O Enau'r Siarc Marw



Dwi heb grybwyll hyn eto ond penwythnos diwethaf cyhoeddwyd ffansin celf a diwylliant newydd o'r enw Siarc Marw. Geraint Criddle a Mair Thomas sy'n ei olygu a ddylia fod na gopi yn eich siop recordiau/siop Gymraeg leol rwan hyn. Fel arall gallwch chi archebu copi drwy ebostio siarcmarw@yahoo.co.uk .

Mae na erthygla am bob dim o gerddoriaeth a gigs drwodd i deledu a ffilm (efo erthygl fach gennaf fi 'fyd. Iei!).

Mynnwch gopi!

(Llun o hogyn bach ar ddiwrnod ffair yn Nolgellau, Ebrill 1952 yw'r uchod gyda llaw, yn edrych lawr o ochr Spar heibio Sui Sen a lawr am y bont fawr. Lyfli tydi)

Comments

Popular posts from this blog