere ac yn asio'r holl noson at ei gilydd efo trosolwg o'r ffilmiau a sdori fach fan hyn, fan draw. Mi gafon ni gyflwynaid i'w ffilm gan Neil Wagstaff a nodyn bach slei gan un o wneuthurwyr "Grim" fod ffilm arall ganddyn nhw i'w dangos yn yr un nesaf. Dyma'r union beth roedden ni isio i ddigwydd, a gobeithio gawn ni fwy o syrpreisus fel'na yn y tri mis nesa'n arwain fyny at yr ail noson. Wedi cael cyfweliad