Sioc Horyr! Atyniad newydd sydd ddim yng Nghaerdydd!
Dwi'n falch o glywed fod pobl Abertawe am gael Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn eu dinas. Rwan fod y ganolfan hamdden (oedd wedi mynd yn siabi iawn) wedi cau, mae llawer llai o bethau i ddenu ymwelwyr o ffwr' a Chymry eraill r'un fath. Mae'r adeilad yn swnio'n ddiddorol (er yn defnyddio "pedwar math o lechi" yn debyg iawn i Ganolfan Y Mileniwm - ond pa ddrwg sydd yn hynny a deud y gwir) a gobeithio bydd yr amgueddfa hefyd. Mae Abertawe'n aml yn cael ei anghofio, ac mae hynny'n dristwch braidd.

Comments

Anonymous said…
Fues i gal pip ar yr Amgueddfa newydd wsnos diwetha. Ges i nhywus gan y Project Manager rown y seit mewn par o welys, cot felen a het galed. Ma'r gwaith adeiladu i fod i gwpla ymhen chwe wsnos a mi fydd yr holl 'exhibits' yn cal i rhoi mewn i'r adeilad. Ma'r bensaerniaeth yn rhannol Siapaneaidd yn y marn i, ma na gynllunie da iawn i'r lle. Ma nhw di cadw hen Amgueddfa'r Glanhau Abertawe ac wedi ychwanegu 'wing' newydd iddo. Mi fydd yn le hyfryd i ymweld a, ac i gal paned neu ginio gobeithio. Y broblem fwya yw'r ffaith i fod e drws nesa i adeilad y pwll nofio yn Abertawe sydd bellach yn edrych fel hen dy cownsil gyda'r ffenestri i gyd di bordio fyny a graffiti ar y walie.

Fatbob.
Nwdls said…
O'n i'n arfer bod wrth y modd da pwll nofio canolfan hamdden Abertawe, y bowlen fawr na lle ti'n mynd rownd a rownd cyn gollwng mewn i'r pwll. Smart.

Popular posts from this blog