Blogiau Cymraeg - rhan 1

Mae Sarah Stevenson wedi sgwennu erthygl ar Suite101.com o'r enw Welsh Blogs, Part I sy'n son am ffrwydrad blogio yn Gymraeg ac yn cyfeirio at ei ddefnyddioldeb yn arbennig ar gyfer dysgwyr (gan obeithio y bydd hyn yn gwella eto gyda sdwff cyfieithu y BBC) ac yn awgrymu y bydd dadansoddiad pellach i ddod yn 2005. Da gweld rhywun yn sgwennu'n Saesneg am y twf yma (er ei faint bach o'i gymharu a ieithoedd eraill), a'r platfform sydd yno i flogiwyr eraill gychwyn ac ychwanegu at hyn.

(Gyda llaw newydd sylwi fod Rwdls Nwdls yn dod fyny yn nymbar wan yn gwgl pan ti'n gneud search ar blog Cymraeg! Argol!)

Comments

Sarah Stevenson said…
Diolch eto, Rhodri! :)
Nwdls said…
Diolch i ti, erthygl difyr iawn!

Popular posts from this blog