Siemsyn Twrbil smala

Wedi dod ar draws lle bach od gyda chasgliad o atgofion George Thomas o Ffarm Trelai, un o'r ffermwyr olaf i ddenfyddio ychen yng Nghaerdydd.

Mae'n cynnwys hanes boi o'r enw James Turbervill oedd yn giamstar ar gyfansoddi tribanau, caneuon dychanol, tra'r oeddent yn ffermio.

Mae 6 o'i benillion ar y wefan (a chyfieithiad yr un).

Dyma ffefryn:

O Mali fwyn eleni
Y forwyn fwya yn Gymru,
A thwll ei ffwrch i guwch a'r to -
Pwy fyniff dro gan Mali?


Am ryw reswm mae'r cyfieithaid i hon yn Lladin! Dwi'n synnu a dweud y gwir nad oedd hyd yn oed ffermydd Caerdydd wedi Saesnigeiddio cyn hyn.

(o wefan "Cardiff Records", Pat Sewell, sydd yn llawn ffeithiau am ardaloedd ac atgofion Caerdydd)

Comments

Popular posts from this blog