ODB (1969-2004)

Gutted. Mae Ol' Dirty Bastard, un o fy hoff rappers, wedi marw.

Roedd o, fel un o aelodau y Wu-Tang Clan, yn un o'r rappers mwyaf gwreiddiol i hitio'r byd 'ma. Dwi ddim yn ffan mawr o hip hop hardcore fel arfer, ond roedd ODB yn eithriad. Roedd ei steil o saethu geiriau yn slyrio, phoeri a rhefru fel dyn o'i go yn hollol unigryw ac yn gneud i fi wrando'n astud, dawnsio fel nytar a chwerthin llond y mol ru'n pryd.

Pan glywes i Shimmy Ya ar dap mics gen ffrind i fi o'n i jest yn rewindio fo drosodd a throsodd gan ei ail chwarae yn y car drwy gydol haf '96. Fo oedd fy mhrofiad cyntaf o'r Wu Tang Clan ac yr ysgogiad i brynu Wu Tang Forever (gyda chan ODB - Dog Shit - yn uchafbwynt fan'no hefyd).

Prynu wedyn Return To The 36 Chambers a gwrando ar glasuron fel Brooklyn Zoo, Baby C'mon ac, wrth gwrs, Shimmy Shimmy Ya. Oedd o'n foi volatile iawn, mewn ac allan o'r carchar o '99 ymlaen, gan ffoi o'r heddlu am fis ar un adeg gan fod mor hy a chwarae mewn gig tra'r oedd o on ar ffo!

Roedd ODB yn un or rapyrs yna oedd yn gallu ychwanegu rhywbeth hollol wahanol i gan ac roedd gwreiddioldeb yn disgleirio bob tro yn ei ffordd o ddanfon geiriau fel dyrnau dyn meddw i'ch pen. Roedd o hefyd yn gymeriad unigryw, oedd yn rhoi perygl, hiwmor a chyffro i fyd rap oedd wedi mynd yn glossy iawn.

Colled fawr i gerddoriaeth.

Ei obituary ar y BBC.

Comments

om said…
dw i hefo ti, rhods.
"oh baby i like it raw..." ac yn y blaen. "rhymes unbreakable, shatterproof..."
hedd perffaith hedd, rusty jones.

Popular posts from this blog