Dwi'n Caru Coed Aberneint (ac mae Twm Morys 'fyd...)

Fues i adre'n Nolgellau dros y penwythnos gan fynd am dro bach fyny Pen-Y-Banc, rownd Rhyd Wen, lawr trwy goed pin Coed y Pandy, ymweld a rhaeadr Coed Aberneint wrth ochr yr afon Aran, heibio'r tanerdai adfeiliedig a nol lawr i dre heibio tai bach prydferth blith draphlith a phendramwnagl y Domen Fawr.

Ac yn goron destlus ar y penwythnos bach hwyliog ac i dwymo'r galon yn bellach dwi newydd ddod ar draws cerdd fach hyfryd ar goedlan newydd Goed Aberneint a sgwennwyd gan Twm Morys a phlant Ysgol Y Gader. Fe'i sgwennwyd wedi i'r safle gael ei wneud yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn 2002, ac mae hi wir yn lecyn bach hudol. Fe wariais i wythnosau cyfan o mhlentyndod yn sgrialu o amgylch y coed ac i fyny a lawr yr afon, yn chwilio am antur cudd ac adeiladu dens. Dwi'n falch iawn fod rhywun, ac yn arbennig o falch fod un o'm hoff feirdd, wedi sgwennu mor serchog a hiwmorys am y lle. Diolch.

Gawd, dwi'n sentimental heno!

Dwi'n siwr na fydd y plant na Mr Morys yn meindio os nai ail-gyflwyno'r gerdd fan hyn, a fydd Corach yn falch fod yr annwyl bathew'n cael mensh!)

Coed Aberneint

Yng Nghoed Aberneint mae’n dywydd od iawn
Gaea’n y bore a haf yn y p’nawn

Yng Nghoed Aberneint mae’r maswellt yn crynu
A’r coed cyll bychain bach yn rhynnu

Yng Nghoed Aberneint mae’r gwynt yn rhuo
A dail yn disgyn fel eira’n pluo

Yng Nghoed Aberneint mae twrw taran
Gan hen bistyll Afon Aran

Yng Nghoed Aberneint mae’r olwyn ddwr
Fu’n codi’r ordd, wedi tewi a’i stwr.

Yng Nghoed y Pandy mae’r derw’n dena’
Oherwydd y pin sy’n dwyn y gola’

Yng Nghoed y Pandy mae chwilen y dom
A’r mwd yn ei rwystro fel ffosydd y Somme

Yn y Parc mae’r pathew yn methu cysgu
Di’r gwymon a’r ffwng ddim isio cymysgu

Mae’r ji-binc yn reit anwydog
Mae ‘na chwain yn cosi coesau’r draenog

Ac oherwydd yr holl firi sydd
Mae’r ystlum yn effro trwy gydol y dydd

Yn Aberneint mae rhywbeth yn bod
Mae’n ganol Mehefin a’r haf heb ddod

Ond mae ‘na aur o dan y rhedyn
O’r mes y daw coed derw wedyn

Cerdd wreiddiol gan Twm Morys a phlant 12-13 Ysgol Y Gader, Dolgellau

Comments

Anonymous said…
Diolch am hynna Nwdls! Dwi'n mynd adre dydd Sul ac yn edrych mlaen fwy fyth rwan at gael gweld yr hen dre! ('')<
Nwdls said…
Dim probs, ella welai di gwmpas dre!

Popular posts from this blog