Ac wedi'r Pictiwrs...

Wel, dwi ar ben fy nigon heddiw. Bu'r noson yn lwyddiant, gyda dros 60 o bobol yn dod drwy'r drws, ac wrth siarad ac amrywiol bobol rownd y lle roedd i'w weld fel fod pawb wedi mwynhau ac eisiau gwybod pryd mae'r un nesaf.

Roedd yr awyrgylch yn dda a phawb yn siarad am y ffilmiau, a dyna sy'n bwysig a deud y gwir - rhoi rhywle i bobol weld a thrafod ffilmiau a gwneuthura ffilmiau Cymraeg eu iaith (a chael peintan ne' ddwy a joio yn y broses).

Roedd Gary Slaymaker yn blydi gret fel compere ac yn asio'r holl noson at ei gilydd efo trosolwg o'r ffilmiau a sdori fach fan hyn, fan draw. Mi gafon ni gyflwynaid i'w ffilm gan Neil Wagstaff a nodyn bach slei gan un o wneuthurwyr "Grim" fod ffilm arall ganddyn nhw i'w dangos yn yr un nesaf. Dyma'r union beth roedden ni isio i ddigwydd, a gobeithio gawn ni fwy o syrpreisus fel'na yn y tri mis nesa'n arwain fyny at yr ail noson.

Wedi cael cyfweliad efo Dave Berry bora ma, colofnydd ffilm ac awdurdod ar ffilm cymru, a ddylia fod na golofn gyfa i'r noson yn rhaglen Chapter mis nesa. Dwi'n meddwl nesh i falu cachu braidd am bo fi dal efo chydig o benmaenmawr ers neithiwr. Ta waeth, ma'n mynd i adael i fi gael cip cyn iddo gyhoeddi fo, felly gobeithio allai ddofi unrhyw sylwadau gwirion bryd hynny.

Felly, dyna ni rili, dwi jest yn gynnwrf i gyd ar gyfer trefnu'r un nesaf rwan a gweld os gallwn ni gadw'r diddordeb a chael yr un math o gynulleidfa.

HWRE!

Comments

dros said…
hwreeee! falch fod pethe di mynd yn dda. gai weld os fydd genai unrhywbeth i'w gynnig unwaith i fi gal crap ar y camera newydd ma ("crap". ehehe)... llongyfarchiadau bawb!
Nwdls said…
Rwyf yn teimlo'n wancus yn fy angen am ragor o ffilmiau! ("gwanc" hhoho!)

Diolch eto am neud y poster, oedd pawb yn hoff iawn ohono fo a sefodd allan o'r dorf o bosteri blinedig eraill oedd o amgylch y lle.
Roedd o'n noson gwych. Roeddwn i'n arbennig o hoff o Grim, yr un wedi' animeiddio, Rhyfel Cartref, Dwr Dwfn a'r Goleuni (teitl?). Dw' i eisiau gwneud ffilm fer erbyn y noson nesaf. ;)
Nwdls said…
"Y Goleuni" oedd y ffilm olaf, gan Hefin Jones (oedd yno neithiwr, ond a sgrialodd tra'r oedd ei ffilm yn dangos).

Tisio rhywun i roi hand i ti wneud y ffilm? Faswn i'n falch o fod o gymorth.

Popular posts from this blog