Nick your Jacques your Citroën?

Mae fy chwaer annwyl newydd fy hysbysu fod yr hysbyseb Citroën a baldaruais amdano yn ddiweddar yn edrych yn llai a llai fel y genius roeddan ni'n meddwl oedd o. Am dwp ohonof. Credu na fuasai execs hysbysebu despret di-ysbrydoliaeth ac anfoesgar yn dwyn syniadau oddi ar fyfyrwyr ac artistiaid sydd probabli heb gael ceiniog am eu creadigaethau. Ellir cael y geiriau 'moesau' a 'hysbysebwyr' yn yr un brawddeg? Anhebygol. Ella fod awgrymiad Bill Hicks iddynt yn addas: "Suck a tailpipe. Hang yourself. Borrow a pistol from an NRA buddy. Rid the world of your evil fucking presence."

Dyma ragflaenydd un a rhagflaenydd dau y trawsnewidwyr tor-ddawns.

(Wedi deud hyn, er mawr gwilydd wedi fy rant uchod, dwi dal yn meddwl fod y fersiwn Les Rhythmes Digitales yn well!)

Comments

Popular posts from this blog