Jacques your Citroën

Diolch Suw! Ti wedi llonni fy nydd wrth bwyntio fi at beth sydd o bosib yr hysbyseb gorau erioed - car Citroën C4 yn troi mewn i robot megis transfformyr a dawnsio fel meistr ffwnc i gan Jacques Your Body gan Les Rhytmes Digitales - mewn gair: perffeithrwydd. Dwi fel arfer yn casau hysbysebion ond weithiau, jest weithiau mae'n hw'n gallu bod yn sybleim.

Dwi'm yn mynd i dynnu fo oddi ar fy sgrin nes bo fi'n laru'n llwyr arno fo. Jest gwychder trahaus o'r radd flaenaf posib. Be di trahaus? Dwi ddim yn gwybod ond dwi'n siwr ei fod yn disgrifio'r pinacl pegynnog hyn yn hysbysebu. Mmmm. Gwd thing achan.

Comments

Dwlwen said…
Ddaeth yr hysbyseb 'na ar teli neithiwr - sai erioed 'di mo'yn car cyyyyymaint!

Popular posts from this blog