Blogiau Cymraeg a Chymreig o LiveJournal

I ddechrau mae na un gan Loo Loo o'r maes, hwre!: lol_lwlw

Rhai Cymunedol Cymreig
Wales
Cymuned Dysgu Cymraeg (gyda 102 aelod!)
Caerdydd
Swansea Life
Addicts Llambed
cymrugothic

Blogiau Cymraeg o LiveJournal

archfalhwyl
Cymro1980 (un cofnod yn unig, edrych fel ei fod oherwydd diffyg trafod yn Gymraeg ar LiveJournal)
Blog Cymraeg Marnanel
pilipala (un arall gychwynnodd ond wnaeth ddim parhau...)

Ac yn fwyaf od mae na flog o'r enw Amddiffynfa sydd yn gyfangwbl mewn Rwsieg!

W, a sbiwch pwy arall sy'n stelcian yna 'fyd!

Comments

Nic said…
Mae Live Journal yn terra incognito i fi. Wnes i greu'r blog 'na achos o'n i'n cael ymwelwyr i Morfablog o fan'na, ac mae rhaid cael cyfrif er mwyn postio sylwadau yna, ond dw i yn bwriadu postio mwy fan'na (newydd ymuno รข'r grŵp Dysgu Cymraeg).
Nic said…
Diolch yn fawr am y linc i cymrugothic. Dydy ddim byd wedi newid ers fy amser fi yn y coleg? Ydyn nhw'n dal i fynd i'w dysgos duon gyda darnau bach o bapur yn eu pocedau ar gyfer caneuon y Mission? Dyw chwerthin ar ben goths byth yn mynd yn hen, nadyw?
Nwdls said…
O ydyn, mae'r goths dal o gwmpas ac mewn niferoedd hwy nac erioed hyd y gwela i. Dyw siop Exxentrix, Castle Arcade 'rioed 'di gneud gymaint o fusnes mewn sgidiau chynki anferth a di'r siop jocs, chydig lawr y rhes, rioed di gneud gymaint o fusnes mewn face paints du a gwyn! Deud gwir, dwi'm yn meddwl fod y siop board games wedi gneud cymaint o fusnes chwaith - mae'r lle na'n od iawn ar bnawn sul - PEIDIWCH MYND MENW - ma'n rhy sceri.

Oedd na un yn Dolgellau o'r enw Morfudd oedd yn arfer brathu tinau hogia random. Rhyw fath o sex-vamp oedd ddim cweit yna eto.

Popular posts from this blog