Cloriannu Dyfodol S4C

Mae'r BBC yn adrodd ddoe fod cyfarfod wedi bod ddydd Gwener i drafod dyfodol S4C a'r newidiadau yn sgil adroddiad Ofcom. Mae'n debygol y bydd yno dri opsiwn:

1. Cadw pethau fel y maen't
2. Gadael i'r BBC redeg S4C
3. Cynnig rhedeg y sianel allan i dendr i gwmniau a chonsortia preifat, gan roi cytundeb 10 mlwyddyn i'r 'cyhoeddwr' (PSP - Public Service Publisher).

Yn ol yr adroddiad, mae Cadeirydd S4C i'w gweld yn ffafrio y drydedd opsiwn.

Dwi ddim mor siwr, lle mae hynny'n gadael elfen Gwasanaeth Darlledu Cyhoeddus S4C? Sut all hyn gadw ei hygrededd wrth gael ei redeg gan gwmni preifat? Mae'n nhw'n gwmniau cyfalafol gyda'u bryd ar wneud arain, nid boddhau anghenion y cyhoedd Cymraeg eu hiaith. Dyw'r erthygl ddim yn son ychwaith am faint o arian fuasai ynghlwm wrth unrhyw un o'r tri opsiwn ond mae'n debygol taw toriadau a gawn ni.

Mae'n wir fod angen newid, a shifft seismig i gael rhyw fath o ffresni a gweledigaeth yno, ond mae'r opsiwn hyn yn swnio chydig rhy bell o ddyletswydd craidd y sianel. Ein gwasanaethu ni a chynnwys Cymraeg o'r safon uchaf posib.

Dyma ddudodd Cadeirydd S4C, Elan Clos Stephens: "Felly byddai cyrff a chwmnïau consortia yn dod at ei gilydd i gystadlu am yr hawl i redeg y gwasanaeth rhaglenni. Wedyn mater iddyn nhw fydd penderfynu sut fyddai orau i wneud hynny ac i ddod i delerau gyda'r BBC ymhlith eraill ynglyn â chynhyrchu rhaglenni."

Dyma sydd gen y Western Mail i'w ddweud ar y mater, mewn erthygl sy'n paentio llun tipyn tywyllach ac yn esbonio'n well beth fydd goblygiadau'r newidiadau.

Comments

Popular posts from this blog