Dydd Gwyl Dewi Hapus?

Not blydi leicli. Ddylwn i fod yn gorfeddian yn gwely yn pendwmpian, gan godi mewn rhyw awr neu ddwy gyda brecwast o sosejus Gorno a chig moch mygedig o fwtsiar Heol Clifton wedi'w ddilyn gan ddwy gac fach ffres. Dylwn i fod yn gneud hyn achos dylen ni gael diwrnod o wyliau heddiw (sori am y ddolen Saesneg, methu ffeindio un Cymraeg...tsk)...

*harumph*

Dwi'n gorod mynd i gwaith yn lle i ddelio efo cachbeth baclog wythnos o ebyst lle roedd yr "out of office reply" yn bownsio nol a mlaen efo rhyw "out of office" arall gan fy moddi mewn ebyst diwerth. Caca pw.

(Ond , joiwch os ma gynnoch chi ddiwrnod o wylia de!)

Comments

Popular posts from this blog