Cronfa: Archif Dolgellau Ar-lein

Dyma gasgliad o ddogfennau a ffotograffau o archif Dolgellau wedi eu digideiddio yn cynnwys:

- lluniau o'r heddlu ar droad y ganrif
- cneifio ym 1913
- Gwersyll yr Urdd Glanllyn yn y 50'au
- Cwrs golff Dolgellau ym 1922 (gwisgoedd a golygfeydd gwych!)
- Sgotwrs y Bermo oddetu 1900
- Syrcas Byffalo Bill yn Nolgellau(!) 19eg ganrif hwyr

Sdwff gwych yn wir, dwi wrth y modd yn darganfod yr hen luniau ma a da o beth eu bod yn cael eu digideiddio 'fyd. Mae angen cael mynediad i'r petha ma.

(o wefan casgliadau digidol Cymryd Rhan)

Comments

Popular posts from this blog