Rhowch pat hael ar eich cefn Gymru...

mae'r Gymraeg ar i fyny yn ein hysgolion! Ond, faint o rhain sy'n siarad Cymraeg gartref?

6.2% o blant Cymru (13,595 yn 2001) fel a gwestiynwyd fel rhan o sensws ysgolion yr Ystadegau Gwladol.

Ac mae'r ffigwr hyn yn gostwng yn raddol flwyddyn wrth flwyddyn. Ffigyrau sobor iawn, a ffigyrau sydd angen sylw.

Wyddwn i ddim fod hi'n sefyllfa mor ddybryd a hyn a dwi'n hollol isel fy ysbryd rwan.

Diolch, serch hynny, i Blog Menai am dynnu'n sylw i at hyn.

Comments

Cai Larsen said…
Y perygl ydi mai rhith ydi'r holl gamau breision ymlaen mae'r Gymraeg yn ymddangos i fod wedi eu cymryd tros y blynyddoedd diwethaf. Dim byd mwy na crib, pwti a phowdwr ymgymerwr angladdau.

Wedi dweud hynny, mae llawer o bobl nad oeddynt yn siarad y Gymraeg fel mamiaith yn ei defnyddio fel prif gyfrwng rwan. Mae pobl di Gymraeg, a di Saesneg weithiau, wedi priodi i mewn i fy nheulu i (y ddwy ochr)yn gyson ers cenedlaethau - ond Cymry Cymraeg ydym oll.
cridlyn said…
Ond mae canran y siaradwyr rhugl wedi cynyddu, arwydd efallai o'r ymroddiad gan y rheiny sy'n ddi-Gymraeg eu hunain i anfon eu plant i ysgolion Cymraeg a sicrhau eu bod yn dod yn rhugl. Rwy'n nabod sawl person sy'n dod o gefndir cwbl ddi-Gymraeg ond sydd bellach yn rhugl ac yn defnyddio'u Cymraeg yn ddeheuig o ddydd i ddydd. Dyna'r broblem gyda'r ffigyrau hyn - anodd yw gwneud pen na chynffon ohonyn nhw...
Nwdls said…
Ie, o'n i'n gweld fod y canran hyn wedi cynyddu'n sylweddol, ond beth yn union mae hyn yn ei olygu? Fydd raid aros 10 mlynedd nes bydd y plant rhugl hyn i dyfu fyny a magu eu plant hwy yn Gymraeg, neu yn y cyfamser fydd pethau yn parhau i ddirywio o ran teuluoedd Cymraeg eu hiaith? Mae'r ystadegau hyn yn rhoi llun o'r 'nawr' yng nghartrefi'r plant a'r dyfodol o ran ein gobaith ond be sy'n annodd yw gweld lle bydd y rhain yn croesi yn y tymor canol.

Popular posts from this blog