Posts

Showing posts from November, 2004
Nick your Jacques your Citroën? Mae fy chwaer annwyl newydd fy hysbysu fod yr hysbyseb Citroën a baldaruais amdano yn ddiweddar yn edrych yn llai a llai fel y genius roeddan ni'n meddwl oedd o. Am dwp ohonof. Credu na fuasai execs hysbysebu despret di-ysbrydoliaeth ac anfoesgar yn dwyn syniadau oddi ar fyfyrwyr ac artistiaid sydd probabli heb gael ceiniog am eu creadigaethau. Ellir cael y geiriau 'moesau' a 'hysbysebwyr' yn yr un brawddeg? Anhebygol. Ella fod awgrymiad Bill Hicks iddynt yn addas: "Suck a tailpipe. Hang yourself. Borrow a pistol from an NRA buddy. Rid the world of your evil fucking presence." Dyma ragflaenydd un a rhagflaenydd dau y trawsnewidwyr tor-ddawns. (Wedi deud hyn, er mawr gwilydd wedi fy rant uchod, dwi dal yn meddwl fod y fersiwn Les Rhythmes Digitales yn well!)
The Cremaster Cycle: Halen yn y briw Dwi dal yn ffcyin gyted nes i fethu hwn yn Chapter. Ma na wefan ffan iddo rwan, a dwi'n methu ymuno'n yr hwyl. Dwi jest yn gwybod faswn i wrth y modd hefo fo. A gai byth gyfla i'w weld o rwan, does na'm copi DVD am gael ei wneud a dim on tua 5 print sydd mewn bodolaeth a'r rheiny yn weithiau o gelf yn eu hunain yn ol bob son. Mae trailer i'w gael fan hyn (ar y chwith).
Dwi'n Caru Coed Aberneint (ac mae Twm Morys 'fyd...) Fues i adre'n Nolgellau dros y penwythnos gan fynd am dro bach fyny Pen-Y-Banc, rownd Rhyd Wen, lawr trwy goed pin Coed y Pandy, ymweld a rhaeadr Coed Aberneint wrth ochr yr afon Aran, heibio'r tanerdai adfeiliedig a nol lawr i dre heibio tai bach prydferth blith draphlith a phendramwnagl y Domen Fawr. Ac yn goron destlus ar y penwythnos bach hwyliog ac i dwymo'r galon yn bellach dwi newydd ddod ar draws cerdd fach hyfryd ar goedlan newydd Goed Aberneint a sgwennwyd gan Twm Morys a phlant Ysgol Y Gader . Fe'i sgwennwyd wedi i'r safle gael ei wneud yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn 2002, ac mae hi wir yn lecyn bach hudol. Fe wariais i wythnosau cyfan o mhlentyndod yn sgrialu o amgylch y coed ac i fyny a lawr yr afon, yn chwilio am antur cudd ac adeiladu dens. Dwi'n falch iawn fod rhywun, ac yn arbennig o falch fod un o'm hoff feirdd, wedi sgwennu mor serchog a hiwmorys am y lle. Di
Castell-Tywod ar draeth yn California Blog newydd Cymraeg arall - castell tywod - sydd wedi bod yn mynd ers mis Hydref ac sydd a, sioc horyr, mwy na thri cofnod!! Un bach da dio 'fyd, ac yn perthyn i'r un person sydd wedi sgwennu'r erthygl isod am flogiau Cymraeg. Diddorol iawn, yn wir, ar y raddfa hyn fydd na ragor o flogiau Cymraeg yn dod o America na fydd na o Gymru! Dwi ofn meddwl be ddiawl ma hynna'n deud amdanan ni...
Cyfieithwr Bach y Tân-Gadno Plyg-In Cyfieithu Firefox gan Chris Wood sydd i'w weld yn ymddiddori mewn datblygu meddalwedd dwy-ieithog.
Blogiau Cymraeg - rhan 1 Mae Sarah Stevenson wedi sgwennu erthygl ar Suite101.com o'r enw Welsh Blogs, Part I sy'n son am ffrwydrad blogio yn Gymraeg ac yn cyfeirio at ei ddefnyddioldeb yn arbennig ar gyfer dysgwyr (gan obeithio y bydd hyn yn gwella eto gyda sdwff cyfieithu y BBC) ac yn awgrymu y bydd dadansoddiad pellach i ddod yn 2005. Da gweld rhywun yn sgwennu'n Saesneg am y twf yma (er ei faint bach o'i gymharu a ieithoedd eraill), a'r platfform sydd yno i flogiwyr eraill gychwyn ac ychwanegu at hyn. (Gyda llaw newydd sylwi fod Rwdls Nwdls yn dod fyny yn nymbar wan yn gwgl pan ti'n gneud search ar blog Cymraeg! Argol!)
Catalanwyr Yn Cofnodi Diarhebion Cymreig Dal i ddod ar draws ambell berl ar y wefan Cymru Catalunya : DIARHEBION, TRIOEDD A GWIREBAU CYMRAEG (1873-1890) wedi eu casglu yn Llansanffráid ym Mechain gan T G Jones, Cyffin - mae na gannoedd yma yn nhrefn yr wyddor. Gyda sawl clasur fel: " Cocio ei fwnci ((His monkey up) In a passion. In a rage. {cocking his monkey (= horse collar)} Wacsi (Sappy.) Applied to giddy-brained persons. Wedi llyncu ffwlbart â'i din i fyny (Swallowed a fitchet (a foumart) with his tail up) Stinky or unpleasant breath" Hehe! Mae yna ragor o rai cyffelyb o ardal Merthyr yn y ddolen isod, ond heb esboniad yr un y tro hwn, mwya'r piti: Diarhebion Lleol. Ardal Merthyrtudful, 1895. Casgliad ‘Gwernyfed’ a gyhoeddwyd yn ‘Y Geninen’ yn 1884 a 1895.
Cloriannu Dyfodol S4C Mae'r BBC yn adrodd ddoe fod cyfarfod wedi bod ddydd Gwener i drafod dyfodol S4C a'r newidiadau yn sgil adroddiad Ofcom. Mae'n debygol y bydd yno dri opsiwn: 1. Cadw pethau fel y maen't 2. Gadael i'r BBC redeg S4C 3. Cynnig rhedeg y sianel allan i dendr i gwmniau a chonsortia preifat, gan roi cytundeb 10 mlwyddyn i'r 'cyhoeddwr' (PSP - Public Service Publisher). Yn ol yr adroddiad, mae Cadeirydd S4C i'w gweld yn ffafrio y drydedd opsiwn. Dwi ddim mor siwr, lle mae hynny'n gadael elfen Gwasanaeth Darlledu Cyhoeddus S4C? Sut all hyn gadw ei hygrededd wrth gael ei redeg gan gwmni preifat? Mae'n nhw'n gwmniau cyfalafol gyda'u bryd ar wneud arain, nid boddhau anghenion y cyhoedd Cymraeg eu hiaith. Dyw'r erthygl ddim yn son ychwaith am faint o arian fuasai ynghlwm wrth unrhyw un o'r tri opsiwn ond mae'n debygol taw toriadau a gawn ni. Mae'n wir fod angen newid, a shifft seismig
Dim Doctor yn y Ty Fod i fynd i weld Clinic yn chwarae heno, ond wedi cryn edrych mlaen nath y basdads ddim troi fyny - rhywun yn sal...diawliaid di-feddwl ynte. Felly, welson ni fand cachu rwtsh sydd ddim werth eu henwi ac wedyn syrpreid bach neis yn The Bravery , band o Efrog Newydd yn cyfuno bopeth o Human League, drwodd i Morrissey, Strokes, bach o The Fall ac yn dod allan efo sdwff reit dda. Dwi'm au fait efo'r dylanwadau na phethau eraill ond doedd dim rili'n 'newydd' am eu swn ond roeddan nhw'n berfformwyr go iawn a digon o egni a steil Roedd llais y prif ganwr hefyd yn wych. Roedd y bas yn dod drwodd yn gryf ym mhob can ac, wel, dwi'n hoffi hynna! So, droiodd allan yn oce wedi siomedigaeth gynnar. Wi wyr dusapointud on ddy best said, uff iw now wot ai min. Difyr on the nine. Wedi oelio fi fyny'n neis ar gyfer ATP ...pythefnos and counting....dwi mor ffycin ecseited allwn i fyta fy nghlustog. Dyma'r leinyp diweddara i chi gael ha
Jacques your Citroën Diolch Suw ! Ti wedi llonni fy nydd wrth bwyntio fi at beth sydd o bosib yr hysbyseb gorau erioed - car Citroën C4 yn troi mewn i robot megis transfformyr a dawnsio fel meistr ffwnc i gan Jacques Your Body gan Les Rhytmes Digitales - mewn gair: perffeithrwydd. Dwi fel arfer yn casau hysbysebion ond weithiau, jest weithiau mae'n hw'n gallu bod yn sybleim. Dwi'm yn mynd i dynnu fo oddi ar fy sgrin nes bo fi'n laru'n llwyr arno fo. Jest gwychder trahaus o'r radd flaenaf posib. Be di trahaus? Dwi ddim yn gwybod ond dwi'n siwr ei fod yn disgrifio'r pinacl pegynnog hyn yn hysbysebu. Mmmm. Gwd thing achan.
Rhith-daith o amgylch Caerdydd Wel, mae IcWales yn cynnwys rhywbeth diddorol o leiaf - Rhith-Daith o Gaerdydd . Gyda'r safle fach ddifyr 'ma, gallwch fynd i rai o fannau mwyaf adnabyddus Caerdydd ac edrych o gwmpas llun 360 gradd, gan glicio ar bethau diddorol i roi llun mwy manwl a rhagor o wybodaeth. Taclus iawn.
Cymru: Gwlad y Gan Rap Diolch i Dafydd ar y maes am anfon fi at erthygl essenshal MC Sleifar - Welsh rap: A brief history . Ma wedi nghyflwyno i i lot o griwiau o ni ddim yn gwbod amdanyn nhw a rhoi cyd-destun diddorol i sin heddiw. Ac mae A5 o label R-Bennig (a aeth mlaen i fod yn Waw Ffactor ) yn cael mensh 'fyd; o'n i'n ffan hiwj o "Adroddiad Du" yn y 90'au cynnar (ac mewn cariad efo Rachel Carpenter *och*)
I chwi ddysgwyr... Siawns am Sgwrs? - fforwm drafod newydd wedi'i gychwyn gan Rhys Wynne ar gyfer cael man croesawgar di-ffasgwyr ieithyddol i ddysgwyr newydd (a phrofiadol). Gobeithio bydd dy fforwm yn llwyddiant. Dwinna'n edrych mlaen i weld beth all dyfais BBC Vocab wneud i helpu dysgwyr ddeall y wefan hon. Fydd y ddyfais yn deall dim ar fy ngeirfa tafodieithol ond mae'n siwr bydd ambell i air yn cael eu adnabod a gobeithio fydd hynny'n ychwanegu at hygyrchedd fan hyn.
Rhowch pat hael ar eich cefn Gymru... mae'r Gymraeg ar i fyny yn ein hysgolion! Ond, faint o rhain sy'n siarad Cymraeg gartref? 6.2% o blant Cymru (13,595 yn 2001) fel a gwestiynwyd fel rhan o sensws ysgolion yr Ystadegau Gwladol. Ac mae'r ffigwr hyn yn gostwng yn raddol flwyddyn wrth flwyddyn. Ffigyrau sobor iawn, a ffigyrau sydd angen sylw. Wyddwn i ddim fod hi'n sefyllfa mor ddybryd a hyn a dwi'n hollol isel fy ysbryd rwan. Diolch, serch hynny, i Blog Menai am dynnu'n sylw i at hyn.
ODB (1969-2004) Gutted. Mae Ol' Dirty Bastard, un o fy hoff rappers, wedi marw . Roedd o, fel un o aelodau y Wu-Tang Clan , yn un o'r rappers mwyaf gwreiddiol i hitio'r byd 'ma. Dwi ddim yn ffan mawr o hip hop hardcore fel arfer, ond roedd ODB yn eithriad. Roedd ei steil o saethu geiriau yn slyrio, phoeri a rhefru fel dyn o'i go yn hollol unigryw ac yn gneud i fi wrando'n astud, dawnsio fel nytar a chwerthin llond y mol ru'n pryd. Pan glywes i Shimmy Ya ar dap mics gen ffrind i fi o'n i jest yn rewindio fo drosodd a throsodd gan ei ail chwarae yn y car drwy gydol haf '96. Fo oedd fy mhrofiad cyntaf o'r Wu Tang Clan ac yr ysgogiad i brynu Wu Tang Forever (gyda chan ODB - Dog Shit - yn uchafbwynt fan'no hefyd). Prynu wedyn Return To The 36 Chambers a gwrando ar glasuron fel Brooklyn Zoo , Baby C'mon ac, wrth gwrs, Shimmy Shimmy Ya . Oedd o'n foi volatile iawn, mewn ac allan o'r carchar o '99 ymlaen, gan ffoi o&#
Blog Blogfen Mae Chuck Olsen wedi gneud ffilm ddogfen am flogio o'r enw Blogumentary ac wedi blogio'r holl broses (ac mae'n flog reit dda, fel fasa rywun yn disgwyl rili). Mae yna hefyd lwythi o glipiau o'r ffilm ar ei wefan (os oes ganddoch chi'r bandwidth).
Image
Pa fath o flogiwr wyt ti? You Are a Pundit Blogger! Your blog is smart, insightful, and always a quality read. Truly appreciated by many, surpassed by only a few . What kind of blogger are you? If only...
Mae'n wir ddrwg gennym ni... Sorry Everybody "I drink to drown my sorrows, but the damn things have nlearned to swim" - Frida Kahlo (dyfyniad bach neshi ffeindio ar y wefan)
The Incredible Hull Marshmallowdisco`s Fotolog Sdwff gwych o gyffinau Hull gan fy ffrind Gogleddol Mr Marshall. Rhaid. Cael. Camera. Digidol. Mae'r un Rambo a Pikey Series No.1 yn gret.
Siemsyn Twrbil smala Wedi dod ar draws lle bach od gyda chasgliad o atgofion George Thomas o Ffarm Trelai, un o'r ffermwyr olaf i ddenfyddio ychen yng Nghaerdydd. Mae'n cynnwys hanes boi o'r enw James Turbervill oedd yn giamstar ar gyfansoddi tribanau, caneuon dychanol, tra'r oeddent yn ffermio. Mae 6 o'i benillion ar y wefan (a chyfieithiad yr un). Dyma ffefryn: O Mali fwyn eleni Y forwyn fwya yn Gymru, A thwll ei ffwrch i guwch a'r to - Pwy fyniff dro gan Mali? Am ryw reswm mae'r cyfieithaid i hon yn Lladin! Dwi'n synnu a dweud y gwir nad oedd hyd yn oed ffermydd Caerdydd wedi Saesnigeiddio cyn hyn. (o wefan " Cardiff Records ", Pat Sewell, sydd yn llawn ffeithiau am ardaloedd ac atgofion Caerdydd)
Dyma OM - yn ol o EN yn yr UDA Wedi sbelan fach mae gwefan Owen Martell nol yn fywiog eto. Damia'r boi 'na, ma jest rhy ffecin dalentog (dim grawnwin sur fan hyn onest gyfnor ;) ) - ond da chi cerwch i weld ei luniau newydd , ei luniau gwych o Efrog Newydd , a'i broject sain ar hap . Falch o dy weld ti'n nol bwoi.
'Bach o lônluniau bach Traed? Nodyn bach am lônflog newydd Cymraeg - dyma lluniau bach traed gan ein ffrind Caergrawntaidd traed aka tafod_bach aka Jimbob Sgriblfflob (oce, neshi neud yr aka dwetha fyny...sori, carid awe braidd).
Techno Giallo Rwan ma hwn yn swnio'n ddiddorol ofnadwy: DVD gan DJ Speedy sy'n gyfuniad o tecno wedi'i gymysgu a llwythi o olygfeydd o ffilmiau Giallo y 70'au gan Dario Argento a'i giwed. Swnio'n od braidd ond mae'r adolygiad yn Kinocite yn ffafriol iawn.
Wyddoch chi lle mae Newtown, Caerdydd? Na fi chwaith tan i fi ffendio allan amdano ar Flog Menai . Diolch am y ddolen i wefan yn gyfangwbl am yr ardal goll hon o Gaerdydd . Mae'n debyg y taw'r Gwyddelod a fu'n gweithio ar adeiladu'r dociau i Marquis Bute oedd yn byw yno, ond cafodd ei ddychmwel oll yn 1966. Sgwn i os mae'r nhw wedi creu yr ardd goffa fel yr arfaethwyd?
Ffotograffau o Gaerdydd Mae Dio Bach wedi setio fyny grwp postio lluniau o Gaerdydd ar wefan Flickr . Neis iawn di rhai o'r lluniau 'fyd. Dwi. Angan. Camera. Digidol. Sa rywun isio cael un i fi dolig? Na? Oce. Fydd raid i fi safio fyny 'lly yn bydd... Gwrando ar ESG ar y foment - ffycin amazing.
Miri Lônluniau yn Gymraeg Mae gan Mirimawr ei lônflog ei hun! Un da hefyd, ac yn amlwg ma gan y cwd lôngamera gwell na fi. Ffycar. Am ryw reswm ddo dydy ei ffrwd rss ddim yn gweithio a dydi ei luniau ddim yn dod fyny ar fy nghyfri bloglines - braidd yn 'noying.
Hip Hop Dre Cont Checkiwch allan y tameidyn bach yma o drac gan Cofi Bach . Dwi'n meddwl bo hi'n reit dda. Steil rapio llyfn, geiriau ffyni, llais chydig yn husky fatha bo hi di bod yn gwaeddi abiws ar copars drwy nos! Rhywun i gadw llygad arni.
Y Gwylwyr The Movie Blog - Aronofsky Off The Watchmen Damia, dim ffilm Watchmen am chydig hwy eto - siawns neith Gilliam ddod nol ar y case rwan...
Woo Hoo! twitchfilm.com: Switchblade Romance. R2 UK DVD. Confirmed For Januray 31st 2005. Cytuno a Twith fan hyn, un o syrpeisus gorau'r flwyddyn.
Gwepluniau Ciaridyms Albymau 'gwepluniau' o Oes Victoria (Sir Ddinbych) :: Casglu'r Tlysau Am air ffantastic - gweplun. Diolch Casglu'r Tlysau am wneud fy more, dwi off i dynnu gweplun yn Boots. Nid 'llun pasport' mohono rhagor ond gweplun - "anfonwch weplun gyda'ch ffurflen"... Hawdd i'm difyrru tydw.
Blog bach llwyd Dyddiau Llwyd gan Petra sydd wedi osgoi mynd i coleg syth rol ysgol - call iawn, dylai rhagor o bobol wneud.