Fforwm Wastraff Caerdydd

Tra'n edrych am bobol i gychwyn cylch Freecycle yng Nghaerdydd fe ddes i ar draws Cardiff Waste Forum sy'n rhoi map (aneglur) o ble mae'r holl wasanaethau ail-gylchu yn y ddinas ynghyd a, wel, ddim lot arall a deud y gwir. Fasech chi'n meddwl fase gen 'fforwm' rywfaint o drafod a chyngor ar ail-gylchu yn gyffredinol ond does dim llawer o hynny yno...

O ia, a drwy gyfieithu'r teitl uchod dwi di llwyddo i gyfieithu mwy na sydd yn yr holl wefan...

Comments

Anonymous said…
Gair o gyngor. Fe ddylech ystyried ardal llai eang. Rwyf newydd sefydlu grwp Freecycle ar gyfer Cwm Cynon gyda phoblogaeth 60,000; cyn hynny, cynnigais grwp Freecycle ar gyfer ardal Rhondda Cynon Taf, poblogaeth 230,000 ond ni dderbyniwyd y cais yma gan fod y grwp yn groes i bolisi newydd Freecycle.

Yn ol cyfrifiad 2001, poblogaeth Caerdydd = 305,000. Awgrymaf y ddylech naill ai (a) ail ystyried enw'r grwp, neu (b) cysylltu gyda un o gydlynwyr Freecycle i drafod eich cais.

Pob lwc.

Darren @cymraeg.org
Nwdls said…
Wel, fel ddudes i yn y postiad isod, dwi ddim rili'n edrych i gychwyn y grwp fy hun. Dwi chydig rhy brysur efo pethau eraill ar hyn o bryd i ymgymeryd a rhagor o waith gwirfoddol, ond ro'n i jest yn meddwl y buasai Fforwm Wastraff Caerdydd yn le delfrydol i gychwyn ar drafodaethau am gychwyn grwp neu grwpiau yn y ddinas.

Dwi wedi anfon ebost atynt yn gofyn iddynt gael cip ar y wefan ac i gysidro cychwyn rhywbeth yma.

Popular posts from this blog