Road to Perdition (2002)

Road to Spar to get my tw ffifti back more like. Cach llwyr, a chach sy'n sefyll ar dir doji iawn. Mae'r ffaith fod cymeriad Hanks yn gallu lladd pawb mor ddi ffwdan a wedyn dangos ochor emosiynol tuag at ei fab yn troi arnai braidd. Ma lladd mewn horror's yn ddderbyniol gen i am ei fod wedi fframio felly, ond ma hwn wedi ei fframio fel ffilm am dda a drwg a ma'r boi 'da' yn ddi-drugaredd yn be ma'n neud. Does dim dyfnder ysbrydol i'r ffilm a ma na rannau o'r plot sy'n synnu fi eu bod nhw mor ddi-feddwl o ddi-logic (felly ma'r pobol ma ar ochor y ffordd yn cymryd nhw mewn am wythnosa efo Hanks yn gwaedu a'r cops ar ei ol, neu nehs i fethu rwbath?). Jude Law yn eitha da fatha rhyw greadur spindli, ma'n edrych weithia fel bo ganddo fwy nag un braich. Creepy go iawn (gyda llaw, lle mae o arni rwan?). Oscar material? Pah. Ddylsa nhw'm cael lle fel ecstra pobol y cwm efo perfformaidau fel'na.

Comments

Popular posts from this blog