Posts

Showing posts from September, 2004
Penblwydd hapus i ti... Penblwydd hapus i ti, penblwydd hapus i ti, penblwydd contllyd y basdaduch Regiadur , penblwydd hapus i ti - wedi cyrraedd y 500fed rheg heddiw. YMLAEN AT Y FIL!
Blynyddlyfrau(?!)(Annuals!) Original British Annuals from The Book Palace O Abba i Worzel Gummidge efo Dan Dare a Thransfformyrs yn y cnol. Nnnnostalgiattack rhan II...
Lluniau o'r gofod a llongau i hwylio drwyddo "Space Art in Children's books 1950's to 1970's" Mae hwn yn wefan lyfli gyda phentwr o luniau o longau gofod a siwtiau lleuad ffynci wedi eu trefnu'n gronolegol. I ddilynydd sci-fi mae hwn yn wefan ma raid ei phori. Mae'n atgoffa fi o edrych ar lyfr "Look and Learn" hen fy nhad pan o'n i'n 9 ,wedi i mi eu ffeindio mewn tea chest ffags Navy Cut yn y beudy llychlyd yn Llanfachreth. Mmmmnnnnostalgiattack.
Chwechantchwedegpump 665 - ella bo pobol wedi gweld hwn o'r blaen ond do'n i ddim felly dyma'i flogio. Gwefan yn gan foi o'r enw Jeffrey Power yn cynnwys 665 postiad gwahanol am bob math o sdwff o gartwnau i pranks i jest petha sdiwpid . Fatha blog finite. Difyr iawn.
Ffawdheglu mewn darluniau Mae'r BBC wedi diweddaru'r gem antur text based The Hitchhiker's Guide to the Galaxy i fod a lluniau! Neshi rioed gael yn bell iawn ynddo, cyfle arall... [o Boing Boing ]
Caethiwch Pensaeri Rhyddion Beijing! Mae gwefan BadJianZhu yn bodoli i ddangos a chywilyddu adeiladwaith hyllaf Beijing - y ddinas sy'n tyfu mor gyflym fod y cynlluniau adaeiladu'n gorfod cael eu contractio allan ysgolion cynradd a'u modelu gan ddefnyddio papur crepe a pritt-stik yn unig. Efallai dylia rhywun gychwyn gwefan debyg ar adeildadau newydd Caerdydd ...
Archwiliad doniol... Wrth edrych drwy stats Rwdls Nwdls, dwi newydd ffendio fod rhywun wedi dod i'r wefan drwy wneud search am " Ydi o yn gywir bod mae haul yn gallu neud chi yn dall " Heh!
Y byd a'i bethau mewn tri dimensiwn Diolch i Mansh am bwyntio fi i gyfeiriad Fullscreen QTVR (Quicktime Virtual Reality) . Gwefan lle mae'n bosib cael vistas cyfangwbl 3D, ac nid jest yn horzontal ond yn vertical a diagonal. Yr HOLL ffordd rownd. Mae na hyd yn oed un anghygoel yna o du mewn ceg rhyw ddoctor!
Sut i Fod yn Pyrf yn Siapan Geiriadur porn, ffetish a pyrfyrsions Siapaneaidd Mae'r rhegiadur yn llawer mwy cynhwysfawr (bron a cyrraedd y pumcant...) ond mae gan y Cymry rwbath i ddysgu o ran gwreiddioldeb ffetish!
Sioc Horyr! Atyniad newydd sydd ddim yng Nghaerdydd! Dwi'n falch o glywed fod pobl Abertawe am gael Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn eu dinas. Rwan fod y ganolfan hamdden (oedd wedi mynd yn siabi iawn) wedi cau, mae llawer llai o bethau i ddenu ymwelwyr o ffwr' a Chymry eraill r'un fath. Mae'r adeilad yn swnio'n ddiddorol (er yn defnyddio "pedwar math o lechi" yn debyg iawn i Ganolfan Y Mileniwm - ond pa ddrwg sydd yn hynny a deud y gwir) a gobeithio bydd yr amgueddfa hefyd. Mae Abertawe'n aml yn cael ei anghofio, ac mae hynny'n dristwch braidd.
Sut i fod yn greadigol - canllaw 'Gaping Void' gapingvoid: how to be creative - gan y boi sy'n gneud rhai o'r cartwns mwya doniol ar y we (un i ti efallai Chris...nid y darn how to be creative, ond y cartwns, ti'n greadigol yn barod. Ow, tyllu'r twll yn ddyfnach!)
Image
Typeface (gwynebfath?) neis i'w ddefnyddio ar dudalen flaen Pictiwrs.com efallai? (wedi ei sbachu o wefan http://saulbass.net 
Ffilm Gymreig "Textual @ttraction" yn cael sylw ar y we... Mae gwefan Engadget wedi dod ar draws y ffilm Textual @ttraction gan Ieuan Morris. Mae hi'n ffilm fach dda yn weledol, ond weles i hi heb y nodau bodyn i'm ffon, felly roedd hi'n annodd cael crap ar beth oedd yn mynd mlaen. (O ia, a mi gath Rwdls mensh ar blog ffilm Cinema Minima am adrodd y sdori hon gynta! Iei!)
#Caerdydd Tu-fewn Tu-fas# Dwi'm yn gwybod os dwi di blogio hwn o'r blaen ond godes i'r llyfr ( Real Cardiff gan Peter Finch ) yn y Sdeddfod a ffeindio fo'n lyfr difyr iawn i'w godi a'i ddarllen fymryn ar y tro, yn arbennig gan fy mod wedi byw yng Nghaerdydd rwan ers bron i 9 mlynedd (!). Mae'r wefan yn cynnwys llawer iawn o ddisgrifiadau ac anecdotau o ardaloedd amrywiol Caerdydd. Mae hefyd yn sgwennu estyniad o'r llyfr hwn am gyffiniau Caerdydd , edrch mlaen i weld be ddaw o hwn 'fyd. Mae ganddo ffeils audio o farddoniaeth ag ati yn ogystal a lluniau lu ohono fan hyn a fan hyn heb anghofio ei farddoniaeth weledol sy'n gafael ynddai rywsut.