#Caerdydd Tu-fewn Tu-fas#

Dwi'm yn gwybod os dwi di blogio hwn o'r blaen ond godes i'r llyfr (Real Cardiff gan Peter Finch) yn y Sdeddfod a ffeindio fo'n lyfr difyr iawn i'w godi a'i ddarllen fymryn ar y tro, yn arbennig gan fy mod wedi byw yng Nghaerdydd rwan ers bron i 9 mlynedd (!). Mae'r wefan yn cynnwys llawer iawn o ddisgrifiadau ac anecdotau o ardaloedd amrywiol Caerdydd.

Mae hefyd yn sgwennu estyniad o'r llyfr hwn am gyffiniau Caerdydd, edrch mlaen i weld be ddaw o hwn 'fyd. Mae ganddo ffeils audio o farddoniaeth ag ati yn ogystal a lluniau lu ohono fan hyn a fan hyn heb anghofio ei farddoniaeth weledol sy'n gafael ynddai rywsut.

Comments

Popular posts from this blog