Bandiau All Tomorrow's Parties

Dydd 1

Wolf Eyes - pwy gychwynna fel hyn, a wel, deifio mewn i wal o sain distorted arbrofol y band gwych yma

Lightning Bolt - a mlaen i uchafbwynt y penwythnos, rocio fel na rocasant erioed

LFO - synnau gwych electronic dipyn o ganeuon cyfarwydd

Peaches - siomedig. Oedd y sioe yn ol reit i gychwyn wedyn nesh i ddiflasu chydig arni

Shellac - oedd lawr staer, nesh i'm rili talu sylw...pwy a wyr, yn y pyb yn malu cachu

Dydd 2

Destroy All Monsters - hen fois o 'Merica yn chwara rhyw jazz-rock ffiwsion reit neis. Am ryw reswm roedd y canwr yn sbio ar ei watsh drwy'r holl sioe. Od.

Bird Blobs - band o Melbourne, wnaeth gryn argraff arnai ar y pryd. Angan llwytho albym gan y rhain

The Liars - ddim rili'n talu sylw o hynny welis i

Miss Kittin - o'n i'n dechra joio ei ffwnc electro ond ges i nragio lawr staer i weld...

A Silver Mount Zion - oedd yn rhyw fand 7-darn gwerin arbrofol. Siawns fach i gael napan...cyn paratoi am onslaught...

Aphex Twin - oedd yn gymahrol ffwnclyd i gychwyn ond a ddiflannodd mewn i bydew tywyll ar ol hannar awr. Fel arfar dwi'n joio hynna ond bu raid dianc i'r chalet i falu cachu, a diweddu fyny'n aros 'na.

Dydd 3

Lyle Perkins - electronica reit ddifyr er fod sawl darn cawslyd ynddo, fel sampl o...o shit dwi di anghofio rwan.

Pelican - joio mas draw

Sunn O))) - drone...drone...drone...dau foi mewn hoods llaes yn chwarae un cord drosodd a throsodd. Anniddorol tu hwnt.

The Fall - gig ffantastig yn cynnwys intro ar ffurf ffilm o Elvis a Michael Jackson wedi cael ei newid a'i loopio rywsut i wneud y swn mwy a sgeri, cyn i'r band ddod mlaen (tra'r o'n i'n y bog) a chwarae clonna allan.

Violent Femmes - dwi'n cofio nhw'n bod yn dda ond ddim rili'n cofio pam - chydig yn feddw erbyn hyn

Carl Craig - tecnotastig, o'n i'n gwybod y basa'n werth mynd nol ato fo. Rywsut oedd gen i dddigon o egni ar ol i ddawnsio fel gwallgofddyn iddo. Cyn colapsio'n dalp disymwth ar fy ngwely'n hapus.

Penwythnos reit dda rili, er fod y lle chydig yn wag gyda mond tua hanner y chalets yn llawn. Ta waeth, digon o hwyl, yn arbennig drwy esgus dod o'r Iseldiroedd a methu siarad gair o Saesneg (anghygoel sut mae jest cael geiriadur yn eich llaw yn darbwyllo pobol, ma bron pawb yn yr Iseldiroedd yn siarad Saesneg!). Dwn im os fyddai'm mynd yn mis Ebrill, awydd mynd i wyl Jazz nesa. Dyna bron yr oll dwi'n gwrando arno'n ddiweddar. Yn ol bob son ma na un da yn Ne Ffrainc ger Toulouse yn yr haf...Jazz31?, naci un arall ydi dwi'n siwr...

Comments

dros said…
*jelys*

mae'n debyg na welai ti'n rocio mas i slint adeg pasg te? wedi bod yn gwrando exclusively ar the bad plus a datblygu am tua pythefnos rwan...fydd angen chwipio'r st etienne mas arnai cyn bo hir...
Nwdls said…
O'n i wedi golygu mynd ond yn amlwg roedd pawb isio mynd i un Slint yn lle'r Nightmare Before Christmas. Mae'n edrych fel taw fi fydd yn llawn cenfigen erbyn m,is Chwefror. Yndwyt ti'm jest yn casau methu allan ar amsar da?
Dwi yn. Yn uffernol. Nesh i ddim cwrdd a gymaint o bobol tro ma chwaith (heblaw am Chav and Daze, oedd y bois doniola i fi eu cwrdd ers achau. Anecdote machines.).

Raid i fi drio arbed chydig o arian yn flwyddyn newydd eniwe, dwi'n ffwcin sgint, ac angan dechra palu allan o'r twll. Ho hym.
dros said…
dwisio gwbod mwy am miss kittin - brynish i cd bootleg ganddi (ddim ganddi hi, ond o'i miwsig hi) yn rwsia am 100rwbl (tua 70p?), a gan nad ydwi wedi ystyried edrych amdani ar google, dwisio gwbod mwy. sut mae'n edrych, i ddechrau? oedd hi wedi gwisgo fel nyrs?
mae'n edrych yn go debyg y byddai'n hollol sginted eto erbyn pasg - geshi ATP sych llynedd, blaw am y botel o tabw nath fy cabin-mate (male, heterorywiol) ddod i yfed(na, nath o'm hydnoed cynnig peint i fi) :(
neshim cwrdd รข neb chwaith llynedd, wir yr. chalets o'n cwmpas ni'n llawn pobol od, tawel, a fi ddim ond yn nabod un o'n chalet mates. dreulies i'r rhan fwya o'r penwythnos yn crwydro o gwmpas yn sgint, yn fy myd bach fy hun, efo soundtrac neis... (braidd yn drist, a bach o wast o bres - swn i di gallu cerdded rownd pier aberystwyth efo'n ipod arno am 3 diwrnod really). so dwi'n gobeithio fydd leni Gymaint Yn Well...

eeeniwe, rhagor am miss kittin plis! (dwi'm yn syrprised am peaches yn bod braidd yn crap. sa lot gwell gen i wylio chilly gonzalez yn lle)
post hir a winji- sori!
dros said…
This comment has been removed by a blog administrator.

Popular posts from this blog