Ar dy feic - am ddim



Newydd gyrraedd nol o wythnos ym Mhrag (oedd yn wych gyda llaw) ac yn cychwyn meddwl am ble a'i ar y beic flwyddyn hon (fel mae rhywun yn syth wedi gwylia braf...). Dwi'n meddwl taw'r llwybr Celtaidd o Sir Benfro i Gas-Gwent fydd hi gan nad ydw i wir yn nabod yr ardaoledd ar hyd y llwybr hon heblaw am Benrhyn Gwyr.

Dwi dal heb wneud darn deheuol y Lon Las gan i fi fynd ar grwydr drwy Geredigion fis Medi dwetha yn hytrach na dilyn y rhif 8 coch yr holl ffordd. Mae'n debyg y gallen i wneud Aberhonddu i Gaerdydd mewn diwrnod gan ei fod yn mynd am i lawr yr holl ffordd a gellir dal Bws y Bannau yn gynnar o Gaerdydd i fynd a chi a'ch beic (ar dreilar bach) fyny yno i chi gael seiclo nol.

Tra'r o'n i'n chwilio am wybodaeth ar hyn oll ddes i ar draws tudalen ar wefan Sustrans, sy'n gyfrifol am y rwydwaith seiclo cenedlaethol, sy'n rhestru'r holl fapiau o deithiau beicio Cymreig gallwch chi gael am ddim (17 ohonynt). Gyd sydd angen gneud yw ffonio'r rhifau cyswllt a gofyn iddyn nhw bostio un i chi.

Comments

Ma'r llwybr arfordirol yn pasio rhyw dair milltir o'r garafan felly os wyt ti isie rhywle i aros nosweth, galw draw.
Nwdls said…
Ewadd. Gwych! Diolch yn fawr iawn i ti, efallai wir y gwna i hynny. Mae gen i le i aros yng Nghastell Nedd a buasai ymweliad bach a chi a phroject mawr y ty yn ddelfrydol.

Dwi wir yn edrych mlaen i wneud hyn rwan bo fi di crybwyll y peth.

Popular posts from this blog