Rhad-ac-am-ddim-gylchu

Diolch i Rhys Wynne am bwyntio fi at wefan
Freecycle. Gwefan lle gallwch gael gwared ar bethau nad oes eu hangen arnoch mwyach mewn ffordd wyrdd yn hytrach nau rhoi yn y bin i fynd lawr y tip a chael set o golff clybs, cloc larwm snoopy neu VHS's crap yn llygru'r ddaear am y dwn im faint o flynyddoedd nesa.

Y rhesymeg ydi fod wastad defnydd i bob math o sdwff, ac fod jync un person yn hollol dderbyniol gan bobol eraill.

Dim ond tri grwp sydd yng Nghymru ar y foment, ac yn sicr mae angen un yng Nghaerdydd gyda'r holl sgipiau llawn dwi'n weld o gwmpas Sblot - heb son am y telis, gwlau a dodrefn sy'n ymboblogi'r sdrydoedd. Mai fel bod yn MFI ar Sanquahar Street weithia!

Comments

Popular posts from this blog