Dim Doctor yn y Ty

Fod i fynd i weld Clinic yn chwarae heno, ond wedi cryn edrych mlaen nath y basdads ddim troi fyny - rhywun yn sal...diawliaid di-feddwl ynte.

Felly, welson ni fand cachu rwtsh sydd ddim werth eu henwi ac wedyn syrpreid bach neis yn The Bravery, band o Efrog Newydd yn cyfuno bopeth o Human League, drwodd i Morrissey, Strokes, bach o The Fall ac yn dod allan efo sdwff reit dda. Dwi'm au fait efo'r dylanwadau na phethau eraill ond doedd dim rili'n 'newydd' am eu swn ond roeddan nhw'n berfformwyr go iawn a digon o egni a steil Roedd llais y prif ganwr hefyd yn wych. Roedd y bas yn dod drwodd yn gryf ym mhob can ac, wel, dwi'n hoffi hynna! So, droiodd allan yn oce wedi siomedigaeth gynnar. Wi wyr dusapointud on ddy best said, uff iw now wot ai min. Difyr on the nine.

Wedi oelio fi fyny'n neis ar gyfer ATP...pythefnos and counting....dwi mor ffycin ecseited allwn i fyta fy nghlustog. Dyma'r leinyp diweddara i chi gael halio drosto - noson gynta - main hall: Throbbing Gristle; Peaches; LFO (Live); Lightning Bolt.

Omaigodtinffycinjociancont. Ond fydd Wolf Eyes yn clasho? Naaaaaa!

Comments

dros said…
ti'n mynd i'r un slint flwyddyn nesa wa? un neu'r llall i fi oedd hi (ellai welai di yno, champion).

Popular posts from this blog