Gyrru

Pan o'n i'n 17 fe gychwynnes i yrru. Gesh i chwe gwers gan Cyril y crinc a dreifio'n ddyddiol bron i'r ffarm yn y Land Rofar yn ystod y tymor wyna. Ond, fe ges i annwyd, a gorfu i fi ganslo gwers. Big deal, ond y peth ydi dwi heb gario mlaen efo'r gwersi tan dydd Sul dwetha! 10 mlynedd yn ddiweddarach.

A dwi'n blydi joio nhw - heddiw ma nes i hyd yn oed gael mynd lawr Albany Road, dros death junction a fyny Newport Road - dair gwaith! A unwaith yn unig wnes i stallio'r car.

Dwi ddim wedi bod a diddordeb o gwbl mewn gyrru, ond mae wedi cyrraedd y pwynt lle na allai osgoi'r peth rhagor, er na fyddai'n gallu fforddio prynu car unwaith dwi wedi pasio. Dwi'n mwynhau trafnidiaeth cyhoeddus ac yn erbyn rhoi car arall ar ein ffyrdd pan nad oes angen ond mae'r angen ar gyfer gwaith a bywyd personol yn fy ngwthio i tuag at y modur.

A dwi yn edrych mlaen i allu dianc Caerdydd i fynd i gerdded ar bnawniau Sadwrn a Sul ac i allu mynd nol i Ddolgellau heb strach fferu ar blatfform Amwythig neu gyrraedd mor bell a Morfa Mawddach (ydi'n werth mabwysiadu'r stesion er mwyn efallai ei symud yn gosach i adre?) a gorfod bodio hi'r 5 milltir ola i Ddolgellau.

Rhwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus my arse!

Felly gwers arall nos Wener - gorfod delio a thraffig rush hour - woo hoo! Ydach chi rioed di clywad rhywun yn deud hynna o'r blaen? Y?

[gyda llaw, joio miwsig Cat Power ar y foment. Jest meddwl faswn i'n deud...]

Comments

Popular posts from this blog